Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
Pa dystiolaeth i'w rhoi
Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o鈥檙 newidiadau canlynol i鈥檆h cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.
Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)
Mae angen ichi ddarparu un o鈥檙 canlynol:
-
derbynneb am yr injan newydd sy鈥檔 cynnwys rhif yr injan a鈥檙 capasiti silindr
-
tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr
-
adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant
-
cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu鈥檙 cerbyd)
Newid y math o danwydd
Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:
-
yw eich injan bresennol wedi鈥檌 thrawsnewid 鈥� rhaid i鈥檙 cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith
-
yw injan newydd wedi鈥檌 gosod 鈥� darparwch y dderbynneb fel cadarnhad
Newid pwysau cerbyd mwy
Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:
-
tystysgrif platio
-
tystysgrif pwysau dylunio
Newid y math o gorff yn garaf谩n modur
Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan ydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garaf谩n fodur.