Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi neu’ch partner yn cael Budd-dal Plant

  • mae rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi, ac mae’r person hwnnw’n cyfrannu swm sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gostau cynnal y plentyn

Does dim ots os nad eich plentyn eich hun yw’r plentyn sy’n byw gyda chi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Y trothwy

Mae incwm unigol dros y trothwy os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r incwm dros £60,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025

  • mae’r incwm dros £50,000 ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024

Yr hyn sy’n cyfrif fel incwm

I weld a yw’ch incwm dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’ch ‘incwm net wedi’i addasu�.

Eich incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau, ac nid yw’n cynnwys pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o’ch incwm net wedi’i addasu.

Pwy sy’n talu’r tâl treth

Os yw’r incwm net wedi’i addasu ar eich cyfer chi a’ch partner hefyd dros y trothwy, yna’r person sydd â’r incwm uwch sy’n gyfrifol am dalu’r tâl treth.

Mae ‘partnerâ€� yn golygu rhywun nad ydych wedi gwahanu oddi wrtho’n barhaol â€� rhywun yr ydych yn briod ag ef, mewn partneriaeth sifil ag ef, ²Ô±ð³Ü‵µ byw gydag ef fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os yw’ch incwm dros y trothwy

Gallwch ddewis naill ai:

  • cael taliadau Budd-dal Plant a thalu unrhyw dâl treth ar ddiwedd pob blwyddyn dreth
  • optio allan o gael taliadau a thrwy hynny beidio â thalu’r tâl treth

Os byddwch yn dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Dylech lenwi’r ffurflen hawlio Budd-dal Plant o hyd. Mae angen i chi ddatgan ar y ffurflen nad ydych yn dymuno cael taliadau.

Mae angen i chi lenwi’r ffurflen hawlio os ydych yn dymuno:

  • cael credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • cael rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddo orfod gwneud cais am un â€� fel arfer, bydd yn cael y rhif cyn troi’n 16 oed

Os ydych eisoes yn cael taliadau Budd-dal Plant

Gallwch ddewis i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

2. Talu’r tâl treth

I dalu’r tâl treth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

  2. ±ô±ô±ð²Ô·É¾±ÌýFfurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth a thalu’r hyn sydd arnoch

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth ar ei chyfer.

Gallwch wynebu cosb os na fyddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad neu os na fyddwch yn datgan Budd-dal Plant ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.

Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner

Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF) i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi � ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi.

Gallwch ond gofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol amdanoch:

Os gallwch, rhowch yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:

  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo

Anfonwch eich llythyr i:

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

3. Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

I optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i optio allan.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai ²Ô±ð³Ü‵µ asiant awdurdodedig.

Ni allwch optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant os ydych yn eu defnyddio i ad-dalu gordaliad neu i ad-dalu rhai budd-daliadau eraill o wlad arall.

Cyfrifoldebau ar ôl i chi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dâl treth sydd arnoch am bob blwyddyn dreth hyd at y dyddiad y daw eich taliadau Budd-dal Plant i ben.

Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif faint a allai fod arnoch bob blwyddyn dreth.

Hyd yn oed os byddwch yn optio allan o gael taliadau, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich hawl i Fudd-dal Plant.

4. Ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant

Gallwch ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant os yw’r canlynol yn wir:

I ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant, dylech wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai ²Ô±ð³Ü‵µ asiant awdurdodedig.

Pryd y byddwch yn dechrau cael taliadau

Gall gymryd hyd at 28 diwrnod ar ôl i’ch cais gyrraedd y Swyddfa Budd-dal Plant cyn i chi gael eich taliad cyntaf.

Bydd y swyddfa’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi faint o arian y byddwch yn ei gael o daliadau wedi’u hôl-ddyddio (os o gwbl).

Cyfrifoldebau ar ôl i’ch Budd-dal Plant ailddechrau

Bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu unrhyw dâl treth ar y budd-dal a gafwyd o’r dyddiad ailddechrau os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu� dros y trothwy.

Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif eich incwm net wedi’i addasu ac i weld a allai’r tâl treth effeithio arnoch.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant.

5. Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Newid yn eich incwm

Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl treth os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu� unigol chi, neu ‘incwm net wedi’i addasu� unigol eich partner, o dan y trothwy am y flwyddyn dreth gyfan.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y newidiadau i’ch incwm net wedi’i addasu ac i weld os byddan nhw’n effeithio ar y tâl treth.

Gallwch ddewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant neu eu hailddechrau unrhyw bryd.

Os yw’ch incwm net wedi’i addasu yn disgyn o dan y trothwy a does dim angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bellach, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.

Mae gennych blentyn newydd

Mae hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y canlynol:

  • credydau Yswiriant Gwladol, sy’n diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth

  • budd-daliadau eraill, megis Lwfans Gwarcheidwad

Mae Budd-dal Plant yn profi eich bod chi (neu’ch partner) yn rhoi cymorth i blentyn arall. Efallai y byddwch yn talu llai o gynhaliaeth plant ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda chi.

Gallwch wneud hawliad newydd neu ddiogelu’ch hawl i’r uchod drwy wneud y canlynol:

Mae partner yn symud i mewn neu allan

Efallai y bydd eich sefyllfa’n newid os yw’ch incwm net wedi’i addasu dros y trothwy ac rydych yn symud i fyw ²Ô±ð³Ü‵µ gwahanu â rhywun sy’n cael Budd-dal Plant.

Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net wedi’i addasu uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.

Mae’r tâl treth yn gymwys o’r dyddiad yr ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd hyd nes y dyddiad yr ydych yn gwahanu’n barhaol, neu’r dyddiad y mae’r taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben � er enghraifft gan fod y plentyn yn rhy hen i fod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.

Nid yw cyfnodau byr ar wahân, megis aros yn yr ysbyty neu weithio oddi cartref, yn cyfrif fel gwahanu.