Hawlio lwfansau cyfalaf
Printable version
1. Trosolwg
Mae lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu rhywfaint neu鈥檙 cyfan o werth eitem oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer:
- offer
- peiriannau
- cerbydau busnes, er enghraifft faniau, lor茂au neu geir busnes
Gelwir y rhain yn 鈥榦ffer a pheiriannau鈥�.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth, a bod gennych incwm o 拢150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o鈥檙 enw鈥檙 sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Mathau o lwfansau cyfalaf ar gyfer offer a pheiriannau
Gallwch hawlio gwahanol symiau, yn dibynnu ar ba lwfans cyfalaf a ddefnyddiwch.
Y lwfansau cyfalaf (a elwir hefyd yn lwfansau offer a pheiriannau) yw:
- lwfans buddsoddi blynyddol (LBB) - gallwch hawlio hyd at 拢1 miliwn ar gyfer offer a pheiriannau penodol
- lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% - gallwch hawlio鈥檙 swm cyfan ar gyfer offer a pheiriannau penodol yn y flwyddyn y cawsant eu prynu
- yr uwch-ddidyniad neu鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% - gallwch hawlio鈥檙 rhain ar gyfer offer a pheiriannau penodol a brynwch o 1 Ebrill 2021 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023
- gwariant llawn a lwfans blwyddyn gyntaf o 50% - gallwch hawlio鈥檙 rhain ar fuddsoddiadau mewn offer a pheiriannau cymhwysol o 1 Ebrill 2023 ymlaen
- lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) 鈥� gallwch hawlio鈥檙 rhain os nad yw鈥檆h offer na鈥檆h peiriannau鈥檔 gymwys ar gyfer LBB neu os ydych eisoes wedi hawlio鈥檙 uchafswm
Os yw eitem yn gymwys ar gyfer mwy nag un lwfans cyfalaf, gallwch ddewis pa un i鈥檞 ddefnyddio.
Cyfrifo gwerth eich eitem
Yn y rhan fwyaf o achosion, y gwerth yw鈥檙 hyn a dalwyd gennych am yr eitem. Defnyddiwch y gwerth marchnadol (y swm y byddech yn disgwyl ei werthu amdano) yn lle hynny os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn berchen arni cyn i chi ddechrau ei defnyddio yn eich busnes
- roedd yn rhodd
Costau busnes eraill
Rydych yn hawlio cost pethau nad ydynt yn asedion busnes mewn ffordd wahanol. Mae hyn yn cynnwys:
- costau rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd
- eitemau rydych yn eu prynu a鈥檜 gwerthu fel rhan o鈥檆h masnach
- taliadau llog neu gostau cyllid am brynu asedion
Hawliwch y costau hyn fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth, neu didynnwch y costau oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.
Lwfansau cyfalaf eraill
Yn ogystal ag offer a pheiriannau, gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf am y canlynol:
- adnewyddu safle鈥檙 busnes (yn agor tudalen Saesneg) mewn ardaloedd difreintiedig yn y DU
- (eiddo deallusol am dechnegau diwydiannol)
- strwythurau ac adeiladau
Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod
Dim ond os yw鈥檆h busnes yn gymwys fel busnes llety gwyliau wedi鈥檌 ddodrefnu y gallwch gyflwyno hawliad am eitemau i鈥檞 defnyddio mewn eiddo preswyl. Ym mhob blwyddyn mae鈥檔 rhaid i鈥檙 eiddo fod:聽
- ar gael i gael ei osod fel llety gwyliau am 210 diwrnod
- ar osod am 105 diwrnod neu fwy
2. Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar eitemau rydych yn eu cadw i鈥檞 defnyddio yn eich busnes 鈥� gelwir y rhain yn 鈥榦ffer a pheiriannau鈥�.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ddidynnu costau llawn yr eitemau hyn oddi wrth eich elw cyn treth trwy ddefnyddio lwfans buddsoddi blynyddol (LBB).
Os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth, a bod gennych incwm o 拢150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o鈥檙 enw鈥檙 sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Yr hyn nad yw鈥檔 cyfrif fel offer a pheiriannau
Ni allwch hawlio lwfansau offer a pheiriannau ar gyfer:
- pethau rydych yn eu rhentu ar brydles (oni bai bod gennych gontract hurbwrcasu neu brydles ariannu hirdymor) 鈥� mae鈥檔 rhaid i chi fod yn berchen arnynt
- eitemau sy鈥檔 cael eu defnyddio at ddiben adloniant y busnes yn unig, er enghraifft cwch hwylio neu beiriant karaoke
- tir
- strwythurau, er enghraifft pontydd, ffyrdd, dociau
- adeiladau, gan gynnwys drysau, gatiau, caeadau, systemau nwy a d诺r o鈥檙 prif gyflenwad
Mae鈥檔 bosibl y gallwch hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau ar gyfer strwythurau ac adeiladau.
Yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel offer a pheiriannau
Mae offer a pheiriannau yn cynnwys:
- eitemau rydych yn eu cadw i鈥檞 defnyddio yn eich busnes, gan gynnwys ceir
- costau dymchwel offer a pheiriannau
- rhannau o adeilad a ystyrir yn rhannau annatod, a elwir yn 鈥榥odweddion hanfodol鈥�
- rhai darnau gosod, er enghraifft ceginau neu ystafelloedd ymolchi wedi鈥檜 gosod
- addasiadau i adeilad er mwyn gosod offer a pheiriannau 鈥� nid yw hyn yn cynnwys atgyweiriadau
Hawlio atgyweiriadau fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth 鈥� didynnwch oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.
Nodweddion hanfodol
Nodweddion hanfodol yw:
- lifftiau, grisiau symudol a llwybrau symudol
- systemau gwresogi gofod a d诺r
- systemau aerdymheru ac oeri鈥檙 aer
- systemau d诺r poeth ac oer (ond nid cyfleusterau toiled a chegin)
- systemau trydanol, gan gynnwys systemau goleuo
- cysgod solar allanol
Darnau gosod
Gallwch hawlio am ddarnau gosod, er enghraifft:
- ceginau gosod
- switiau ystafelloedd ymolchi
- systemau larwm t芒n a theledu cylch cyfyng
Gallwch hawlio os ydych yn rhentu neu鈥檔 berchen ar yr adeilad, ond dim ond y person a brynodd yr eitem a all hawlio.
Pan fyddwch yn prynu adeilad oddi wrth berchennog blaenorol busnes, gallwch ond hawlio am nodweddion hanfodol a darnau gosod y gwnaeth y perchennog blaenorol hawlio amdanynt.
Mae鈥檔 rhaid i chi gytuno ar werth y darnau gosod (yn agor tudalen Saesneg) gyda鈥檙 gwerthwr. Os na wnewch hynny, ni allwch hawlio amdanynt. Mae cytuno ar y gwerth hefyd yn golygu y gall y person sy鈥檔 gwerthu鈥檙 asedion (yn agor tudalen Saesneg) roi cyfrif cywir amdanynt.
Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod
Dim ond os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol y gallwch hawlio am eitemau sydd i鈥檞 defnyddio mewn eiddo preswyl:
- rydych yn rhedeg busnes llety gwyliau wedi鈥檌 ddodrefnu
- mae鈥檙 eitem i鈥檞 ddefnyddio yn y rhannau cyffredin o adeilad preswyl, er enghraifft bwrdd yng nghyntedd bloc o fflatiau
Gweithwyr gofal
Mae rheolau arbennig os ydych yn rhedeg busnes gofal (yn agor tudalen Saesneg).
3. Lwfans buddsoddi blynyddol
Gallwch ddidynnu gwerth llawn eitem sy鈥檔 gymwys ar gyfer lwfans buddsoddi blynyddol (LBB) oddi wrth eich elw cyn treth.
Os byddwch yn gwerthu鈥檙 eitem (yn agor tudalen Saesneg) ar 么l hawlio LBB, efallai y bydd angen i chi dalu treth.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio LBB ar y rhan fwyaf o offer a pheiriannau hyd at swm yr LBB.
Yr hyn na allwch ei hawlio
Ni allwch hawlio LBB ar gyfer y canlynol:
- ceir busnes
- eitemau roeddech yn berchen arnynt am reswm arall cyn i chi ddechrau eu defnyddio yn eich busnes
- eitemau a roddir i chi neu i鈥檆h busnes
Hawliwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Swm yr LBB
Swm yr LBB yw 拢1 miliwn.
Newidiadau i鈥檙 LBB
Mae swm yr LBB wedi newid sawl gwaith ers mis Ebrill 2008.
Os newidiodd yr LBB yn ystod y cyfnod rydych yn hawlio amdano, mae angen i chi addasu鈥檙 swm yr ydych yn ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg).
LBB | Unig fasnachwyr/Partneriaethau | Cwmn茂au cyfyngedig |
---|---|---|
拢1 miliwn | O 1 Ionawr 2019 | O 1 Ionawr 2019 |
拢200,000 | 1 Ionawr 2016 鈥� 31 Rhagfyr 2018 | 1 Ionawr 2016 鈥� 31 Rhagfyr 2018 |
拢500,000 | 6 Ebrill 2014 鈥� 31 Rhagfyr 2015 | 1 Ebrill 2014 鈥� 31 Rhagfyr 2015 |
拢250,000 | 1 Ionawr 2013 鈥� 5 Ebrill 2014 | 1 Ionawr 2013 鈥� 31 Mawrth 2014 |
拢25,000 | 6 Ebrill 2012 鈥� 31 Rhagfyr 2012 | 1 Ebrill 2012 鈥� 31 Rhagfyr 2012 |
拢100,000 | 6 Ebrill 2010 鈥� 5 Ebrill 2012 | 1 Ebrill 2010 鈥� 31 Mawrth 2012 |
拢50,000 | 6 Ebrill 2008 鈥� 5 Ebrill 2010 | 1 Ebrill 2008 鈥� 31 Mawrth 2010 |
Cewch lwfans newydd ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.
Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu鈥檔 llai na 12 mis
Addaswch eich LBB os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu鈥檔 llai na 12 mis.
Er enghraifft
Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn 9 mis, bydd yr LBB yn 9/12 x 拢1,000,000 = 拢750,000.
Efallai y bydd angen i chi addasu鈥檙 swm rydych yn ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) hefyd os newidiodd yr LBB yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 18 mis (yn agor tudalen Saesneg) neu os oes gennych fwlch neu orgyffwrdd rhwng cyfnodau cyfrifyddu.
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch ond hawlio LBB yn ystod y cyfnod y gwnaethoch brynu鈥檙 eitem.
Y dyddiad y gwnaethoch ei phrynu yw:
- pan wnaethoch lofnodi鈥檙 contract, os yw鈥檙 taliad yn ddyledus cyn pen llai na 4 mis
- pan fydd y taliad yn ddyledus, os yw鈥檔 ddyledus fwy na 4 mis yn hwyrach
Os byddwch yn prynu rhywbeth o dan gontract hurbwrcasu, gallwch hawlio am y taliadau nad ydych wedi鈥檜 gwneud eto pan fyddwch yn dechrau defnyddio鈥檙 eitem. Ni allwch hawlio ar y ffioedd na鈥檙 taliadau llog.
Os yw鈥檆h busnes yn cau, ni allwch hawlio LBB am eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfrifyddu terfynol. Yn hytrach, mae angen i chi nodi taliad mantoli neu lwfans mantoli ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn yr ydych yn cau eich busnes. Darllenwch fwy am sut i hawlio lwfansau cyfalaf.
Os nad ydych am hawlio鈥檙 gost gyfan
Os nad ydych am hawlio鈥檙 gost gyfan, er enghraifft os oes gennych chi elw isel, gallwch hawlio:
- lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny
- rhan o鈥檙 gost fel LBB a rhan o鈥檙 gost fel lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg)
Eitemau rydych hefyd yn eu defnyddio y tu allan i鈥檆h busnes
Ni allwch hawlio gwerth cyfan yr eitemau rydych hefyd yn eu defnyddio y tu allan i鈥檆h busnes os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth. Ewch ati i ostwng y lwfansau cyfalaf rydych yn eu hawlio gan faint o ddefnydd rydych yn ei wneud o鈥檙 ased y tu allan i鈥檆h busnes.
Er enghraifft
Rydych yn prynu gliniadur am 拢600. Rydych yn ei ddefnyddio y tu allan i鈥檆h busnes am hanner yr amser. Caiff swm y lwfansau cyfalaf y gallwch ei hawlio ei ostwng 50%.
Os ydych yn gwario mwy na swm yr LBB
Hawliwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) ar unrhyw swm uwchben yr LBB. Os bydd un eitem yn mynd 芒 chi uwchben swm yr LBB, gallwch rannu鈥檙 gwerth rhwng y mathau o lwfans.
Partneriaethau cymysg
Dim ond ar gyfer partneriaethau lle mae鈥檙 holl aelodau鈥檔 unigolion y mae LBB ar gael.
Mwy nag un busnes neu fasnach
Os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth, a bod gennych fwy nag un busnes neu fasnach, mae pob busnes fel arfer yn cael LBB.
Byddwch ond yn cael un LBB os yw鈥檙 busnesau:
- yn cael eu rheoli gan yr un person
- ar yr un safle neu鈥檔 cynnal gweithgareddau tebyg
Os oes 2 neu fwy o gwmn茂au cyfyngedig yn cael eu rheoli gan yr un person, dim ond un LBB maent yn ei gael rhyngddynt. Gallant ddewis sut i rannu鈥檙 LBB.
Sut i hawlio
Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth. Darllenwch fwy am sut i hawlio lwfansau cyfalaf.
4. Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Os prynwch ased sy鈥檔 gymwys ar gyfer lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%, gallwch ddidynnu鈥檙 gost gyfan oddi wrth eich elw cyn treth.
Gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn ychwanegol at lwfans buddsoddi blynyddol (LBB), ar yr amod nad ydych yn hawlio鈥檙 ddau am yr un gwariant.
Yr hyn sy鈥檔 gymwys
Gallwch hawlio 鈥榣wfansau cyfalaf uwch鈥� (math o lwfans blwyddyn gyntaf o 100%) am yr offer canlynol, y mae鈥檔 rhaid iddynt fod yn newydd a heb eu defnyddio:
- ceir trydan a cheir heb allyriadau CO2
- offer a pheiriannau ar gyfer gorsafoedd ail-lenwi 芒 thanwydd nwy, er enghraifft tanciau storio, pympiau ac offer ail-lenwi 芒 nwy, bio-nwy a hydrogen
- cerbydau nwyddau ag allyriadau sero
- offer ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan
- offer a pheiriannau i鈥檞 defnyddio mewn safle treth arbennig mewn Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi yn y DU, os ydych yn gwmni
Os ydych chi鈥檔 gwmni sy鈥檔 buddsoddi mewn offer neu beiriannau
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio gwariant llawn neu鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf o 50% hefyd. Ond ni allwch hawlio mwy nag un lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Fel arfer, ni allwch hawlio ar gyfer eitemau y mae鈥檆h busnes yn eu prynu i鈥檞 prydlesu i bobl eraill neu i鈥檞 defnyddio o fewn cartref rydych yn ei roi ar osod.
Sut i hawlio
Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth.
Os na fyddwch yn hawlio鈥檙 holl lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% y mae gennych hawl iddynt, gallwch hawlio鈥檙 rhan o鈥檙 gost nad ydych wedi鈥檌 hawlio gan ddefnyddio鈥檙 lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg).
5. Yr uwch-ddidyniad a鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%
Dim ond cwmn茂au all hawlio鈥檙 uwch-ddidyniad a鈥檙 lwfansau blwyddyn gyntaf dros dro ar gyfradd arbennig o 50%.
Gallwch eu hawlio yn erbyn cost rhai offer a pheiriannau. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 canlynol fod yn wir:
- maen nhw wedi鈥檜 prynu o 1 Ebrill 2021 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023
- maen nhw鈥檔 newydd a heb gael eu defnyddio
Ni allwch hawlio鈥檙 ddau lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Yr hyn y gallwch ei gael
Mae鈥檙 uwch-ddidyniad yn gadael i chi ddidynnu hyd at 130% o鈥檙 gost oddi wrth eich elw cyn treth.
Mae鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% yn gadael i chi ddidynnu 50% o鈥檙 gost oddi wrth eich elw cyn treth.
Gwirio a allwch hawlio
Gwiriwch a allwch hawlio鈥檙 uwch-ddidyniad neu鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%.
Gallwch hawlio ar Ffurflen Dreth y Cwmni.
6. Gwariant llawn a lwfans blwyddyn gyntaf o 50%
Dim ond cwmn茂au sy鈥檔 gallu hawlio鈥檙 gwariant llawn a鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf o 50%.
Gallwch eu hawlio yn erbyn cost rhai offer a pheiriannau. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 canlynol fod yn wir:
- maen nhw wedi鈥檜 prynu o 1 Ebrill 2023
- maen nhw鈥檔 newydd a heb gael eu defnyddio
Ni allwch hawlio鈥檙 ddau lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Yr hyn y gallwch ei gael
Mae gwariant llawn yn gadael i chi ddidynnu 100% o鈥檙 gost o offer a pheiriannau cymhwysol oddi wrth eich elw cyn treth yn y flwyddyn y cawsant eu prynu.
Mae鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf o 50% yn gadael i chi ddidynnu 50% o鈥檙 gost oddi wrth eich elw cyn treth yn y flwyddyn y cawsant eu prynu.
Gwirio a allwch hawlio
Gwiriwch a allwch hawlio鈥檙 gwariant llawn neu鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%.听
Gallwch hawlio ar Ffurflen Dreth y Cwmni.
7. Ceir busnes
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar geir rydych yn eu prynu ac yn eu defnyddio yn eich busnes. Mae hyn yn golygu y gallwch ddidynnu rhan o鈥檙 gwerth oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.
Defnyddiwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio.
Mae ffordd wahanol o gyfrifo鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio os yw鈥檙 car yn gymwys ar gyfer y lwfans blwyddyn gyntaf o 100% - er enghraifft, os yw鈥檔 gar trydan neu鈥檔 gar heb allyriadau CO2.
Nid yw ceir yn gymwys ar gyfer y lwfans buddsoddi blynyddol, yr uwch-ddidyniad, gwariant llawn na鈥檙 lwfansau blwyddyn gyntaf o 50%.
Unig fasnachwyr a phartneriaethau
Gallwch hawlio treuliau milltiroedd symlach (yn agor tudalen Saesneg) ar gerbydau busnes yn lle hynny, os ydych yn un o鈥檙 canlynol:
- unig fasnachwr
- partneriaeth heb bartneriaid cwmni
Ni allwch hawlio treuliau milltiroedd symlach os ydych eisoes wedi hawlio am y cerbydau mewn ffordd arall.
Cyflogeion
Os ydych yn gyflogai, ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau modur na beiciau a ddefnyddir gennych ar gyfer y gwaith, ond mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio am filltiroedd busnes a chostau tanwydd.
Yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel car
At ddiben lwfansau cyfalaf, mae car yn fath o gerbyd:
- sy鈥檔 addas at ddefnydd preifat 鈥� mae hyn yn cynnwys cartrefi modur
- y mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio鈥檔 breifat
- na chafodd ei adeiladu er mwyn cludo nwyddau
Yr hyn nad yw鈥檔 cyfrif fel car
Oherwydd nad ydynt yn cyfrif fel ceir, gallwch hawlio lwfans buddsoddi blynyddol ar y canlynol:
- beiciau modur 鈥� ar wah芒n i鈥檙 rhai a brynwyd cyn 6 Ebrill 2009
- lor茂au, faniau a thryciau聽
Cyfraddau ar gyfer ceir
Gallwch hawlio un o鈥檙 canlynol:
- gwerth llawn y car fel lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
- 18% o werth y car (lwfansau prif gyfradd)
- 6% o werth y car (lwfansau cyfradd arbennig)
Darllenwch ragor am gronfeydd lwfansau prif gyfradd a chyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg).
Mae鈥檙 gyfradd y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch brynu鈥檙 car a鈥檌 allyriadau CO2.
Gwiriwch allyriadau CO2 eich car (yn agor tudalen Saesneg).
Mae鈥檙 prif gyfraddau a鈥檙 cyfraddau arbennig yn gymwys o 1 Ebrill ar gyfer busnesau sy鈥檔 talu Treth Gorfforaeth, ac o 6 Ebrill ar gyfer busnesau sy鈥檔 talu Treth Incwm. Mae cyfradd y lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn gymwys o 1 Ebrill i bob busnes.
Ceir a brynwyd ers mis Ebrill 2021
Disgrifiad o鈥檙 car | Yr hyn y gallwch ei hawlio |
---|---|
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 0g/km (neu mae鈥檙 car yn drydanol) | Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% |
Car trydan ail law | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 50g/km | Lwfansau cyfradd arbennig |
Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2021
Disgrifiad o鈥檙 car | Yr hyn y gallwch ei hawlio |
---|---|
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai (neu mae鈥檙 car yn drydanol) | Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% |
Car trydan ail law | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 110g/km | Lwfansau cyfradd arbennig |
Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ebrill 2018
Disgrifiad o鈥檙 car | Yr hyn y gallwch ei hawlio |
---|---|
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 75g/km neu lai (neu mae鈥檙 car yn drydanol) | Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%聽 |
Car trydan ail law | Lwfansau prif gyfradd聽 |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km | Lwfansau cyfradd arbennig |
Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2013 a mis Ebrill 2015
Disgrifiad o鈥檙 car | Yr hyn y gallwch ei hawlio |
---|---|
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 95g/km neu lai (neu mae鈥檙 car yn drydanol) | Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% |
Car trydan ail law | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km | Lwfansau cyfradd arbennig |
Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2009 a mis Ebrill 2013
Disgrifiad o鈥檙 car | Yr hyn y gallwch ei hawlio |
---|---|
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai (neu mae鈥檙 car yn drydanol) | Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 160g/km neu lai | Lwfansau prif gyfradd |
Car trydan ail law | Lwfansau prif gyfradd |
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 160g/km | Lwfansau cyfradd arbennig |
Ceir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009
Symudwch y balans o unrhyw geir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009 i鈥檆h cronfa lwfansau prif gyfradd wrth gyfrifo faint y gallwch ei hawlio.
Os nad oes gan eich car ffigur allyriadau:
- defnyddiwch y gyfradd arbennig
- defnyddiwch y brif gyfradd os cafodd ei gofrestru cyn 1 Mawrth 2001
Defnyddio ceir y tu allan i鈥檆h busnes
Os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth, a鈥檆h bod hefyd yn defnyddio鈥檆h car y tu allan i鈥檆h busnes, cyfrifwch yr hyn y gallwch ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar faint o ddefnydd busnes a wneir ohono.
Os yw鈥檆h busnes yn darparu car ar gyfer cyflogai neu gyfarwyddwr, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar y gost gyfan. Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os yw鈥檙 car yn un o fuddiannau鈥檙 cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os yw鈥檔 ei ddefnyddio at ddefnydd personol.
8. Sut i hawlio
Hawliwch lwfansau cyfalaf ar eich:
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn unig fasnachwr
- Ffurflen Dreth Partneriaeth os ydych yn bartneriaeth
- Ffurflen Dreth Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn gwmni cyfyngedig 鈥� mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys cyfrifiad lwfansau cyfalaf ar wah芒n
Mae鈥檔 rhaid i gyflogeion hawlio mewn ffordd wahanol.
Os ydych wedi defnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen i chi gyfrifo faint y gallwch ei hawlio, yn seiliedig ar y gronfa y mae鈥檆h eitem ynddi.
Caiff y swm y gallwch ei hawlio ei ddidynnu oddi wrth eich elw.
Pryd y gallwch hawlio
Mae鈥檔 rhaid i chi hawlio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch brynu鈥檙 eitem os ydych yn dymuno hawlio:
- lwfans buddsoddi blynyddol
- lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
- uwch-ddidyniad neu lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig
- gwariant llawn a lwfans blwyddyn gyntaf o 50%
Os nad ydych am hawlio鈥檙 gwerth llawn, gallwch hawlio rhan ohono gan ddefnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch wneud hyn unrhyw bryd, cyn belled 芒鈥檆h bod yn dal i fod yn berchen ar yr eitem.
Pryd y gwnaethoch ei phrynu
Y dyddiad y gwnaethoch ei phrynu yw:
- pan wnaethoch lofnodi鈥檙 contract, os yw鈥檙 taliad yn ddyledus cyn pen llai na 4 mis
- pan fydd y taliad yn ddyledus, os yw鈥檔 ddyledus fwy na 4 mis yn hwyrach
Os byddwch yn prynu rhywbeth o dan gontract hurbwrcasu, gallwch hawlio am y taliadau nad ydych wedi鈥檜 gwneud eto pan fyddwch yn dechrau defnyddio鈥檙 eitem. Ni allwch hawlio ar y taliadau llog.听