Canllawiau

Hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau

Os ydych yn adeiladu, yn prynu neu鈥檔 prydlesu strwythur, a chafodd pob un contract adeiladu ei arwyddo ar neu ar 么l 29 Hydref 2018, efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth.

Mae鈥檔 bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth y lwfans strwythurau ac adeiladau bob blwyddyn ar arian penodol rydych yn ei wario. Gall y lwfans hwn bara am y cyfnod lwfans cyfan.

Rhaid eich bod wedi talu rhywfaint o鈥檙 costau tuag at brynu, adeiladu neu adnewyddu鈥檙 strwythur, neu鈥檙 costau cyfan.

Rhaid i bob contract adeiladu fod wedi鈥檌 arwyddo ar neu ar 么l 29 Hydref 2018, a rhaid i鈥檙 strwythur fodloni鈥檙 gofynion canlynol:

  • ni chafodd ei ddefnyddio fel preswylfa y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio, nac yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer
  • mae鈥檔 cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • mae ganddo ddatganiad lwfans

Os ydych yn hawlio鈥檙 lwfans hwn ac mae鈥檙 strwythur yn cael ei werthu neu ei ddymchwel, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Enillion Cyfalaf neu Dreth Gorfforaeth nag arfer. Dylech wirio a yw hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau yn addas i chi.

Cyfraddau a chyfnod lwfans perthnasol

Y gyfradd berthnasol ar gyfer y lwfans strwythurau ac adeiladau

Treth Gorfforaeth Cyfradd
29 Hydref 2018 hyd at 31 Mawrth 2020 2%
1 Ebrill 2020 ac ymlaen 3%
Treth Incwm Cyfradd
29 Hydref 2018 hyd at 5 Ebrill 2020 2%
6 Ebrill 2020 ac ymlaen 3%

Y cyfnod lwfans

Y cyfnod lwfans yw鈥檙 cyfnod pan fo gan berson hawl i hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau mewn perthynas 芒 gwariant perthnasol, cyn belled 芒 bod y person yn bodloni鈥檙 holl amodau gofynnol.

Mae鈥檙 cyfnod lwfans yn para 33 a thraean o flynyddoedd o ddyddiad dechrau鈥檙 cyfnod lwfans.

Dyddiad dechrau鈥檙 cyfnod lwfans yw鈥檙 hwyraf o鈥檙 canlynol:

  • y dyddiad y defnyddiwyd yr adeilad at ddiben dibreswyl gyntaf
  • dyddiad y gwariant cymwys

Yr hyn y mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 strwythur ar ei gyfer

Rhaid i鈥檙 strwythur gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymwys, sy鈥檔 drethadwy yn y DU.

Mae gweithgareddau cymwys yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw fasnachau, proffesiynau a galwedigaethau
  • busnes eiddo yn y DU neu fusnes eiddo tramor (ar wah芒n i eiddo preswyl a llety gwyliau wedi鈥檌 ddodrefnu)
  • rheoli buddsoddiadau cwmni
  • mwyngloddio, chwarela, pysgota a masnachau eraill ar y tir, megis rhedeg rheilffyrdd a thollffyrdd

Yr hyn y gallwch hawlio鈥檙 lwfans arno

Os gwnaethoch dalu dros y gwerth marchnadol am strwythur neu ei gostau adeiladu, byddwch yn gallu hawlio鈥檙 gwerth marchnadol gwreiddiol yn unig.

Gallwch dim ond hawlio costau adeiladu sy鈥檔 cynnwys y canlynol:

  • ffioedd ar gyfer cynllunio
  • paratoi鈥檙 safle ar gyfer adeiladu
  • gwaith adeiladu
  • costau adnewyddu, atgyweirio a throsi
  • gwaith dodrefnu

Os ydych yn adeiladu neu鈥檔 adnewyddu strwythur

Gallwch hawlio鈥檙 swm a wariwyd gennych ar gostau adeiladu, hyd yn oed os ydych yn prydlesu鈥檙 strwythur gan rywun arall.

Os ydych yn prynu strwythur gan ddatblygwr

Os ydych yn prynu鈥檙 strwythur, heb ei ddefnyddio, gan ddatblygwr, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau ar y pris y gwnaethoch dalu i鈥檙 datblygwyr, ar 么l didynnu eitemau na allwch hawlio ar eu cyfer.

Os cafodd y strwythur ei werthu gan ddatblygwr, ei werthu mwy nag unwaith a chi yw鈥檙 person cyntaf i鈥檞 ddefnyddio, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau ar beth bynnag yw鈥檙 pris isaf o鈥檙 canlynol:

  • y pris y gwnaethoch dalu i鈥檙 datblygwr pan wnaeth ei werthu
  • y pris y gwnaethoch dalu am y strwythur

Os ydych yn prynu strwythur, wedi鈥檌 ddefnyddio, gan ddatblygwr, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau ar gostau adeiladu鈥檙 datblygwr.

Os ydych yn prynu strwythur gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr

Os ydych yn prynu鈥檙 strwythur, heb ei ddefnyddio, gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr, ar 么l didynnu eitemau na allwch hawlio ar eu cyfer, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau ar y pris isaf o鈥檙 canlynol:

  • y pris y gwnaethoch dalu am y strwythur
  • y gost adeiladu wreiddiol

Os ydych yn prynu strwythur, wedi鈥檌 ddefnyddio, gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau ar yr un swm yr oedd gan y perchennog blaenorol hawl i鈥檞 hawlio.

Os oedd y perchennog blaenorol yn gallu hawlio lwfans ymchwil a datblygu, gallwch hawlio am yr hyn sy鈥檔 weddill o鈥檙 cyfnod lwfans. Ond, ni allwch hawlio am fwy na鈥檙 swm y gwnaethoch dalu am y strwythur.

Yr hyn na allwch ei hawlio

Ni allwch hawlio鈥檙 canlynol:

  • costau ar gyfer unrhyw breswylfa neu strwythur wedi鈥檜 lleoli ar dir preswyl
  • costau sydd hefyd yn gymwys ar gyfer lwfansau offer a pheiriannau
  • costau yr ydych eisoes wedi鈥檜 defnyddio er mwyn hawlio lwfans arall
  • costau ar gyfer eitemau eraill sydd yn rhan o bris y strwythur, megis, tir, nodweddion a darnau gosod hanfodol
  • costau ar gyfer caniat芒d cynllunio
  • costau ar gyfer ariannu, megis benthyciadau
  • costau ar gyfer ymholiadau cyhoeddus neu dreuliau cyfreithiol
  • costau ar gyfer tirlunio gardd neu adennill tir
  • costau pan gawsoch rodd neu gyfraniad

Sut i hawlio

Mae鈥檔 rhaid i chi hawlio ar eich Ffurflen Dreth.

Bydd angen datganiad lwfans arnoch ar gyfer y strwythur. Os mai chi yw鈥檙 person cyntaf i ddefnyddio鈥檙 strwythur, rhaid i chi greu datganiad lwfans ysgrifenedig cyn i chi allu hawlio.

Rhaid i鈥檆h datganiad lwfans gynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth sy鈥檔 dynodi鈥檙 strwythur, megis cyfeiriad a disgrifiad
  • y dyddiad ar gyfer y contact adeiladu ysgrifenedig cynharaf
  • cyfanswm y costau cymwys
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau defnyddio鈥檙 strwythur at ddiben gweithgaredd nad yw鈥檔 weithgaredd preswyl

Os ydych yn prynu strwythur wedi鈥檌 ddefnyddio, gallwch dim ond hawlio鈥檙 lwfans os oes gennych gopi o鈥檙 datganiad lwfans gan berchennog blaenorol.

Yn achos unrhyw estyniadau neu adnewyddiadau a gwblhawyd ar 么l i chi ddechrau defnyddio鈥檙 strwythur, gallwch gofnodi costau adeiladu ar wah芒n ar y datganiad lwfans, neu greu datganiad lwfans newydd.

Bydd yn rhaid i chi gadw gwybodaeth am y contractau adeiladu cynharaf yn eich cofnodion. Gallwch ddefnyddio pethau megis contractau ffurfiol, e-byst neu nodiadau o gyfarfodydd Bwrdd.

Dewis dyddiad dechrau鈥檆h hawliad

Dechreuwch eich hawliad o ba bynnag ddyddiad sydd hwyrach o鈥檙 canlynol:

  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau defnyddio鈥檙 strwythur ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • y dyddiad pan fo鈥檔 rhaid i chi dalu am y strwythur neu鈥檙 adeiladu

Gallwch ddewis grwpio costau cymwys ychwanegol at ei gilydd a dechrau鈥檆h hawliad am y costau hyn ar ddiwrnod cyntaf eich cyfnod cyfrifyddu nesaf.

Pa mor hir y gallwch hawlio鈥檙 lwfans

Gallwch ddechrau hawlio ar gyfer y cyfnod lwfans cyfan, gan ddechrau o ba bynnag un o鈥檙 canlynol sydd hwyraf:

  • y dyddiad y mae鈥檙 strwythur yn cael ei ddefnyddio at ddiben dibreswyl
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Gallwch barhau i hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau am weddill y cyfnod lwfans, os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • rydych yn prynu strwythur gan berson arall sydd eisoes wedi hawlio
  • rydych yn defnyddio鈥檙 strwythur ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • nid yw鈥檙 strwythur ar gael i鈥檞 ddefnyddio yn dilyn cyfnod y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd cymwys

Os yw鈥檆h prydles am 35 mlynedd neu fwy

Os oes gan y person rydych yn prydlesu鈥檙 strwythur ganddo gostau cymwys, gallwch hawlio鈥檙 lwfans strwythurau ac adeiladau am weddill y cyfnod lwfans. Er mwyn gwneud hyn, mae鈥檔 rhaid i werth ei fuddiant yn y strwythur fod yn llai na thraean o鈥檙 cyfalaf y gwnaethoch dalu amdano.

Gallwch barhau i hawlio鈥檙 lwfans os ydych wedi cymryd rheolaeth dros brydles rhywun arall o fewn y cyfnod lwfans.

Os nad yw unrhyw un o鈥檙 sefyllfaoedd hyn yn gymwys, gall y prydleswr hawlio鈥檙 lwfans sy鈥檔 weddill.

Pryd y gall eich lwfans gael ei addasu

Mae鈥檆h lwfans yn cael ei addasu os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • mae鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu鈥檔 llai na blwyddyn
  • ni fodlonir pob amod ar bob diwrnod o鈥檆h cyfnod cyfrifyddu
  • mae鈥檆h hawl yn dod i ben yn ystod eich cyfnod cyfrifyddu
  • mae鈥檙 strwythur yn cael ei ddefnyddio am fwy nag un gweithgaredd

Gall y lwfans gael ei ostwng neu ei gynyddu yn dibynnu ar nifer y diwrnodau yn eich cyfnod cyfrifyddu.

Os ydych yn gwerthu鈥檙 strwythur

Pan fyddwch yn gwerthu neu鈥檔 gwaredu鈥檙 strwythur, bydd eich lwfansau鈥檔 dod i ben. Dylech roi copi o鈥檙 datganiad lwfans i鈥檙 perchennog newydd fel y gall hawlio unrhyw lwfansau sydd ar 么l.

Os yw鈥檙 strwythur yn cael ei werthu, ei ddymchwel neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth sydd ddim yn weithgaredd cymwys, bydd eich hawliad yn dod i ben.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Enillion Cyfalaf neu Dreth Gorfforaeth. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i chi ychwanegu cyfanswm y lwfans strwythurau ac adeiladau yr ydych wedi鈥檌 hawlio at eich derbynebau gwaredu er mwyn cyfrifo鈥檆h enillion neu鈥檆h colledion cyfalaf.

Sut mae鈥檙 gyfradd lwfans gwerth 3% yn gweithio

Os yw鈥檆h busnes yn destun Treth Gorfforaeth

Gallwch hawlio 3% y flwyddyn o 1 Ebrill 2020 ymlaen ar gostau cymwys, a bydd cyfnod y lwfans yn dod i ben 33 mlynedd a thraean ar 么l yr hwyraf o鈥檙 canlynol:

  • y dyddiad daeth y strwythur i ddefnydd dibreswyl am y tro cyntaf
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Os yw鈥檆h busnes yn agored i Dreth Incwm

Gallwch hawlio 3% y flwyddyn o 1 Ebrill 2020 ymlaen ar gostau cymwys, a bydd cyfnod y lwfans yn dod i ben 33 mlynedd a thraean ar 么l yr hwyraf o鈥檙 canlynol:

  • y dyddiad daeth y strwythur i ddefnydd dibreswyl am y tro cyntaf
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Os yw鈥檆h cyfnod trethadwy ar gyfer lwfansau cyfalaf yn dechrau cyn 1 Ebrill neu 6 Ebrill, dylech ddosrannu鈥檙 cyfnod a hawlio 2% y flwyddyn ar gyfer pob diwrnod cyn 1 Ebrill neu 6 Ebrill, a 3% y flwyddyn ar gyfer pob diwrnod ar neu ar 么l hynny.

Enghraifft

Gwnaethoch adeiladu ffatri sy鈥檔 costio 拢900,000. Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer gwaith ar 7 Ionawr 2019.

Cwblhawyd y ffatri ar 21 Tachwedd 2019 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes peirianneg o 1 Rhagfyr 2019 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr.

Yn eich cyfnod trethadwy hyd at 31 Rhagfyr 2020, gallwch hawlio 2% y flwyddyn am 96 diwrnod o 1 Ionawr 2020 i 5 Ebrill 2020, a 3% y flwyddyn am 270 diwrnod o 6 Ebrill 2020 i 31 Rhagfyr 2020.

96/366 脳 拢900,000 脳 2% = 拢4,722

Plws 270/366 脳 拢900,000 脳 3% = 拢19,919

Cyfanswm yr hawliad yw 拢24,641 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Cadwch nodyn o鈥檙 holl ddyddiau y gwnaethoch hawlio鈥檙 gyfradd 2% ar eu cyfer yn ystod y cyfnod hwn neu gyfnod cynharach. Os nad ydych yn gwerthu na鈥檔 gwaredu鈥檙 strwythur cyn pen 33 mlynedd a thraen o鈥檙 adeg pan gafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf, gallwch hawlio unrhyw ddiffyg mewn lwfansau ar ddiwedd yr amser hwnnw.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2020 show all updates
  1. Added translation

  2. Information about applicable rates and the allowance period has been added.

  3. The capital allowance rate changed to 3% in April 2020.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon