Hanes niwclear y DU
Gwastraff ymbelydrol yn ei gyd-destun
Ein gwaddol niwclear
Mae鈥檙 Deyrnas Unedig yn arloeswr ym maes technoleg niwclear, ac yma yr agorwyd yr orsaf p诺er niwclear fasnachol gyntaf yn y byd yn 1956 yn Calder Hall ger Sellafield yn Cumbria. Mae p诺er niwclear wedi creu buddion mawr: mae wedi cyfrannu at amddiffyn, cynhyrchu trydan am dros 60 o flynyddoedd ac mae ein gwlad yn parhau i fod yn fenter niwclear flaenllaw yn fyd-eang.
Heddiw mae鈥檙 DU yn wynebu鈥檙 her o lanhau gwaddol ei gweithgareddau niwclear cynnar - rhaglen ar raddfa fawr a roddir ar waith gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hynny鈥檔 cynnwys darparu datrysiadau arloesol ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol sy鈥檔 bodloni safonau diogelwch heddiw ac a fydd yn ein gwarchod i鈥檙 dyfodol pell.
Pam ein bod yn defnyddio ynni niwclear heddiw
Polisi Llywodraeth y DU yw cael cymysgedd eang o gyflenwadau ynni, felly rydym yn defnyddio niwclear yn ogystal 芒 ffynonellau ynni eraill, megis nwy a solar. Heddiw mae ynni niwclear yn cynhyrchu tua un rhan o bump o drydan y wlad, ac o dan gynlluniau presennol y llywodraeth sy鈥檔 cynnwys , bydd peth o鈥檔 p诺er yn dod o ffynonellau niwclear yn y dyfodol.
Mae yna resymau pwysig pam fod niwclear yn rhan o鈥檙 gymysgedd:
-
mae鈥檔 ddewis carbon isel sy鈥檔 ategu amcanion y DU mewn perthynas 芒 newid yn yr hinsawdd: mae gorsafoedd p诺er niwclear yn cynhyrchu trydan heb allyrru nwyon t欧 gwydr megis carbon deuocsid a methan.
-
mae gorsafoedd p诺er niwclear yn cynhyrchu trydan 24 awr y dydd, beth bynnag fo鈥檙 tywydd
-
nid yw gorsafoedd p诺er niwclear angen cyflenwad dyddiol o danwydd newydd i weithredu, sy鈥檔 wahanol i orsafoedd nwy, glo a biomas
O ble arall y daw gwastraff ymbelydrol?
Ar wah芒n i gynhyrchu p诺er niwclear, daw gwastraff ymbelydrol o:
-
Meddygol - yn benodol defnyddir deunyddiau ymbelydrol i sterileiddio offer a helpu i ddiagnosio a thrin afiechydon meddygol.
-
Diwydiant - er enghraifft, defnyddir pelydrau gama i brofi ansawdd weldio neu drwch cynhyrchion, megis papur.
-
Amddiffyn - mae鈥檔 cynnwys gweithredu llongau tanfor p诺er niwclear a dadgomisiynu hen longau tanfor.
-
Ymchwil a datblygu - o dechnoleg ymasiad niwclear i ddatblygu triniaethau radiotherapi i brofi deunyddiau solid newydd ar gyfer mewngapsiwleiddio gwastraff ymbelydrol hylifol.
Mae鈥檙 rhestr lawn o鈥檙 gwastraff ymbelydrol sy鈥檔 bodoli yn ein gwlad yn cael ei diweddaru a鈥檌 chyhoeddi ar .
I ddysgu mwy am ymbelydredd, darllenwch neu lawrlwythwch聽Beth yw gwastraff ymbelydrol?
Beth sydd angen i ni ei wneud nawr
Mae angen rheoli鈥檙 gwastraff ymbelydrol sy鈥檔 deillio o gynhyrchu p诺er, meddygaeth a diwydiannau eraill yn ofalus. Ar hyn o bryd mae鈥檙 gwastraff presennol yn cael ei storio ar yr wyneb mewn mwy na 30 o safleoedd o gwmpas y DU. Gall y storfeydd yma ar yr wyneb fod yn ddiogel am nifer o ddegawdau, ond mae angen eu gwarchod yn barhaus er mwyn eu cadw鈥檔 ddiogel ac mewn cyflwr da, oherwydd mae鈥檙 gwastraff yn parhau鈥檔 ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.

Safleoedd niwclear yn y DU
Mae yna gonsensws rhyngwladol mai gwaredu daearegol yw鈥檙 ffordd fwyaf diogel o reoli gwastraff gweithgaredd uwch yn yr hirdymor, ac y bydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn sicrhau nad yw鈥檙 cyfrifoldeb o ddiogelu鈥檙 gwastraff hwn yn barhaus yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau鈥檙 dyfodol.

Beth fydd yn cael ei roi mewn GDF?
Ffeil wyddoniaeth
I gael mwy o wybodaeth am wastraff ymbelydrol, darllenwch ein ffeil wyddoniaeth, Beth yw gwastraff ymbelydrol?:
Yngl欧n 芒 ni
Mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn sefydliad cyhoeddus sy鈥檔 gyfrifol am waredu daearegol diogel yn y DU. Mwy o wybodaeth am RWM.
Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i鈥檙 tudalennau yma,