Hawlio lwfansau cyfalaf
Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Os prynwch ased sy鈥檔 gymwys ar gyfer lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%, gallwch ddidynnu鈥檙 gost gyfan oddi wrth eich elw cyn treth.
Gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn ychwanegol at lwfans buddsoddi blynyddol (LBB), ar yr amod nad ydych yn hawlio鈥檙 ddau am yr un gwariant.
Yr hyn sy鈥檔 gymwys
Gallwch hawlio 鈥榣wfansau cyfalaf uwch鈥� (math o lwfans blwyddyn gyntaf o 100%) am yr offer canlynol, y mae鈥檔 rhaid iddynt fod yn newydd a heb eu defnyddio:
- ceir trydan a cheir heb allyriadau CO2
- offer a pheiriannau ar gyfer gorsafoedd ail-lenwi 芒 thanwydd nwy, er enghraifft tanciau storio, pympiau ac offer ail-lenwi 芒 nwy, bio-nwy a hydrogen
- cerbydau nwyddau ag allyriadau sero
- offer ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan
- offer a pheiriannau i鈥檞 defnyddio mewn safle treth arbennig mewn Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi yn y DU, os ydych yn gwmni
Os ydych chi鈥檔 gwmni sy鈥檔 buddsoddi mewn offer neu beiriannau
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio gwariant llawn neu鈥檙 lwfans blwyddyn gyntaf o 50% hefyd. Ond ni allwch hawlio mwy nag un lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Fel arfer, ni allwch hawlio ar gyfer eitemau y mae鈥檆h busnes yn eu prynu i鈥檞 prydlesu i bobl eraill neu i鈥檞 defnyddio o fewn cartref rydych yn ei roi ar osod.
Sut i hawlio
Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth.
Os na fyddwch yn hawlio鈥檙 holl lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% y mae gennych hawl iddynt, gallwch hawlio鈥檙 rhan o鈥檙 gost nad ydych wedi鈥檌 hawlio gan ddefnyddio鈥檙 lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg).