Rhoi eich eiddo ar osod
Gwneud atgyweiriadau
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw eich eiddo mewn cyflwr da, ac mae鈥檔 rhaid i unrhyw systemau nwy neu systemau trydanol fodloni safonau diogelwch penodol.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a .
Pryd y gallwch fynd i mewn i鈥檙 eiddo
Mae gennych hawl gyfreithiol i fynd i mewn i鈥檆h eiddo i鈥檞 archwilio neu i wneud gwaith atgyweirio. Mae鈥檔 rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd i鈥檆h tenantiaid, er, mae鈥檔 bosibl y gellir cael mynediad ar unwaith mewn argyfwng. Mae gan eich tenantiaid yr hawl i aros yn yr eiddo yn ystod y gwaith atgyweirio.
Fel arfer, rydych yn gyfrifol am atgyweiriadau i鈥檙 canlynol:
- strwythur eich eiddo
- basnau, sinciau, bathiau a gosodiadau glanweithiol eraill
- systemau gwresogi a systemau d诺r poeth
- unrhyw beth rydych chi鈥檔 ei ddifrodi鈥檔 ddamweiniol drwy geisio gwneud gwaith atgyweirio
Os yw eich eiddo wedi鈥檌 ddifrodi鈥檔 ddifrifol gan d芒n, llifogydd neu ddigwyddiad tebyg arall, nid oes rhaid i chi ei ailadeiladu na鈥檌 adnewyddu. Fodd bynnag, os gwnewch hynny, ni allwch godi t芒l ar eich tenantiaid am unrhyw waith atgyweirio a wnaed.
Ardaloedd cyffredin
Os ydych chi鈥檔 berchen ar floc o fflatiau, chi sydd fel arfer yn gyfrifol am atgyweirio ardaloedd cyffredin, fel grisiau. Gall cynghorau ofyn i landlordiaid ddatrys problemau mewn ardaloedd cyffredin, neu atgyweirio fflat tenant sydd wedi鈥檌 ddifrodi gan denant arall.
Yr hyn sy鈥檔 digwydd os na wneir atgyweiriadau yn iawn
Os byddwch yn gwrthod gwneud atgyweiriadau, gall tenantiaid wneud y canlynol:
- dechrau hawliad yn y llys m芒n-symiau am atgyweiriadau o dan 拢5,000
- o dan rai amgylchiadau, gwneud y gwaith atgyweirio eu hunain a didynnu鈥檙 gost o鈥檜 rhent
Os nad ydych yn gwneud atgyweiriadau i gael gwared ar beryglon, gall eich tenantiaid ofyn i鈥檙 cyngor archwilio鈥檙 eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) a chymryd unrhyw gamau sy鈥檔 angenrheidiol.
Os yw鈥檙 cyngor yn canfod peryglon difrifol, rhaid iddo gymryd camau gorfodi i sicrhau bod y perygl yn cael ei ddileu.
Os nad yw鈥檙 eiddo yn addas i fyw ynddo dros dro
Gallwch ofyn i denantiaid symud allan yn ystod gwaith atgyweirio mawr. Cyn i hyn ddigwydd, dylech gytuno i鈥檙 canlynol yn ysgrifenedig:
- pa mor hir y bydd y gwaith yn para
- hawl y tenantiaid i ddychwelyd
- manylion unrhyw lety amgen
Ni allwch ad-ennill meddiant eiddo i wneud gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, os ydych yn cynllunio gwaith sylweddol, neu os ydych am ailddatblygu鈥檙 eiddo, gallwch wneud cais i鈥檙 llysoedd am orchymyn i鈥檆h tenantiaid adael. Mae鈥檙 llysoedd yn fwy tebygol o ganiat谩u hyn os ydych yn darparu llety amgen.
Gwaith atgyweirio a chodi rhent
Os yw鈥檙 gwaith atgyweirio鈥檔 aflonyddgar iawn, efallai y bydd eich tenantiaid yn gallu hawlio gostyngiad ar eu rhent a elwir yn 鈥榙iddymiad rhent鈥�. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o鈥檙 eiddo na ellir ei ddefnyddio.听
Mae鈥檔 bosibl bydd gennych yr hawl i gynyddu鈥檙 rhent ar 么l cynnal atgyweiriadau a gwelliannau, yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg).听