Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Teithio a threuliau dros nos
Os oes rhaid i chi deithio ar gyfer eich gwaith, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar y gost neu鈥檙 arian rydych wedi鈥檌 wario ar fwyd a threuliau dros nos.
Ni allwch hawlio ar gyfer teithio i鈥檆h gwaith ac yn 么l, oni bai eich bod yn teithio i leoliad dros dro ar gyfer gwaith.
Gallwch hawlio rhyddhad treth am arian rydych wedi ei wario ar bethau megis:
-
costau trafnidiaeth gyhoeddus
-
cost gwesty os oes rhaid i chi aros dros nos
-
bwyd a diod
-
taliadau atal tagfeydd a thollau
-
ffioedd parcio
-
galwadau ff么n busnes a chostau argraffu
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio rhyddhad treth ar filltiroedd busnes.
Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a鈥檙 4 blwyddyn dreth flaenorol.
Sut i hawlio
Os ydych yn hawlio ar gyfer treuliau gwestai a phrydau o fwyd, bydd angen i chi anfon derbynebau sy鈥檔 dangos dyddiad eich arhosiad ac enw鈥檙 gwesty, neu鈥檙 hyn y gwnaethoch ei fwyta ac enw鈥檙 bwyty.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:
-
a allwch hawlio
-
sut i hawlio
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae鈥檔 rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.