Pensiwn Newydd y Wladwriaeth
Sut i wneud cais
Ni fyddwch yn cael eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yn awtomatig 鈥� mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais amdano.
Byddwch angen:
- dyddiad eich priodas, partneriaeth sifil neu ysgariad diweddaraf
- dyddiadau unrhyw amser rydych wedi鈥檌 dreulio yn byw neu鈥檔 gweithio dramor
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
Os ydych yn gwneud cais ar-lein, byddwch hefyd angen y cod gwahoddiad o鈥檙 llythyr am gael eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os nad ydych wedi cael llythyr gwahoddiad ond rydych o fewn 3 mis o gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch .
Mae sut i wneud cais yn wahanol os byddwch yn gwneud neu os ydych yn gwneud cais o dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gwneud cais dros y ff么n
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf, gallwch ffonio鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.
Gwneud cais trwy鈥檙 post
Mae angen i chi ffonio鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi鈥檌 hanfon atoch.
Anfonnwch eich ffurflen wedi鈥檌 chwblhau i:
Freepost DWP Pensions Service 3
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ac eithrio鈥檙 cyfeiriad rhadbost ar yr amlen. Nid oes angen cod post na stamp arnoch.
Ar 么l i chi wneud cais
Rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn os yw鈥檆h amgylchiadau鈥檔 newid.
Os ydych eisiau parhau i weithio
Gallwch wneud cais am eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio. Fodd bynnag, gallwch oedi (gohirio) gwneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth er mwyn cynyddu鈥檙 swm a gewch.
Os ydych hefyd eisiau gwneud cais am bensiwn o wlad arall
Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi a ydych wedi byw neu weithio dramor. Anfonir ffurflen gais atoch os oeddech yn byw neu鈥檔 gweithio:
- mewn gwlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- yn Y Swistir
Bydd y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol yn anfon eich cais i gynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn y gwledydd yr ydych wedi byw neu weithio ynddynt. Bydd y cynlluniau yn cysylltu 芒 chi os ydych yn gymwys. Nid oes angen i chi wneud ceisiadau ar wah芒n iddynt.
Os ydych eisiau hawlio pensiynau鈥檙 wladwriaeth o unrhyw wledydd eraill, cysylltwch 芒鈥檙 awdurdod pensiwn yn y wlad ddiwethaf y buoch yn byw neu鈥檔 gweithio ynddi.
Cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os oes angen help arnoch gyda鈥檆h cais.
Gwneud cais am bensiwn Ynys Manaw
Os ydych yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth o Ynys Manaw, bydd angen i chi wneud cais amdano ar wah芒n i鈥檆h Pensiwn Newydd y Wladwriaeth o鈥檙 DU.
Darganfyddwch os .
Byddwch yn cael un taliad ar gyfer eich pensiwn yn y DU a thaliad ar wah芒n ar gyfer eich pensiwn Ynys Manaw.
Ni allwch ohirio pensiwn Ynys Manaw ar 么l 6 Ebrill 2016.