Sut mae TAW yn gweithio
Ar beth mae TAW yn cael ei chodi
Codir TAW ar bethau fel:
- nwyddau a gwasanaethau (mae gwasanaeth yn unrhyw beth heblaw cyflenwi nwyddau)
- llogi neu fenthyg nwyddau i rywun
- gwerthu asedion busnes
- comisiwn
- eitemau a werthir i staff - er enghraifft prydau o鈥檙 ffreutur
- nwyddau busnes a ddefnyddir at ddibenion personol
- 鈥榙iffyg gwerthiant鈥� fel cyfnewid, rhan-gyfnewid (yn agor tudalen Saesneg) a rhoddion
Gelwir y rhain yn 鈥榗yflenwadau trethadwy鈥�. Mae rheolau gwahanol ar gyfer elusennau (yn agor tudalen Saesneg).
Nid yw TAW yn cael ei chodi ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi鈥檜 heithrio rhag TAW neu nad ydynt yn cael eu heffeithio gan TAW (鈥榶 tu allan i gwmpas鈥�).