Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
Printable version
1. Pan fydd angen ichi ddiweddaru鈥檆h V5CW
Rhaid ichi ddiweddaru鈥檙 manylion ar eich tystysgrif gofrestru (V5CW) i ddweud wrth DVLA am:
-
gamgymeriadau ar eich V5CW
-
y rhan fwyaf o newidiadau a wnewch i鈥檆h cerbyd
Ni allwch newid dosbarth treth drwy ddiweddaru eich V5CW. Rydych yn gwneud hyn drwy newid eich treth cerbyd - hyd yn oed os ydych yn newid i ddosbarth treth sydd wedi鈥檌 eithrio rhag treth cerbyd, er enghraifft 鈥榓nabl鈥�.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Newidiadau y mae angen ichi eu diweddaru
Rhaid ichi ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o鈥檙 canlynol:
-
lliw
-
injan
-
capasiti silindr (cc)
-
math o danwydd
-
siasi neu blisgyn corff (wedi鈥檌 ddisodli neu ei addasu)
-
nifer y seddi
-
pwysau cerbyd mawr, er enghraifft cerbyd nwyddau neu fan wersylla
Newidiadau y gallai fod angen eu harchwilio
Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o鈥檙 canlynol:
-
cynllun olwynion
-
math o gorff, er enghraifft rydych yn trosi fan yn fan wersylla neu鈥檔 鈥榞araf谩n fodur鈥� (mae DVLA yn rhoi disgrifiad o fath o gorff yn seiliedig ar ymddangosiad allanol y cerbyd)
-
rhif adnabod y cerbyd (VIN)
-
rhif siasi
-
rhif ffr芒m ar gyfer beiciau modur
Bydd DVLA yn dweud wrthych a oes angen iddynt archwilio鈥檙 newid.
2. Pa dystiolaeth i'w rhoi
Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o鈥檙 newidiadau canlynol i鈥檆h cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.
Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)
Mae angen ichi ddarparu un o鈥檙 canlynol:
-
derbynneb am yr injan newydd sy鈥檔 cynnwys rhif yr injan a鈥檙 capasiti silindr
-
tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr
-
adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant
-
cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu鈥檙 cerbyd)
Newid y math o danwydd
Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:
-
yw eich injan bresennol wedi鈥檌 thrawsnewid 鈥� rhaid i鈥檙 cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith
-
yw injan newydd wedi鈥檌 gosod 鈥� darparwch y dderbynneb fel cadarnhad
Newid pwysau cerbyd mwy
Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:
-
tystysgrif platio
-
tystysgrif pwysau dylunio
Newid y math o gorff yn garaf谩n modur
Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan ydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garaf谩n fodur.
3. Sut i ddiweddaru eich V5CW
Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi鈥檜 rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil h欧n.
Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.
Os nad yw鈥檙 newid wedi鈥檌 restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran 鈥榤anylion y cerbyd鈥� yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro鈥檙 newid.
Ble i anfon eich V5CW
Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o鈥檙 canlynol:
-
maint yr injan (cc)
-
math o danwydd
-
pwysau cerbyd nwyddau
-
nifer y seddi ar fws
Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.
Beth sy鈥檔 digwydd nesaf
Bydd DVLA yn cysylltu 芒 chi i:
-
gadarnhau鈥檙 newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno
-
dweud wrthych os yw鈥檙 newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd
Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy鈥檙 post.
Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar 么l 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu 拢25 i gael un amnewid.