Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Sgipio cynnwys

Sut i ddiweddaru eich V5CW

Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi鈥檜 rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil h欧n.

Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.

Os nad yw鈥檙 newid wedi鈥檌 restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran 鈥榤anylion y cerbyd鈥� yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro鈥檙 newid.

Ble i anfon eich V5CW

Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • maint yr injan (cc)

  • math o danwydd

  • pwysau cerbyd nwyddau

  • nifer y seddi ar fws

Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu 芒 chi i:

  • gadarnhau鈥檙 newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno

  • dweud wrthych os yw鈥檙 newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd

Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy鈥檙 post.

Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar 么l 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu 拢25 i gael un amnewid.