Lwfans Gweini
Cymhwyster
Gallwch gael Lwfans Gweini os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae gennych anabledd corfforol (gan gynnwys anabledd synhwyraidd, er enghraifft dallineb), anabledd meddwl (gan gynnwys anawsterau dysgu), neu gyflwr iechyd
- mae eich anabledd neu gyflwr iechyd yn ddigon difrifol fel bod angen help arnoch i ofalu amdanoch chi鈥檆h hun neu rywun i鈥檆h goruchwylio, er eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall
- rydych chi wedi bod angen yr help hwnnw am o leiaf 6 mis
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych yn nes谩u at ddiwedd oes (Er enghraifft, oherwydd salwch sy鈥檔 cyfyngu ar fywyd). Efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd:
- bod ym Mhrydain Fawr pan fyddwch yn gwneud cais - mae rhai eithriadau, fel aelodau ac aelodau teulu鈥檙 lluoedd arfog
- wedi bod ym Mhrydain Fawr am o leiaf 2 o鈥檙 3 blynedd diwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi鈥檔 ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyn dyngarol)
- bod yn yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- ddim yn destun i (oni bai eich bod yn fewnfudwr noddedig)
- ddim yn cael Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu
Os ydych yn byw yn yr Alban
Bydd angen i chi yn hytrach na Lwfans Gweini os ydych yn byw yn:
- Dinas Aberdeen
- Aberdeenshire
- Angus
- Argyll a Bute
- Clackmannanshire
- Dinas Dundee
- Dwyrain Ayrshire
- Falkirk
- Fife
- Highland
- Moray
- Gogledd Ayrshire
- Ynysoedd Orkney
- Perth a Kinross
- Ynysoedd Shetland
- De Ayrshire
- Stirling
- Ynysoedd y Gorllewin
Os ydych chi鈥檔 byw yn un o鈥檙 ardaloedd hyn a鈥檆h bod eisoes yn cael Lwfans Gweini, nid oes angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn.
Os ydych chi鈥檔 byw mewn rhan arall o鈥檙 Alban, gwnewch gais am Lwfans Gweini.
Os ydych yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein
Efallai y byddwch yn dal i allu cael Lwfans Gweini os ydych yn ddinesydd yn y DU a鈥檆h bod yn byw neu鈥檔 symud i鈥檙 UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu鈥檙 Swistir.
Darllenwch ganllaw i ddarganfod a allwch chi gael budd-daliadau yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir.
Os ydych mewn cartref gofal
Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych chi鈥檔 byw mewn cartref gofal a bod eich awdurdod lleol yn talu am eich gofal. Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gweini os ydych chi鈥檔 talu am eich holl gostau cartref gofal eich hun.
Os oes angen asesiad arnoch
Dim ond os yw鈥檔 aneglur sut mae鈥檆h anabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio arnoch y bydd angen i chi fynd i asesiad i wirio鈥檆h cymhwysedd.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr yn dweud pam a ble mae鈥檔 rhaid i chi fynd. Yn ystod yr asesiad, bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol eich archwilio.