Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod

Sgipio cynnwys

Y math o denantiaeth sydd gan eich lojer

Mae’r ffordd yr ydych yn rhannu’ch cartref â lojer yn cael effaith ar y math o denantiaeth sydd ganddo. Bydd hyn, yn ei dro, yn cael effaith ar hawliau’r lojer a’r ffordd y gallwch ddod â’r denantiaeth i ben.

Mae’ch lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio

Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n byw yn eich cartref chi
  • rydych chi, neu aelod o’ch teulu, yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu ystafell fyw ag ef

Yn yr achos hwn, dim ond rhoi ‘hysbysiad rhesymol� iddo y mae angen i chi ei wneud er mwyn dod â’i denantiaeth i ben � ac ni fydd angen i chi fynd i’r llys i’w droi allan.

Fel arfer, mae ‘hysbysiad rhesymol� yn golygu hyd y cyfnod ar gyfer talu’r rhent. Er enghraifft, os telir y rhent yn fisol, dylech roi un mis o rybudd.

Mae gan eich lojer ddiogelwch sylfaenol

Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd â diogelwch sylfaenol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n byw yn eich cartref chi
  • nid yw’n rhannu unrhyw ystafelloedd â chi na’ch teulu

Os na fydd eich lojer yn gadael pan fyddwch yn gofyn iddo adael, bydd angen i chi gael gorchymyn llys er mwyn ei droi allan.

Mae gan yr elusen, Shelter, gyngor ynghylch a .

Hyd y denantiaeth

Gall tenantiaeth neu drwydded redeg am:

  • gyfnod amhenodol â€� hynny yw, yn rhedeg am gyfnod amhenodol o un cyfnod rhentu i’r nesaf
  • cyfnod penodol â€� hynny yw, yn para am nifer benodol o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd

Os nad ydych yn cytuno ar gyfnod penodol ar gyfer tenantiaeth, bydd y denantiaeth yn cael ei thrin fel un ‘cyfnod amhenodol� yn awtomatig.

Gall trwyddedau fod yn benagored ar gyfer trefniadau anffurfiol, megis os ydych yn caniatáu i ffrind aros dros dro o bryd i’w gilydd.