Sut mae TAW yn gweithio
Faint o TAW y mae鈥檔 rhaid i chi ei chodi
Mae 3 gwahanol fath o gyfraddau TAW (yn agor tudalen Saesneg) y gellir eu hychwanegu at gynhyrchion. Mae pa un sy鈥檔 berthnasol yn dibynnu ar y nwyddau a鈥檙 gwasanaethau, a sut maent yn cael eu defnyddio.
Codir y gyfradd safonol o 20% ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Dylech godi鈥檙 gyfradd hon oni bai bod y nwyddau neu鈥檙 gwasanaethau鈥檔 cael eu hystyried yn rhai ar gyfradd is neu gyfradd sero.
Mae enghreifftiau o eitemau ar gyfradd sero鈥檔 cynnwys:
- llyfrau a phapurau newydd
- dillad ac esgidiau i blant
- helmedau beiciau modur
- y rhan fwyaf o nwyddau rydych yn eu hallforio o Gymru, Lloegr a鈥檙 Alban (Prydain Fawr) i wlad y tu allan i鈥檙 DU
- y rhan fwyaf o nwyddau rydych yn eu hallforio o Ogledd Iwerddon i wlad y tu allan i鈥檙 UE a鈥檙 DU
- nwyddau rydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer TAW - gallwch