Taliad Tanwydd Gaeaf
Faint fyddwch chi'n ei gael
Dylech fod wedi cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn rhoi gwybod i chi faint o Daliad Tanwydd Gaeaf byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.
Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais.
Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a鈥檆h amgylchiadau rhwng 16 i 22 Medi 2024. Mae hwn yn cael ei alw yn 鈥榳ythnos gymhwyso鈥�.
Mae unrhyw arian a gewch yn ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun
Byddwch yn cael naill ai:
- 拢200 os cawsoch eich geni rhwng 23 Medi 1944 a 22 Medi 1958
- 拢300 os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1944
Os ydych yn byw gyda rhywun
Os ydych chi a鈥檆h partner yn hawlio unrhyw un o鈥檙 fudd-daliadau ar y cyd, bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:
- 拢200 os cafodd un neu鈥檙 ddau ohonoch eich geni rhwng 23 Medi 1944 a 22 Medi 1958
- 拢300 os cafodd un neu鈥檙 ddau ohonoch eich geni cyn 23 Medi 1944
Byddwch yn cael eich talu i mewn i鈥檙 cyfrif banc mae eich budd-daliadau fel arfer yn cael eu talu i mewn iddo.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal
Os ydych yn gymwys byddwch yn cael naill ai:
- 拢200 os cawsoch eich geni rhwng 23 Medi 1944 a 22 Medi 1958
- 拢300 os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1944