Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch ond talu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol am y 6 blwyddyn diwethaf yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.
Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2031 i dalu am fylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Cyn i chi dalu
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol � gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.
Wedyn, gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a rhagolwg o’ch pensiwn i gael gwybod y canlynol:
- a oes gennych unrhyw fylchau
- a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- faint fydd y gost
- a allwch dalu ar-lein
Ni fydd talu cyfraniadau gwirfoddol o reidrwydd yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth bob tro.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn yn lle hynny.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad.
Gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith os ydych yn talu ar-lein gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Ar gyfer pob dull talu arall, gall gymryd hyd at 8 wythnos. Efallai y bydd taliadau o’r tu allan i’r DU yn cymryd mwy o amser.
2. Talu ar-lein gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol ar-lein gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn gweithio yn y DU
Gallwch wneud hyn drwy .
Gallwch hefyd wirio’r canlynol:
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a allwch dalu ar-lein
Ni allwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych wedi byw neu weithio dramor.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith.
Ffyrdd eraill o dalu os na allwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa ar gyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi byw neu weithio o dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn lle.
Os ydych wedi byw neu weithio o dramor
Dysgwch sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol os ydych wedi byw neu weithio o dramor.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 4 mis i’w gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor yn lle.
Os ydych yn byw ar Ynys Manaw
Dysgwch .
3. Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu’ch cyfrif bancio symudol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich manylion bancio ar-lein
- y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:
- talu gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth, neu defnyddiwch hyn er mwyn cael cyfeirnod
- cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ofyn i CThEF ar-lein
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r cyfeirnod anghywir.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Os bydd 5 Ebrill ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
4. Sefydlu taliadau rheolaidd
Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth bresennol, gallwch wneud taliadau rheolaidd i dalu am y diffyg.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
- gwneud taliadau chwarterol (bob 3 mis)
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol
Gallwch ond defnyddio Debyd Uniongyrchol i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026) a’r dyfodol.
I drefnu taliadau misol, lawrlwythwch y ffurflen gais i wneud taliadau rheolaidd (CA5603) a’i hanfon at Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Dylech ganiatáu 21 diwrnod i drefnu Debyd Uniongyrchol newydd.
Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi swm y taliadau a fydd yn cael eu cymryd, a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen fel ‘HMRC NI-DD�.
Fel arfer bydd eich taliadau yn dechrau ym mis Mai. Gallwch dalu ôl-ddyledion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol drwy eich taliad cyntaf os ydych yn trefnu’r Debyd Uniongyrchol ar ôl mis Mai.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
Rhoi’r gorau i’ch taliadau Debyd Uniongyrchol
Gallwch ganslo eich Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg.
Bydd CThEF yn rhoi’r gorau i gasglu taliadau pan fyddwch chi’n naill neu’r llall o’r canlynol:
- rydych yn ddigon hen i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych wedi talu’r swm mwyaf a ganiateir o gyfraniadau gwirfoddol
Gwneud taliadau chwarterol
Os ydych am dalu’n chwarterol, gallwch wneud un o’r canlynol:
- »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r ffurflen gais i wneud taliadau rheolaidd (CA5603), dewiswch daliadau chwarterol, ac yna ei hanfon drwy’r post i’r cyfeiriad ar y ffurflen
- ffonio CThEF a rhowch wybod eich bod am wneud taliadau chwarterol
Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch bob mis Gorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.
Rhoi’r gorau i’ch taliadau chwarterol
Gallwch gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) a gofyn iddynt roi’r gorau i’ch taliadau ar unrhyw adeg.
Bydd CThEF yn rhoi’r gorau i anfon ceisiadau am daliad pan fyddwch yn ddigon hen i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
5. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Gwnewch eich taliad i’r cyfrif banc Cyllid a Thollau EF (CThEF) canlynol, oni bai eich bod yn talu o gyfrif tramor:
- cod didoli - 08 32 20
- rhif y cyfrif - 12001004
- enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts
Cyfeirnod y taliad
Defnyddiwch eich cyfeirnod 18 digid wrth wneud eich taliad. Gallwch gael hyd iddo ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.
Ar gyfer taliadau chwarterol, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gydag 11.
Ar gyfer taliadau untro, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gyda 60.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:
- talu gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth, neu defnyddiwch hyn er mwyn cael cyfeirnod
- cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ofyn i CThEF ar-lein
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93
- enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts
Cyfeirnod taliad tramor
Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC�, eich cyfenw ac yna blaenlythyren eich enw cyntaf. Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC� a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.
Enghreifftiau
Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA
Os mai’ch enw chi yw John Douglas-Hamilton a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ
Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.
Cyfeiriad bancio
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
6. Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Talwch ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen arnoch y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) gyd²¹â€™c³ó cais am daliad.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig�.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:
- talu gan d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth, neu defnyddiwch hyn er mwyn cael cyfeirnod
- cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ofyn i CThEF ar-lein
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
7. Anfon siec drwy'r post
Gallwch dalu drwy anfon siec at:
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF HMRC
BX9 1ST
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Bydd y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF yn cynnwys slip talu gyda chyfeirnod 18 digid arno. Anfonwch y slip talu ynghyd â’ch siec.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec.
Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Os nad oes gennych slip talu CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- faint rydych yn ei dalu
- y cyfnod rydych yn talu ar ei gyfer
- eich cyfeirnod 18 digid neu’ch rhif Yswiriant Gwladol
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:
- Cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ofyn i CThEF ar-lein
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.