Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Trosolwg
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch ond talu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol ar gyfer y 6 blwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill.
Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2031 i dalu am fylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Cyn i chi dalu
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol 鈥� gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.
Wedyn, gallwch wirio鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol a rhagolwg o鈥檆h pensiwn i gael gwybod y canlynol:
- a oes gennych unrhyw fylchau
- a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- faint fydd y gost
- a allwch dalu ar-lein
Ni fydd talu cyfraniadau gwirfoddol o reidrwydd yn cynyddu鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth bob tro.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch hefyd gysylltu 芒 Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn yn lle hynny.
Ar 么l i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol 补鈥檆丑 cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar 么l i CThEF gael y taliad.
Gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith os ydych yn talu ar-lein gan d诲别蹿苍测诲诲颈辞鈥檙 gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth. Ar gyfer pob dull talu arall, gall gymryd hyd at 8 wythnos. Efallai y bydd taliadau o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU yn cymryd mwy o amser.