Ailymgeisio am eich trwydded yrru os ydych wedi cael eich gwahardd

Rhaid ichi wneud cais am drwydded yrru newydd i yrru eto os:

  • ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru

  • yw eich trwydded yrru lawn neu dros dro wedi cael ei chanslo (鈥榚i diddymu鈥�)

Gwiriwch eich cofnod gyrru ar-lein i weld pryd y bydd eich gwaharddiad yn dod i ben.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwaharddiad am yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau

Gallwch ailymgeisio am eich trwydded yrru lawn neu dros dro cyn i鈥檆h cyfnod gwahardd ddod i ben.

Bydd DVLA yn anfon ffurflen adnewyddu D27W atoch:

  • 56 diwrnod cyn i鈥檆h gwaharddiad ddod i ben

  • 90 diwrnod cyn i鈥檆h gwaharddiad ddod i ben os ydych yn droseddwr risg uchel

Llenwch y ffurflen hon a鈥檌 hanfon i DVLA 驳测诲补鈥檙 ffi trwydded yrru. Bydd y ffurflen adnewyddu D27W yn dweud wrthych a oes angen ichi anfon ffotograff pasbort steil newydd.

Os na fyddwch yn cael eich ffurflen adnewyddu drwy鈥檙 post, gallwch gael ffurflen D1W neu D2W gan .

I adnewyddu eich trwydded am:

  • gar neu feic modur defnyddiwch ffurflen D1W

  • lori neu fws defnyddiwch ffurflen D2W

Ni allwch yrru nes bod eich cyfnod gwahardd wedi dod i ben.

Gyrwyr newydd

Mae鈥檔 rhaid ichi wneud cais am drwydded dros dro newydd ac ail-sefyll y ddwy ran o鈥檆h prawf gyrru os caiff eich trwydded ei chanslo o fewn 2 flynedd i鈥檞 pasio nhw. 听

Os caiff eich trwydded ei chanslo gallwch wneud cais am un newydd ar unrhyw adeg. Gallwch gael D1W gan . Anfonwch hi a鈥檙 ffi i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Deiliaid trwydded yrru dros dro

Mae鈥檔 rhaid ichi ail-sefyll y ddwy ran o鈥檆h prawf gyrru os caiff eich trwydded dros dro ei chanslo ar 么l ichi basio eich prawf, ond nid ydych wedi anfon am eich trwydded lawn eto. Gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru dros dro bresennol i sefyll y profion.

Methu 芒 rhoi eich trwydded i鈥檙 llys

Rhaid ichi wneud cais am drwydded newydd os yw eich trwydded yn annilys oherwydd na wnaethoch ei rhoi i鈥檙 llys i鈥檞 hardystio.

Cewch ffurflen D1W neu D2W gan . Anfonwch hi a鈥檙 ffi trwydded yrru i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

I adnewyddu eich trwydded am:

  • gar neu feic modur defnyddiwch ffurflen D1W

  • lori neu fws defnyddiwch ffurflen D2W

Gogledd Iwerddon

os ydych yng Ngogledd Iwerddon.

Deiliaid trwyddedau o鈥檙 tu allan i Brydain Fawr

Bydd DVLA yn dychwelyd eich trwydded pan fydd eich cyfnod gwahardd yn dod i ben.