Lwfans Gofalwr
Cymhwyster
Gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano, a鈥檙 math o ofal rydych yn ei rhoi yn bodloni meini prawf penodol.
Y person rydych yn gofalu amdano
Mae rhaid i鈥檙 person rydych yn gofalu amdano fod yn cael un o鈥檙 budd-daliadau hyn eisoes:
- Taliad Annibyniaeth Personol - yr elfen bywyd bob dydd
- Lwfans Byw i鈥檙 Anabl - y gyfradd ganol neu uchaf o鈥檙 elfen gofal
- Lwfans Byw i鈥檙 Anabl i Oedolion yr Alban - y gyfradd ganol neu uchaf o鈥檙 elfen gofal
- Lwfans Gweini
- Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
- Lwfans Gweini Cyson ar neu鈥檔 uwch na鈥檙 gyfradd mwyafswm arferol gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Plentyn - y gyfradd ganol neu uchaf o鈥檙 elfen gofal
- Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch
Os ydych yn gofalu am y person gydag eraill
Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych yn rhannu gofal rhywun a bod y gofalwr arall eisoes yn hawlio:
- Lwfans Gofalwr ar gyfer y person hwnnw
- Taliad Cymorth Gofalwr ar gyfer y person hwnnw
- y swm ychwanegol 鈥榞ofalu am berson ag anabledd difrifol鈥� o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y person hwnnw
Os ydych am gael Lwfans Gofalwr, siaradwch 芒鈥檙 gofalwr arall ynghylch newid eu budd-daliadau.
Os nad yw鈥檙 gofalwr arall eisiau gwneud hynny, gallwch wneud cais am Lwfans Gofalwr o hyd. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fydd yn penderfynu pwy ddylai dderbyn y budd-dal.
Y math o ofal rydych yn ei roi
Mae鈥檔 rhaid eich bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun. Gall hyn gynnwys:
- helpu 芒 golchi a choginio
- mynd 芒鈥檙 person rydych yn gofalu amdano i apwyntiad meddyg
- helpu 芒 thasgau yn y cartref, fel rheoli biliau a siopa
Eich cymhwyster
Mae鈥檔 rhaid i bob un o鈥檙 canlynol fod yn berthnasol:
- rydych yn 16 oed neu drosodd
- rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
- rydych wedi bod yng Nghymru, Lloegr, neu鈥檙 Alban am o leiaf 2 o鈥檙 3 blynedd ddiwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyniad dyngarol)
- rydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu鈥檙 Alban, neu rydych yn byw dramor fel aelod o鈥檙 lluoedd arfog (efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys os ydych yn symud i neu eisoes yn byw mewn gwlad o鈥檙 AEE neu鈥檙 Swistir)
- nid ydych mewn addysg llawn amser
- nid ydych yn astudio am 21 awr neu fwy yr wythnos
- nid ydych yn destun i
- mae eich enillion yn 拢151 neu鈥檔 llai yr wythnos ar 么l treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau
Os ydych chi鈥檔 byw yn yr Alban, mae angen i chi yn lle Lwfans Gofalwr.
Os ydych o鈥檙 UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a鈥檆h teulu o dan Gynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE i gael Lwfans Gofalwr. Y dyddiad cau i wneud cais i鈥檙 cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i鈥檙 mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi鈥檔 dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE.
Os yw eich enillion weithiau dros 拢151 yr wythnos gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr o hyd. Efallai bydd eich enillion ar gyfartaledd yn cael ei gyfrifo i weithio allan a ydych yn gymwys.
Cyfrifo eich enillion
Eich enillion yw unrhyw incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth ar 么l treth, yswiriant gwladol, a threuliau.
Gall treuliau gynnwys:
- 50% o鈥檆h cyfraniadau pensiwn
- offer sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith, er enghraifft dillad arbenigol
- costau teithio rhwng gwahanol weithleoedd nad ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr, er enghraifft costau tanwydd neu dr锚n
- costau busnes os ydych yn hunangyflogedig, er enghraifft cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig
Os ydych yn talu gofalwr i ofalu am y person anabl neu鈥檆h plant tra byddwch yn gweithio, gallwch drin costau gofal sy鈥檔 llai na neu鈥檔 gyfartal i 50% o鈥檆h enillion fel treuliau. Ni ddylai鈥檙 gofalwr fod eich priod, eich partner, eich rhiant, neu鈥檔 blentyn na brawd neu chwaer i chi.
Enghraifft
Rydych yn ennill 拢100 yr wythnos (ar 么l treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau eraill) ac yn gwario 拢60 yr wythnos ar ofal tra rydych yn gweithio. Gallwch drin 拢50 o hyn fel treuliau.
Mae taliadau nad ydynt yn cyfrif fel enillion yn cynnwys:
- arian a dderbynir o bensiwn galwedigaethol neu breifat
- cyfraniadau tuag at eich costau byw neu lety gan rywun rydych yn byw gyda hwy (ni allant fod yn denant neu鈥檔 llet每wr)
- y 拢20 cyntaf yr wythnos a 50% o weddill unrhyw incwm a wnewch gan rywun sy鈥檔 lletya yn eich cartref
- benthyciad neu daliad ymlaen llaw gan eich cyflogwr
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth
Ni allwch gael swm llawn o Lwfans Gofalwr a鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth ar yr un pryd.
Os yw eich pensiwn yn 拢81.90 yr wythnos neu鈥檔 fwy, ni chewch daliad Lwfans Gofalwr.
Os yw eich pensiwn yn llai na 拢81.90 yr wythnos, cewch daliad Lwfans Gofalwr i wneud y gwahaniaeth i fyny.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn
Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth yn fwy na 拢81.90 yr wythnos ni chewch daliad Lwfans Gofalwr ond caiff eich Credyd Pensiwn ei gynyddu yn lle.
Os nad ydych yn gymwys
Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Gofalwr os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr.