Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Printable version
1. Sut mae鈥檔 gweithio
Nid ydych yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig - mae rhaid i chi wneud cais amdano. Dylech gael llythyr yn dweud wrthych beth i鈥檞 wneud, heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch naill ai wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth neu oedi (gohirio) gwneud cais amdano.
Os ydych eisiau gohirio, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Bydd eich pensiwn yn cael ei ohirio yn awtomatig hyd nes byddwch yn gwneud cais amdano.
Gallai gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth gynyddu鈥檙 taliadau a gewch pan fyddwch yn penderfynu gwneud cais amdano. Gallai unrhyw daliadau ychwanegol a gewch wrth ohirio gael eu trethu.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
2. Beth fyddwch yn ei gael
Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a allech ei gael yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos rydych yn ei ohirio, cyn belled ag eich bod yn gohirio am o leiaf 9 wythnos.
Nid yw amser a dreulir yn y carchar neu pan fyddwch chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau penodol yn cyfrif tuag at y 9 wythnos.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn gyfatebol 芒 1% am bob 9 wythnos rydych yn ei ohirio. Mae hyn yn gweithio allan ychydig o dan 5.8% am bob blwyddyn lawn.
Mae鈥檙 swm ychwanegol yn cael ei dalu gyda鈥檆h taliad Pensiwn y Wladwriaeth arferol.
Enghraifft
Cewch 拢221.20 yr wythnos (Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn).
Drwy ohirio am 52 wythnos, cewch 拢12.82 yr wythnos yn ychwanegol (ychydig o dan 5.8% o 拢221.20).
Mae鈥檙 enghraifft hwn yn tybio nad oes cynnydd blynyddol yn y Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes cynnydd blynyddol, gallai鈥檙 swm y gallech ei gael fod yn fwy.
Os ydych chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu tra rydych chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau penodol.
Os ydych yn y carchar
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu pan rydych yn y carchar.
Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallwch gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel naill ai:
- taliadau wythnosol uwch
- un cyfandaliad
Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth sydd wedi鈥檌 ohirio, cewch lythyr yn gofyn sut rydych am gymryd eich pensiwn ychwanegol. Bydd gennych 3 mis o dderbyn y llythyr yna i benderfynu.
Taliadau wythnosol uwch
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos rydych yn ei ohirio, cyn belled ag eich bod yn gohirio am o leiaf 5 wythnos.
Nid yw amser a dreulir yn y carchar neu pan fyddwch chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau penodol yn cyfrif tuag at y 5 wythnos.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn gyfatebol 芒 1% am bob 5 wythnos rydych yn ei ohirio. Mae hyn yn gweithio allan fel 10.4% am bob blwyddyn lawn.
Mae鈥檙 swm ychwanegol yn cael ei dalu gyda鈥檆h taliad Pensiwn y Wladwriaeth arferol.
Enghraifft
Cewch Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn).
yr wythnos (Drwy ohirio am 52 wythnos, cewch 拢17.62 yr wythnos yn ychwanegol (10.4% o
).Mae鈥檙 enghraifft hwn yn tybio nad oes cynnydd blynyddol yn y Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes cynnydd blynyddol, gallai鈥檙 swm y gallech ei gael fod yn fwy.
Cyfandaliad
Gallwch gael cyfandaliad os ydych yn gohirio gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol. Bydd hyn yn cynnwys llog o 2% uwchben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Cewch eich trethu ar eich cyfradd gyfredol ar gyfandaliad. Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol trethir eich cyfandaliad ar 20%.
Os ydych chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu tra rydych chi neu鈥檆h partner yn cael budd-daliadau penodol.
Os ydych yn y carchar
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu pan rydych yn y carchar.
Cynyddiadau blynyddol
Ar 么l i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm ychwanegol a gewch oherwydd eich bod wedi gohirio yn cynyddu fel arfer bob blwyddyn yn seiliedig ar . Ni fydd yn cynyddu i rai pobl sy鈥檔 byw dramor.
Cael help
Cysylltwch 芒鈥檙 llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen help.
3. Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth
Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod rydych yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gofalwr
- Taliad Cymorth Gofalwr
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Pensiwn Gwraig Weddw
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Atodiad Anghyflogadwy
Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod y mae eich partner yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
Rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn os ydych ar fudd-daliadau ac rydych eisiau oedi.
Bydd angen i chi oedi am isafswm o amser cyn i鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth dechrau cynyddu. Bydd hyn yn naill ai 9 neu 5 wythnos, yn dibynnu ar pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw amser pan rydych chi neu鈥檆h partner yn cael y budd-daliadau hyn yn cyfri tuag at yr amser hynny.
Taliadau wythnosol uwch
Gallai cymryd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel taliadau wythnosol uwch ostwng y swm a gewch o:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Budd-dal Tai
- Gostyngiad Treth Cyngor
- credydau treth
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallai eich taliadau credydau treth neu Gredyd Cynhwysol ostwng os ydych yn dewis i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel cyfandaliad.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Rydych angen gwneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf os ydych wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dim ond unwaith rydych angen gwneud hyn.
Cael help
Cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith os ydych angen help i ddeall sut y gallai eich budd-daliadau gael eu heffeithio.
4. Os ydych yn symud dramor
Os ydych yn symud i unrhyw un o鈥檙 gwledydd ar y rhestr hon, mae鈥檙 rheolau ar gyfer gohirio鈥檙 un fath 芒鈥檙 DU:
- gwledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Swistir
- gwlad y mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol gyda hi (ar wah芒n i Ganada neu Seland Newydd)
Os ydych yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd y taliad ychwanegol yn aros yr un fath. Ni fydd yn cynyddu neu鈥檔 gostwng dros amser.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016
Os ydych yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd eich taliad ychwanegol yn seiliedig ar y Pensiwn y Wladwriaeth sy鈥檔 ddyledus i chi ar ba bryd bynnag yw鈥檙 hwyraf o鈥檙:
- dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- dyddiad rydych wedi symud dramor
Cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Pensiwn Rhyngwladol os ydych angen help i weithio allan beth y gallech ei gael.
5. Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth wedi鈥檌 ohirio
Gwnewch gais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth os ydych:
- yn dyn a anwyd ar neu ar 么l 6 Ebrill 1951
- yn fenyw a anwyd ar neu ar 么l 6 Ebrill 1953
Gwnewch gais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych:
- yn dyn a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1951
- yn fenyw a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1953
Mae ffordd arall i wneud cais os ydych:
- yn byw tramor, gan gynnwys yr Ynysoedd Sianel
6. Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth sydd wedi鈥檌 ohirio
Fel arfer, gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:
- cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
- roeddech wedi priodi, neu mewn partneriaeth sifil gyda, eich partner pan fuont farw
- roedd eich partner wedi gohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth neu鈥檔 hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi鈥檜 ohirio pan fuont farw
- ni wnaethoch ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2010, mae rhaid i un o鈥檙 canlynol hefyd fod yn berthnasol:
- roeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner
- roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner, rydych yn fenyw ac roedd eich partner a fu farw yn 诺r i chi
Dim ond os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch dderbyn unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol rydych wedi ei etifeddu.
Os bu farw eich partner cyn gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth
Mae sut y byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner yn dibynnu ar ba mor hir roeddynt wedi gohirio eu pensiwn.
Blwyddyn neu fwy
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth am flwyddyn neu fwy, fel arfer gallwch ddewis i鈥檞 etifeddu fel cyfandaliad neu fel taliadau wythnosol. Byddwch yn cael llythyr gyda鈥檙 opsiynau y gallwch eu dewis.
Rhwng 5 wythnos a blwyddyn
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 5 wythnos a blwyddyn, byddwch yn ei etifeddu fel taliadau wythnosol. Cewch y taliadau hyn gyda鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.
Llai na 5 wythnos
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth gan lai na 5 wythnos, bydd eu taliadau Pensiwn y Wladwriaeth am yr wythnosau hynny yn mynd yn rhan o鈥檜 hystad (cyfanswm eu heiddo, arian a buddsoddiadau).
Os oedd eich partner yn cael eu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn iddynt farw.
Byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner fel taliadau wythnosol ychwanegol. Cewch y taliadau hyn gyda鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.