Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y costau canlynol:
-
atgyweirio m芒n offer sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, siswrn neu dril trydanol)
-
glanhau neu atgyweirio dillad arbenigol, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, ofer么ls neu esgidiau diogelwch)
Hawlio rhyddhad ar gyfer gwisg unffurf neu ddillad arbenigol
Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer gwisg unffurf. Gwisg unffurf yw set o ddillad sy鈥檔 dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft nyrs, neu swyddog heddlu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio ar gyfer dillad arbenigol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft ofer么ls neu esgidiau diogelwch.
Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer:
-
y gost gychwynnol o brynu dillad ar gyfer gwaith
-
glanhau neu atgyweirio dillad gwaith bob dydd, neu brynu rhai newydd (hyd yn oed os oes rhaid i chi wisgo dyluniad neu liw penodol)
-
y gost o olchi eich gwisg unffurf neu ddillad arbenigol eich hun os yw鈥檆h cyflogwr yn darparu gwasanaeth golchi dillad yn rhad ac am ddim, a鈥檆h bod yn dewis peidio 芒鈥檌 ddefnyddio
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol. Os yw鈥檆h swydd yn gofyn i chi ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol dylai鈥檆h cyflogwr wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
-
rhoi Cyfarpar Diogelu Personol i chi yn rhad ac am ddim
-
gofyn i chi ei brynu ac ad-dalu鈥檙 costau i chi
Faint y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
-
y swm gwirioneddol a wariwyd gennych
-
swm penodedig a gytunwyd arno (鈥榯raul gyfradd unffurf鈥� neu 鈥榙idyniad cyfradd unffurf鈥�)
Gwiriwch a oes gan eich swydd draul gyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) y cytunwyd arni.
Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a鈥檙 4 blwyddyn dreth flaenorol.
Sut i hawlio
Os ydych yn hawlio鈥檙 union swm a wariwyd gennych, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:聽聽聽
-
anfon cop茂au o鈥檆h derbynebau, neu dystiolaeth arall, sy鈥檔 profi eich bod wedi talu am yr eitemau hyn聽聽
-
hawlio鈥檙 eitemau hyn fel 鈥楾reuliau eraill鈥� yn y gwasanaeth hwn聽
Os ydych yn hawlio swm sefydlog y cytunwyd arno (鈥榯raul gyfradd unffurf鈥� (yn agor tudalen Saesneg)) mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol: 聽聽
-
peidio ag anfon unrhyw dystiolaeth聽聽
-
hawlio鈥檙 eitemau hyn fel 鈥楪wisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer鈥� yn y gwasanaeth hwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:聽
-
gwirio a allwch hawlio聽
-
gwneud hawliad, os ydych yn gymwys
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae鈥檔 rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.