Lwfans Gwarcheidwad
Printable version
1. Trosolwg
Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os ydych yn magu plentyn y mae ei rieni wedi marw. Gallech hefyd fod yn gymwys os oes un rhiant sy鈥檔 fyw.
惭补别鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
惭补别鈥檙 gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn 拢21.75 yr wythnos. Rydych yn ei gael ar ben eich Budd-dal Plant ac mae鈥檔 rhydd o dreth.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 Uned Lwfans Gwarcheidwad am newidiadau penodol i鈥檆h amgylchiadau.
2. Yr hyn a gewch
惭补别鈥檙 gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn:聽
-
拢21.75 yr wythnos fesul plentyn
-
rhydd o dreth
-
cael ei dalu ar ben eich taliadau Budd-dal Plant
Sut caiff yr arian ei dalu
Fel arfer, caiff yr arian ei dalu i mewn i gyfrif banc bob 4 wythnos. Gellir ei dalu鈥檔 wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu鈥檔 cael rhai budd-daliadau eraill, megis Cymhorthdal Incwm.
Gallwch gael yr arian wedi鈥檌 dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wah芒n i gyfrif Cymdeithas Adeiladu Nationwide yn enw rhywun arall.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Nid yw Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif fel incwm os ydych yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy鈥檔 seiliedig ar incwm.
Ni effeithir ar Lwfans Gwarcheidwad gan y t芒l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. Os ydych yn penderfynu peidio 芒 chael Budd-dal Plant wedi鈥檌 dalu i chi, bydd eich Lwfans Gwarcheidwad yn gallu parhau.
Nid yw鈥檙 Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo pa fudd-daliadau gallwch eu cael.
3. Cymhwystra
Er mwyn cael Lwfans Gwarcheidwad, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 canlynol i gyd fod yn berthnasol:
-
rydych yn magu plentyn rhywun arall
-
mae rhieni鈥檙 plentyn wedi marw (gweler yr amodau ar gyfer un rhiant sydd dal yn fyw isod)
-
rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant
Mae鈥檔 rhaid i un o鈥檙 rhieni hefyd fod naill ai:
-
wedi鈥檌 eni yn y DU neu yn un o aelod-wladwriaethau鈥檙 Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu yn y Swistir
-
yn byw yn y DU am o leiaf 52 wythnos yn ystod unrhyw gyfnod o 2 flynedd ers bod yn 16 oed
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn dal i gael Lwfans Gwarcheidwad cyn belled 芒鈥檆h bod yn ei gael cyn i chi fabwysiadu鈥檙 plentyn.
Os oes un rhiant sy鈥檔 fyw
Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os yw un o鈥檙 canlynol yn wir:
-
nid ydych yn gwybod ble mae鈥檙 rhiant sy鈥檔 fyw ac rydych wedi gwneud ymdrech deg i gysylltu ag ef neu hi
-
roedd y rhieni wedi ysgaru, neu diddymwyd eu partneriaeth sifil, ac nid yw鈥檙 rhiant sy鈥檔 fyw yn gwarchod y plentyn nac yn ei gynnal, ac nid oes gorchymyn llys ar waith sy鈥檔 datgan y dylai wneud hynny
-
nid oedd y rhieni wedi priodi, mae鈥檙 fam wedi marw ac mae鈥檙 tad yn anhysbys
-
bydd y rhiant sy鈥檔 fyw yn y carchar am o leiaf 2 flynedd o ddyddiad marwolaeth y rhiant arall
-
mae鈥檙 rhiant sy鈥檔 fyw yn yr ysbyty yn 么l gorchymyn llys
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
4. Sut i hawlio
Er mwyn osgoi colli arian, hawliwch y Lwfans Gwarcheidwad cyn gynted ag y daw鈥檙 plentyn i fyw gyda chi.
-
Llenwch y ffurflen gais (BG1).
-
Anfonwch y ffurflen i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ynghyd 芒 thystysgrif geni鈥檙 plentyn a thystysgrifau marwolaeth y rhieni (neu dystysgrif os mai un rhiant sydd wedi marw) - anfonwch ddogfennau gwreiddiol.
Dylech hefyd hawlio Budd-dal Plant cyn gynted 芒 phosibl.
Gellir 么l-ddyddio Lwfans Gwarcheidwad hyd at 3 mis.
Gallwch hefyd ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am becyn hawlio.
Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
5. Newidiadau yn eich amgylchiadau
Os yw鈥檆h amgylchiadau鈥檔 newid, gall hyn effeithio ar eich hawl i Lwfans Gwarcheidwad neu gall eich taliadau ddod i ben.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau canlynol ar unwaith:
-
y plentyn yn symud allan i fyw gyda rhywun arall
-
rydych yn mynd dramor, naill ai dros dro (am fwy nag 8 wythnos) neu鈥檔 barhaol (am fwy na blwyddyn)
-
y plentyn yn gadael addysg amser llawn neu hyfforddiant cymeradwy
-
eich manylion banc neu鈥檆h manylion cyswllt yn newid
-
rydych yn darganfod ble mae鈥檙 rhiant sy鈥檔 fyw
-
mae鈥檙 rhiant sy鈥檔 fyw yn gadael yr ysbyty neu鈥檙 carchar (neu fod ei ddedfryd yn cael ei wneud yn fyrrach)
-
y rhiant sy鈥檔 fyw yn gwneud taliad tuag at gynnal y plentyn
Gallwch roi gwybod am y newidiadau聽hyn dros y ff么n neu drwy鈥檙 post.