Os oes angen ichi ailsefyll eich prawf

Os dywedodd y llys wrthych fod rhaid ichi sefyll prawf gyrru arall cyn gyrru eto, bydd rhaid ichi wneud cais am drwydded dros dro newydd.

Gallwch yrru cyn gynted ag y bydd eich gwaharddiad drosodd a鈥檆h bod wedi pasio鈥檙 profion y mae angen ichi eu hailsefyll.听

Sut i gael trwydded newydd

  1. Bydd DVLA yn anfon nodyn atgoffa atoch 56 diwrnod cyn i鈥檆h gwaharddiad ddod i ben - defnyddiwch hwn i wneud cais am drwydded yrru dros dro newydd. Os na chawsoch nodyn atgoffa, archebwch ffurflen gais yn lle. Archebwch ffurflen D1W am drwydded car a beic modur neu ffurflen D2W ar gyfer trwydded lori a bws.听

  2. Archebwch ac ailsefyll prawf theori ac ymarferol (neu hyfforddiant sylfaenol gorfodol a phrawf ymarferol beic modur os ydych yn reidio beic modur). Archebwch ac ailsefyll prawf ymarferol estynedig os dywedodd y llys wrthych am sefyll un. Mae鈥檙 prawf ymarferol estynedig yn parhau am o leiaf 60 munud ac mae ganddo ffioedd uwch.

  3. Pan fyddwch wedi pasio鈥檙 prawf ymarferol, gofynnwch i鈥檙 arholwr drefnu i鈥檆h trwydded newydd gael ei hanfon atoch - gallwch yrru鈥檔 gyfreithlon cyn gynted ag y byddwch wedi pasio鈥檙 prawf ymarferol.

Os ydych am yrru cerbyd mawr (categori C) neu fws (categori D) rhaid i鈥檙 comisiynydd traffig lleol gytuno - bydd DVLA yn gofyn iddynt pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded lawn newydd.

Mae proses wahanol yng .听

Os oes gennych drwydded gan un o wledydd yr UE

Peidiwch 芒 gwneud cais am drwydded dros dro - gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru UE i sefyll y prawf yn lle hynny.

Dilynwch y rheolau arferol ar gyfer dysgu gyrru nes ichi ailsefyll eich prawf a phasio.