Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod
Printable version
1. Dod yn landlord preswyl
Rydych yn landlord preswyl os ydych yn rhoi rhan o’ch prif gartref, neu’ch unig gartref, ar osod.
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn rhoi rhan o’ch cartref ar osod (er enghraifft drwy apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Os felly, bydd gennych gyfrifoldebau a hawliau penodol:
- byddwch yn gyfrifol am gadw’r eiddo yn ddiogel ac mewn cyflwr da (yn agor tudalen Saesneg)
- nid oes gan denant neu lojer yr hawl i herio’r rhent a gytunwyd arno
- mae’n bosibl y gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth (neu £3,750 os ydych yn rhannu’r incwm gyda rhywun arall) o dan y Cynllun Rhentu Ystafell
- gallwch roi llai o rybudd pan fyddwch yn dod â thenantiaeth i ben o gymharu â’r rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi os ydych yn rhoi’r holl eiddo ar osod
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Gofynnwch am eirda gan denantiaid neu lojers posibl, a gwirio’r rhain cyn llofnodi unrhyw gytundeb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw ynghylch rhoi ystafelloedd yn eich cartref ar osod (yn agor tudalen Saesneg).
2. Y Cynllun Rhentu Ystafell
Mae’r Cynllun Rhentu Ystafell yn eich galluogi i ennill hyd at uchafswm o £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth drwy roi llety wedi’i dodrefnu yn eich cartref ar osod. Bydd y trothwy yn cael haneru i £3,750 os ydych yn rhannu’r incwm gyda rhywun arall.
Eich penderfyniad chi yw faint o’ch cartref rydych am roi ar osod.
Sut mae’n gweithio
Mae’r eithriad rhag treth yn awtomatig os ydych yn ennill llai na’ch trothwy. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi wneud dim byd.
Os ydych yn ennill mwy na’ch trothwy, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.
Gallwch wedyn fynd ati i optio i mewn i’r cynllun a hawlio’ch lwfans rhydd o dreth. Gallwch wneud hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch ddewis peidio ag optio i mewn i’r cynllun, a chadw cofnod o’ch incwm a’ch treuliau ar dudalennau ‘eiddo� eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth fanwl ynghylch sut i lenwi’r ffurflen, a phryd mae’n synhwyrol i chi optio allan o’r cynllun, darllenwch daflen gymorth Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg).
Cymhwystra
Gallwch ddewis optio i mewn i’r cynllun ar unrhyw adeg os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn landlord preswyl, p’un a ydych yn berchen ar eich cartref ai peidio
-
rydych yn rhedeg eiddo gwely a brecwast neu dÅ· gwesteion
Ni allwch ddefnyddio’r cynllun ar gyfer cartrefi a droswyd yn fflatiau ar wahân.
3. Y math o denantiaeth sydd gan eich lojer
Mae’r ffordd yr ydych yn rhannu’ch cartref â lojer yn cael effaith ar y math o denantiaeth sydd ganddo. Bydd hyn, yn ei dro, yn cael effaith ar hawliau’r lojer a’r ffordd y gallwch ddod â’r denantiaeth i ben.
Mae’ch lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio
Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n byw yn eich cartref chi
- rydych chi, neu aelod o’ch teulu, yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu ystafell fyw ag ef
Yn yr achos hwn, dim ond rhoi ‘hysbysiad rhesymol� iddo y mae angen i chi ei wneud er mwyn dod â’i denantiaeth i ben � ac ni fydd angen i chi fynd i’r llys i’w droi allan.
Fel arfer, mae ‘hysbysiad rhesymol� yn golygu hyd y cyfnod ar gyfer talu’r rhent. Er enghraifft, os telir y rhent yn fisol, dylech roi un mis o rybudd.
Mae gan eich lojer ddiogelwch sylfaenol
Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd â diogelwch sylfaenol os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n byw yn eich cartref chi
- nid yw’n rhannu unrhyw ystafelloedd â chi na’ch teulu
Os na fydd eich lojer yn gadael pan fyddwch yn gofyn iddo adael, bydd angen i chi gael gorchymyn llys er mwyn ei droi allan.
Mae gan yr elusen, Shelter, gyngor ynghylch a .
Hyd y denantiaeth
Gall tenantiaeth neu drwydded redeg am:
- gyfnod amhenodol � hynny yw, yn rhedeg am gyfnod amhenodol o un cyfnod rhentu i’r nesaf
- cyfnod penodol � hynny yw, yn para am nifer benodol o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd
Os nad ydych yn cytuno ar gyfnod penodol ar gyfer tenantiaeth, bydd y denantiaeth yn cael ei thrin fel un ‘cyfnod amhenodol� yn awtomatig.
Gall trwyddedau fod yn benagored ar gyfer trefniadau anffurfiol, megis os ydych yn caniatáu i ffrind aros dros dro o bryd i’w gilydd.
4. Rhenti, biliau, trethi
Rhent
Eich penderfyniad chi yw faint o rent yr ydych am ei godi, ond dylech gytuno’r swm hwn â’ch tenant ymlaen llaw. Gallwch hefyd ofyn am flaendal a derbyn Budd-dal Tai ar gyfer rhent.
Mae’n rhaid i chi roi llyfr rhent i denantiaid sy’n talu’n wythnosol.
Treth Gyngor
Byddwch yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor (yn agor tudalen Saesneg), a gallwch gynnwys rhan o’r gost hon fel rhan o’r rhent y byddwch yn ei godi. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor os bydd cael tenant yn golygu nad ydych yn gymwys i gael gostyngiad fel person sengl mwyach.
Os nad ydych yn siŵr pwy y dylai talu’r Dreth Gyngor, gwiriwch â’ch .
Biliau cyfleustodau
Os mai chi sy’n talu’r biliau cyfleustodau ar gyfer y tŷ cyfan, gallwch gynnwys tâl fel rhan o’r rhent neu osod mesuryddion rhagdaledig.
Ni allwch godi tâl ond am y swm a dalwyd gennych am nwy a thrydan (gan gynnwys TAW), neu gallech wynebu achosion sifil. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch .
Treth Incwm
Mae Treth Incwm yn daladwy ar yr incwm rhent y byddwch yn ei gael.
Os nad ydych yn rhan o’r Cynllun Rhentu Ystafell, bydd Treth Incwm yn cael ei chodi ar unrhyw incwm rhent y byddwch yn ei gael ar ôl tynnu treuliau busnes gosod eiddo (yn agor tudalen Saesneg). Mae enghreifftiau o dreuliau busnes yn cynnwys:
- yswiriant
- cynnal a chadw
- atgyweiriadau (ond nid gwelliannau)
- biliau cyfleustodau
Os ydych yn rhan o’r Cynllun Rhentu Ystafell, byddwch yn talu Treth Incwm mewn ffordd wahanol.
Treth Enillion Cyfalaf
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref os:
- ydych yn rhoi’r eiddo cyfan, neu ran ohono, ar osod
- oes gennych fwy nag un tenant neu lojer ar y tro
Fodd bynnag, mae’n bosibl bod gennych hawl i gael Rhyddhad Man Preswylio Preifat a Rhyddhad Gosod (yn agor tudalen Saesneg).
Blaendaliadau
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid preswyl ddiogelu blaendaliadau eu tenantiaid (yn agor tudalen Saesneg) drwy un o’r cynlluniau a gymeradwywyd gan y llywodraeth.
Gall eich cyngor lleol warantu rhent ar gyfer tenant posibl sy’n methu fforddio blaendal.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu trethi eraill os ydych yn rhedeg eiddo gwely a brecwast, neu os ydych yn darparu gwasanaethau glanhau a phrydau o fwyd i’ch gwesteion. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
5. Dod â thenantiaeth i ben
Sut i ddod â thrwydded neu denantiaeth sydd wedi’i heithrio i ben
Os yw’ch lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio, dim ond rhoi ‘hysbysiad rhesymol� iddo y mae angen i chi ei wneud cyn dod â’r denantiaeth i ben.
Fel arfer, mae’r ‘hysbysiad rhesymol� yn golygu hyd y cyfnod ar gyfer talu’r rhent � felly, os telir y rhent yn wythnosol, bydd angen i chi roi un wythnos o rybudd. Nid oes rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig.
Gallwch wedyn fynd ati i newid y cloeon ar ddrws ystafell eich lojer, hyd yn oed os yw ei bethau yn yr ystafell o hyd. Mae’n rhaid i chi roi ei bethau yn ôl iddo.
Sut i ddod â thrwydded neu denantiaeth sydd heb ei heithrio i ben
Os yw’ch lojer yn feddiannydd â diogelwch sylfaenol, mae’n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig iddo cyn dod â’r denantiaeth i ben. Yn aml, mae’r cyfnod rhybudd yn 4 wythnos, ond bydd hyn yn dibynnu ar y denantiaeth neu’r cytundeb.
Os na fydd eich lojer yn gadael, bydd angen i chi gael gorchymyn llys er mwyn ei droi allan (yn agor tudalen Saesneg).
Sut y gall eich lojer ddod â’r denantiaeth i ben
Gall eich lojer ddod â’r denantiaeth i ben gan roi cyfnod o rybudd i chi. Ni all eich lojer wneud hyn yn ystod cyfnod penodol y denantiaeth, oni bai bod cymal terfynu.
Bydd y cyfnod o rybudd y mae angen i’r tenant ei roi yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth, os oes un i’w gael. Fel arall, mae’n rhaid rhoi cyfnod rhybudd o 4 wythnos o leiaf (os yw’r lojer yn talu’n wythnosol), neu un mis (os yw’n talu’n fisol).
Gallwch chi a’ch tenant ddod â’r denantiaeth i ben ar unrhyw adeg os yw’r ddau ohonoch yn cytuno i wneud hynny.
Newid perchnogaeth
Os ydych yn rhoi’r gorau i fyw yn eich cartref, gall y tenant barhau i aros yno, ond mae’n bosibl y bydd y math o denantiaeth sydd ganddo yn newid er mwyn adlewyrchu’r ffaith nad ydych yn byw yno bellach.
Os ydych yn gwerthu’ch cartref, a bod y perchennog newydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel landlord preswyl, bydd yn rhaid iddo wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i’r tenant cyn pen 28 diwrnod am ei fwriad i fyw yn yr eiddo
-
symud i mewn cyn pen 6 mis i’r dyddiad gwerthu
Hyd nes y bydd y perchennog newydd yn symud i mewn, bydd gan y tenant fwy o ddiogelwch drwy gyfraith tenantiaeth oherwydd does dim landlord preswyl yn ystod y cyfnod hwn. Bydd ei hawliau’n dibynnu ar ba bryd y symudodd i mewn. Dysgwch ragor ynghylch hawliau tenantiaid ar y dudalen ynghylch rhentu preifat: cytundebau tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Os byddwch yn marw, bydd y denantiaeth fel arfer yn parhau fel petaech yn breswyl o hyd, a hynny hyd nes y bydd rhywun arall yn dod yn berchennog ar yr eiddo.
6. Tai Amlbreswyliaeth
Mae’n bosibl y bydd eich tÅ· yn cael ei ystyried yn DÅ· Amlbreswyliaeth (HMO) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhoi ystafelloedd ar osod i fwy na 2 berson.Â
Mae gofynion diogelwch a safonau ychwanegol yn berthnasol i HMOs ac, yn aml, bydd angen trwydded arnoch.