Rhywun yn mynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth

Printable version

1. Trosolwg

Gall cyflogai neu rywun arall (er enghraifft ymgeisydd am swydd neu undeb llafur) fynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth am amryw faterion, gan gynnwys:

  • cyflog
  • diswyddo
  • gwahaniaethu

Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth a bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘atebydd�) a’r parti arall (yr ‘hawlydd�) cyn gwneud penderfyniad.

Os byddwch yn colli’r achos, efallai y bydd rhaid i chi dalu iawndal neu ailbenodi’r hawlydd i’w swydd.

Datrys yr anghydfod heb wrandawiad

Bydd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cysylltu â chi os bydd rhywun eisiau gwneud hawliad yn eich erbyn. Byddant yn cynnig gweithio gyda chi a’r hawlydd i geisio datrys y broblem heb fynd i dribiwnlys - gelwir hyn yn ‘cymodi�.

Ffoniwch Acas i gael cymorth a chyngor.

Acas
Rhif ffôn: 0300 123 11 00
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Ymateb i hawliad

Bydd y tribiwnlys yn anfon llythyr atoch (a elwir yn ‘pecyn ymateb�) os bydd hawliad wedi’i wneud yn eich erbyn ac nid yw cymodi wedi gweithio.

Cyn i chi ymateb, darllenwch y cyfarwyddyd ar ymateb i hawliad.

Wedyn gallwch ymateb un ai:

  • trwy lenwi a dychwelyd y pecyn ymateb a gewch
  • trwy lawrlwytho a llenwi’r ffurflen ymateb a’i hanfon i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos

Os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith neu’n fath arall o weithiwr proffesiynol a bod yna gyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.

Rhaid i chi ymateb i’r hawliad o fewn 28 diwrnod.

Efallai byddwch yn gallu cael rhagor o amser i ymateb - holwch y tribiwnlys. Os byddwch yn hwyr yn ymateb neu ddim yn ymateb o gwbl, gall y tribiwnlys wneud penderfyniad yn eich erbyn heb gynnal gwrandawiad.

Cynnig iawndal i’r hawlydd

Gallwch geisio setlo’r achos unrhyw adeg trwy gynnig talu iawndal i’r hawlydd (a elwir yn ‘�).

Cael cymorth neu gyngor cyfreithiol

Efallai byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os bydd hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn.

Ffoniwch llinell ymholiadau’r tribiwnlys cyflogaeth i gael arweiniad cyffredinol ar sut mae’r broses yn gweithio neu os ydych yn gael problemau technegol gyda’r gwasanaeth ar-lein. Ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.

Canolfan gyswllt cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth
Rhif ffôn: 0300 303 5176 (Llinell Iaith Gymraeg)
Rhif ffôn: 0300 123 1024 (Siaradwyr Saesneg yng Nghymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0300 790 6234 (Yr Alban)
Ffôn testun: 18001 0300 123 1024 (Cymru a Lloegr)
Ffôn testun: 18001 0300 790 6234 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau

Cymorth i ymateb ar-lein

Cysylltwch â We Are Group os ydych eisiau ymateb ar-lein ond nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we.
Ìý

We Are Group
[email protected]
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Bydd yn delio â’ch achos.

2. Cyn y gwrandawiad

Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd cyn y gwrandawiad - byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau hyn. Rhaid i chi baratoi dogfennau a gwneud trefniadau i dystion fynychu ymlaen llaw.

‘Gwrandawiad Rhagarweiniol�

Efallai gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) gyda’r barnwr i benderfynu ar bethau fel:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • pa mor hir dylai’r gwrandawiad bara

Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod i chi os bydd rhaid i chi roi tystiolaeth neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Trefnu dogfennau

Gallwch ofyn i’r hawlydd am ddogfennau a fydd yn eich helpu gyda’r achos, a gallant ofyn am ddogfennau gennych chi hefyd.

Mae enghreifftiau o ddogfennau yn cynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion cynllun pensiwn
  • nodiadau cyfarfodydd perthnasol

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech gyfnewid dogfennau.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os ydynt yn gallu rhoi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ac nid ydynt eisiau bod yn dyst, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst
  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’r achos
  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.

3. Yn y gwrandawiad

Fel arfer cynhelir achosion yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio.

Mae’n rhaid i chi ddod â’r dogfennau rydych yn eu defnyddio i gefnogi’r achos gyda chi.

Ni allwch hawlio costau teithio am ddod i’r gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Byddwch yn cyflwyno’r achos i’r tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, megis cyfreithiwr, ffrind neu aelod o’ch teulu. Bydd yr hawlydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.

Efallai bydd y bobl ganlynol yn gofyn cwestiynau i chi:

  • y barnwr
  • yr hawlydd
  • y 2 aelod arall o’r panel tribiwnlys (dim ond mewn tribiwnlysoedd penodol)

Cael penderfyniad

Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch yn y post ychydig ddyddiau neu wythnosau ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar 188ÌåÓý. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.

Os byddwch yn ennill yr achos

Gyda’r mwyafrif o achosion, ni fyddwch yn cael iawndal os byddwch yn ennill. Fodd bynnag, os bu i’r hawlydd ymddwyn yn afresymol neu os nad oedd unrhyw obaith y byddant yn llwyddiannus, gallwch ofyn i’r tribiwnlys ddyfarnu iawndal costau i chi.

4. Os byddwch yn colli’r achos

Os byddwch yn colli, gall y tribiwnlys eich gorchymyn i wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys:

  • ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
  • talu iawndal os nad yw’n bosib ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
  • talu treuliau tyst(ion)
  • talu iawndal neu enillion a gollir

Talu iawndal

Talu iawndal yw’r canlyniad mwyaf cyffredin mewn achos tribiwnlys. Gall fod terfynau ar faint o arian gall tribiwnlys ei ddyfarnu. Nid oes terfyn mewn achosion gwahaniaethu.

Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cyfrifo’r swm yn seiliedig ar y golled ariannol mae’r unigolyn wedi’i brofi o ganlyniad i’ch gweithredoedd.

Cyfrifir llog o’r dyddiad cafwyd y dyfarniad, ond ni fydd rhaid i chi dalu llog os byddwch yn talu’r iawndal yn ei gyfanrwydd o fewn 14 diwrnod.

Gallwch gael eich galw i’r llys a’ch gorfodi i dalu. Gallwch hefyd gael dirwy a’ch enwi ar-lein os na fyddwch yn talu.

Ad-dalu budd-daliadau gwladol

Efallai bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) mae’r hawlydd wedi hawlio wrth ddod a’u hachos i’r tribiwnlys.

Mae hyn er mwyn osgoi eu bod yn cael eu talu ddwywaith.

Bydd y tribiwnlys a’r Uned Adennill Iawndal yn dweud wrthych beth fydd rhaid i chi ei wneud a faint i’w dalu.

5. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y penderfyniad os ydych yn colli’r achos.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i swyddfa’r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i chi gael y penderfyniad, gan ddweud pam eich bod eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried.

Mae rhaid i chi roi rhesymau da, er enghraifft:

  • mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y daeth i’w benderfyniad
  • ni chawsoch eich hysbysu am y gwrandawiad
  • mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg ers y gwrandawiad

Anfonwch eich llythyr i swyddfa’r tribiwnlys a wnaeth ddelio â’r achos.

Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth os ydych yn credu bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

6. Deddfwriaeth

Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth yn dilyn rheolau a phrosesau penodol a rhaid i chi eu dilyn hefyd.

Gallwch hefyd ddarllen eraill.

Gallwch ddarllen mwy am a .
Ìý
Gallwch hefyd ddarllen yr arweiniad am .