Gwahardd am yfed a gyrru

Gallwch gael eich gwahardd os cewch eich dyfarnu鈥檔 euog o yfed a gyrru. Yn dibynnu ar eich trosedd, gallwch hefyd gael dirwy neu gael eich anfon i鈥檙 carchar.听

Bydd angen ichi wneud cais am drwydded newydd ar 么l i鈥檆h gwaharddiad ddod i ben.

Os cewch eich gwahardd rhag gyrru am 12 mis neu fwy, efallai y byddwch yn gallu lleihau eich gwaharddiad drwy ddilyn cwrs adsefydlu yfed a gyrru.

Troseddwyr risg uchel

Os ydych yn 鈥榙roseddwr risg uchel鈥�, ni fyddwch yn cael eich trwydded newydd hyd nes y gallwch brofi eich bod yn ffit i yrru eto. Bydd angen ichi basio archwiliad meddygol gydag un o feddygon penodedig DVLA.

Rydych yn droseddwr risg uchel os:聽

  • roeddech wedi鈥檆h cael yn euog o 2 drosedd yfed a gyrru o fewn 10 mlynedd

  • roeddech yn gyrru gyda darlleniad alcohol o o leiaf 87.5 microgram o alcohol fesul 100 mililitr (ml) o anadl, 200 miligram (mg) o alcohol fesul 100 ml o waed, neu 267.5 mg o alcohol fesul 100 ml o wrin

  • roeddech wedi gwrthod rhoi sampl o anadl, gwaed neu wrin i鈥檙 heddlu i brofi am alcohol

  • roeddech wedi gwrthod caniat谩u i sampl o鈥檆h gwaed gael ei brofi am alcohol (er enghraifft, os cafodd ei gymryd pan oeddech yn anymwybodol)聽

Byddwch yn cael ffurflen adnewyddu D27PHW 90 diwrnod cyn i鈥檆h gwaharddiad ddod i ben. Rhaid ichi lenwi鈥檙 ffurflen a鈥檌 hanfon i DVLA i ailymgeisio am eich trwydded.听

Archwiliad meddygol gyda meddyg DVLA

Unwaith y bydd DVLA yn derbyn eich cais am drwydded newydd, byddant yn anfon manylion y meddyg atoch er mwyn ichi allu gwneud apwyntiad.

Bydd rhaid ichi dalu am eich archwiliad.

Yn ystod yr arholiad, byddwch yn:聽

  • llenwi holiadur am eich hanes meddygol a鈥檆h defnydd o alcohol

  • cymryd rhan mewn archwiliad corfforol

  • cael prawf gwaed

Mae鈥檙 broses yn wahanol yng .