Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Gweithio gartref
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer costau ychwanegol yr aelwyd os ydych yn gweithio gartref am yr wythnos gyfan, neu am ran o鈥檙 wythnos.
Pwy all hawlio rhyddhad treth
Gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi weithio gartref, er enghraifft oherwydd:
-
bod eich swydd yn gofyn i chi fyw ymhell o鈥檆h swyddfa
-
nad oes gan eich cyflogwr swyddfa
Pwy na all hawlio rhyddhad treth
Ni allwch hawlio rhyddhad treth os ydych yn dewis gweithio gartref. Mae hyn yn cynnwys os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae eich contract cyflogaeth yn caniat谩u i chi weithio gartref yr holl amser neu ar adegau
-
mae gan eich cyflogwr swyddfa, ond ni allwch fynd yno weithiau am ei fod yn llawn
Yr hyn y gallwch hawlio ar ei gyfer
Gallwch dim ond hawlio am bethau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h gwaith, megis:
-
galwadau ff么n busnes
-
nwy a thrydan ar gyfer eich man gwaith
Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a鈥檙 4 blwyddyn dreth flaenorol.
Ni allwch hawlio am bethau yr ydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes ac sydd hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion preifat, megis rhent neu gysylltiad band eang.
Faint y gallwch ei hawlio聽
Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:聽
-
拢6 yr wythnos聽
-
yr union swm a wariwyd gennych聽
Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar y gyfradd yr ydych yn talu treth arni.聽
Enghraifft
Os ydych yn talu鈥檙 gyfradd dreth sylfaenol o 20% ac yn hawlio rhyddhad treth ar 拢6 yr wythnos, byddech yn cael 拢1.20 yr wythnos mewn rhyddhad treth (20% o 拢6).
Sut i hawlio
Pan fyddwch yn hawlio, bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth i brofi eich bod yn gweithio gartref os ydych yn hawlio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
-
拢6 yr wythnos ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu ar 么l hynny
-
yr union swm a wariwyd gennych
Os ydych yn hawlio鈥檙 union swm a wariwyd gennych, bydd hefyd angen i chi anfon tystiolaeth megis copi o鈥檆h derbynebau neu鈥檆h biliau.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:
-
a allwch hawlio
-
sut i hawlio
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae鈥檔 rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.