Canllawiau

Pam o dan y ddaear?

Rheoli gwastraff ymbelydrol drwy waredu daearegol

Mae yna gonsensws rhyngwladol mai鈥檙 datrysiad parhaol mwyaf diogel er mwyn rheoli gwastraff ymbelydrol gweithgaredd uwch yw gwaredu daearegol, sy鈥檔 golygu rhoi鈥檙 gwastraff mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) o dan gannoedd o fetrau o graig gadarn.

Dyma鈥檙 dull sydd wedi cael ei ddewis eisoes mewn gwledydd megis , , Ffrainc, a鈥檙 Swistir. Mae rhai o鈥檙 gwledydd yma eisoes ar y ffordd i ddatblygu eu GDFau eu hunain.

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Sut mae gwaredu daearegol yn gweithio?

Mae gwaredu daearegol yn bosibl diolch i beirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg o鈥檙 radd flaenaf. Mae鈥檔 cynnwys:

  • ynysu鈥檙 gwastraff ymbelydrol mewn claddgelloedd a thwneli wedi鈥檜 selio yn ddwfn o dan y ddaear, rhwng 200m a 1000m o dan yr wyneb
  • dal yr ymbelydredd wrth iddo ddadfeilio鈥檔 naturiol dros amser
  • atal lefelau niweidiol o ymbelydredd rhag cyrraedd yr wyneb

Mae gwastraff ymbelydrol solid yn cael ei becynnu mewn cynwysyddion diogel wedi鈥檜 peiriannu, sydd wedi eu gwneud fel arfer o fetel neu goncrid, ac yna maent yn cael eu gosod mewn ffurfiant craig sefydlog gannoedd o fetrau o dan yr wyneb, ac mae鈥檙 cynwysyddion yn cael eu claddu mewn clai neu sment. Gelwir hyn yn ddull aml-rwystr.

Y cysyniad aml-rwystr

Y cysyniad aml-rwystr

Hefyd, mae defnyddio GDF yn golygu:

  • nid oes angen gwaith cynnal a chadw parhaus
  • mae鈥檔 llai agored na storio ar yr wyneb i weithgaredd pobl megis terfysgaeth neu ryfel
  • mae鈥檔 llai agored na storio ar yr wyneb i brosesau naturiol megis newid yn yr hinsawdd

Gwyliwch ein fideo sy鈥檔 dangos sut fydd GDF yn cael ei weithredu.

Mae鈥檙 llithrydd llinell amser isod yn defnyddio WAI ARIA. Defnyddiwch y ddogfen ar gyfer eich darllenydd sgrin i gael mwy o wybodaeth.

Ar 么l gosod y gwastraff mewn GDF yn ddwfn o dan y ddaear ac ymhell oddi wrth bobl a鈥檙 amgylchedd, bydd yn cael ei selio鈥檔 barhaol maes o law er mwyn sicrhau diogelwch, ac ni fydd angen gwneud dim mwy.

Y datrysiad mwyaf diogel

Diogelwch yw ein blaenoriaeth absoliwt. Wrth adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol rydym yn gweithio ar sicrhau y bydd y risg fydd yn deillio o鈥檙 GDF yn llai na thebygolrwydd o un mewn miliwn i bobl ddioddef problemau iechyd ar unrhyw adeg yn y dyfodol. (Ffynhonnell: Canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar Ofynion Awdurdodi Gwaredu Daearegol, 2009)

Mae dewisiadau amgen wedi cael eu hystyried yn ofalus ac rydym yn parhau i adolygu opsiynau. Ar hyn o bryd, mae pob un naill ai ddim yn dechnolegol bosibl (er enghraifft: troi鈥檙 gwastraff yn ddeunydd anymbelydrol), ddim yn amgylcheddol ddiogel (er enghraifft; gwaredu yn y m么r neu mewn llenni ia), neu鈥檔 rhy beryglus i鈥檞 gweithredu (er enghraifft: tanio鈥檙 gwastraff i鈥檙 gofod mewn rocedi).

Dulliau gwaredu gwastraff anaddas

Dulliau gwaredu gwastraff anaddas

Y camau nesaf

Rydym yn chwilio am safle addas i weithredu gwaredu daearegol yn ddiogel, sydd 芒 chymuned barod fydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda ni, fel rhan o weledigaeth gyt没n ar gyfer y dyfodol.

Bydd y gwaith o gynllunio gwaredu daearegol yn cymryd rhwng 15 ac 20 mlynedd. Bydd rheoleiddwyr annibynnol yn sicrhau y bydd yr holl brosesau鈥檔 cael eu dilyn yn briodol. Dim ond ar 么l hynny y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau.

Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i鈥檙 tudalennau yma,

Ewch i wefan gwaredu daearegol

A oes gennych gwestiwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae ein gwyddonwyr a鈥檔 peirianyddion yn barod i ateb unrhyw ymholiadau technegol. E-bostiwch ni yn [email protected]

Er mwyn deall yn well beth fydd yn cael ei roi mewn GDF, sut fydd yn edrych a beth yw鈥檙 dull aml-rwystr, darllenwch fwy yn y ffeiliau gwyddoniaeth isod y gellir eu lawrlwytho.

Y ffeiliau gwyddoniaeth

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Ionawr 2018

Argraffu'r dudalen hon