Cyn y gwrandawiad

Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd cyn y gwrandawiad - byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau hyn. Rhaid i chi baratoi dogfennau a gwneud trefniadau i dystion fynychu ymlaen llaw.

鈥楪wrandawiad Rhagarweiniol鈥�

Efallai gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) gyda鈥檙 barnwr i benderfynu ar bethau fel:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • pa mor hir dylai鈥檙 gwrandawiad bara

Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod i chi os bydd rhaid i chi roi tystiolaeth neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Trefnu dogfennau

Gallwch ofyn i鈥檙 hawlydd am ddogfennau a fydd yn eich helpu gyda鈥檙 achos, a gallant ofyn am ddogfennau gennych chi hefyd.

Mae enghreifftiau o ddogfennau yn cynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion cynllun pensiwn
  • nodiadau cyfarfodydd perthnasol

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech gyfnewid dogfennau.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i鈥檙 gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod 芒 thystion i鈥檙 gwrandawiad os ydynt yn gallu rhoi tystiolaeth sy鈥檔 berthnasol yn uniongyrchol i鈥檙 achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ac nid ydynt eisiau bod yn dyst, gallwch ofyn i鈥檙 tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i鈥檙 swyddfa tribiwnlys sy鈥檔 delio 芒鈥檙 achos, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst
  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu鈥檙 achos
  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau鈥檙 tyst.