Yr hyn a gewch

Mae鈥檙 gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn:聽

  • 拢21.75 yr wythnos fesul plentyn

  • rhydd o dreth

  • cael ei dalu ar ben eich taliadau Budd-dal Plant

Sut caiff yr arian ei dalu

Fel arfer, caiff yr arian ei dalu i mewn i gyfrif banc bob 4 wythnos. Gellir ei dalu鈥檔 wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu鈥檔 cael rhai budd-daliadau eraill, megis Cymhorthdal Incwm.

Gallwch gael yr arian wedi鈥檌 dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wah芒n i gyfrif Cymdeithas Adeiladu Nationwide yn enw rhywun arall.

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif fel incwm os ydych yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy鈥檔 seiliedig ar incwm.

Ni effeithir ar Lwfans Gwarcheidwad gan y t芒l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. Os ydych yn penderfynu peidio 芒 chael Budd-dal Plant wedi鈥檌 dalu i chi, bydd eich Lwfans Gwarcheidwad yn gallu parhau.

Nid yw鈥檙 Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo pa fudd-daliadau gallwch eu cael.