Rhywun yn mynd 芒 chi i dribiwnlys cyflogaeth

Sgipio cynnwys

Os byddwch yn colli鈥檙 achos

Os byddwch yn colli, gall y tribiwnlys eich gorchymyn i wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae鈥檙 enghreifftiau yn cynnwys:

  • ailbenodi鈥檙 hawlydd i鈥檞 swydd
  • talu iawndal os nad yw鈥檔 bosib ailbenodi鈥檙 hawlydd i鈥檞 swydd
  • talu treuliau tyst(ion)
  • talu iawndal neu enillion a gollir

Talu iawndal

Talu iawndal yw鈥檙 canlyniad mwyaf cyffredin mewn achos tribiwnlys. Gall fod terfynau ar faint o arian gall tribiwnlys ei ddyfarnu. Nid oes terfyn mewn achosion gwahaniaethu.

Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cyfrifo鈥檙 swm yn seiliedig ar y golled ariannol mae鈥檙 unigolyn wedi鈥檌 brofi o ganlyniad i鈥檆h gweithredoedd.

Cyfrifir llog o鈥檙 dyddiad cafwyd y dyfarniad, ond ni fydd rhaid i chi dalu llog os byddwch yn talu鈥檙 iawndal yn ei gyfanrwydd o fewn 14 diwrnod.

Gallwch gael eich galw i鈥檙 llys a鈥檆h gorfodi i dalu. Gallwch hefyd gael dirwy a鈥檆h enwi ar-lein os na fyddwch yn talu.

Ad-dalu budd-daliadau gwladol

Efallai bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) mae鈥檙 hawlydd wedi hawlio wrth ddod a鈥檜 hachos i鈥檙 tribiwnlys.

Mae hyn er mwyn osgoi eu bod yn cael eu talu ddwywaith.

Bydd y tribiwnlys a鈥檙 Uned Adennill Iawndal yn dweud wrthych beth fydd rhaid i chi ei wneud a faint i鈥檞 dalu.