Canllawiau

Beth i'w ddisgwyl wrth ymuno 芒 gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo

Gwybodaeth am sut y dylech chi baratoi ar gyfer gwrandawiad llys neu dribiwnlys dros y ff么n neu drwy fideo a beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod.

Dylai cyfranogwyr proffesiynol hefyd ddarllen ein canllawiau ar ymuno 芒 gwrandawiad troseddol drwy fideo fel gweithiwr proffesiynol.

Gall barnwr benderfynu i gynnal eich gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo, yn seiliedig ar reolau perthnasol yn y maes hwnnw o鈥檙 gyfraith. Os ydych yn cymryd rhan mewn gwrandawiad, bydd y llys neu dribiwnlys yn dweud wrthych os cynhelir y gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo ac yn esbonio sut i ymuno.

Os ydych eisiau arsylwi gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo, cysylltwch 芒鈥檙 llys ymlaen llaw.

Gwrandawiadau dros y ff么n

Byddwn yn eich ffonio ar adeg y gwrandawiad ac efallai y byddwn yn defnyddio rhif anhysbys. Os ydych chi鈥檔 defnyddio gwasanaethau gwahardd galwadau, trowch nhw i ffwrdd er mwyn inni allu cysylltu 芒 chi.

Pan fyddwn yn eich ffonio, byddwch yn clywed neges yn dweud eich bod wedi鈥檆h gwahodd i ymuno 芒 chynhadledd ff么n.

I ymuno 芒鈥檙 gwrandawiad:

  1. pwyswch y botwm 鉁� (seren) a鈥檙 rhif 1 i ymuno
  2. dywedwch eich enw
  3. pwyswch y botwm # (hash)
  4. unwaith y byddwch chi yn y gwrandawiad, arhoswch yn dawel nes y gofynnir i chi siarad - pwyswch 鉁�6 fel eich bod yn fud i鈥檙 gwrandawiad a鈥檌 bwyso eto pan fydd gofyn ichi siarad

Ar ddechrau鈥檙 gwrandawiad, bydd y barnwr neu鈥檙 ynad yn cyflwyno鈥檌 hun ac yn egluro sut y bydd y gwrandawiad yn gweithio a beth fydd arnoch angen ei wneud.

Efallai bydd arnoch angen cael mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais tabled (fel iPad) i allu cael dogfennau ychwanegol ar y diwrnod.

Os cewch unrhyw broblemau gyda chael dogfennau neu gymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ff么n, rhowch wybod i鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys cyn gynted 芒 phosib.

Gwrandawiadau fideo

Os cynhelir eich gwrandawiad drwy gyswllt fideo, bydd y llys neu鈥檙 tribiwnlys yn eich hysbysu am ba blatfform fydd yn cael ei ddefnyddio. Pan fyddwch yn gwybod hynny, dilynwch y ddolen briodol i gael canllawiau ar sut i ymuno 芒鈥檙 gwrandawiad fideo a phrofi eich offer:

Cyn y gwrandawiad rhaid i chi:

  • wirio fod gennych y porwr rhyngrwyd neu鈥檙 ap iawn ar eich dyfais
  • darllen y canllawiau ar sut i ymuno 芒鈥檙 gwrandawiad
  • profi eich offer gan ddefnyddio鈥檙 cyfarwyddiadau ar brofi platfform, fel eich bod chi鈥檔 gwybod ei fod yn gweithio - os nad ydych chi wedi gwneud hyn fe allai beri oedi neu darfu ar y gwrandawiad
  • dweud wrthym ar unwaith os cewch unrhyw broblemau wrth ymuno 芒鈥檙 platfform neu wrth brofi eich offer, gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth gyswllt yn yr wybodaeth a anfonwyd atoch

Bydd y llys neu鈥檙 tribiwnlys yn ystyried eich anghenion ac yn gwneud popeth posibl i sicrhau y byddwch chi鈥檔 gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn olygu eich bod chi鈥檔 ymuno mewn ffordd wahanol.

Cyn eich gwrandawiad

Dylech ddweud wrth y llys neu鈥檙 tribiwnlys pa rif ff么n neu gyfeiriad e-bost y dylid ei ddefnyddio i gysylltu 芒 chi ar gyfer y gwrandawiad.

Dylech hefyd ofyn i鈥檙 llys am unrhyw drefniadau neu fesurau arbennig a fyddai鈥檔 eich helpu i deimlo鈥檔 ddiogel ac yn gyfforddus i gymryd rhan yn y gwrandawiad. Gall hyn gynnwys mesurau i sicrhau na allwch gael eich gweld gan unigolyn arall sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 achos. Bydd y llys yn ceisio darparu鈥檙 hyn y byddwch yn gofyn amdano, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys neu鈥檙 tribiwnlys yn yr wybodaeth y maent wedi ei hanfon atoch, neu drwy chwilio ar-lein.

Cael cymorth cyfreithiol

Cewch wybodaeth yma ynghylch cyn eich gwrandawiad. Gallwch hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol neu gael gwybodaeth am .

Os ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn gwrandawiad gyda chynrychiolydd cyfreithiol, trefnwch sut y byddwch chi鈥檔 cyfathrebu鈥檔 gyfrinachol yn ystod y gwrandawiad.

Tystion

Os ydych chi鈥檔 dyst dros yr erlyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda鈥檆h swyddog gofal tyst.

Os ydych chi鈥檔 dyst dros yr amddiffyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gymorth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda chyfreithiwr yr amddiffyniad.

Dioddefwyr a thystion sy鈥檔 mynd i鈥檙 llys i roi tystiolaeth

Gofynnwch i rywun eich cefnogi yn ystod eich gwrandawiad

Mewn achosion nad ydynt yn droseddol gallwch ofyn i rywun ddarparu cefnogaeth i chi yn ystod eich gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo. Gallant fod yn rhan o sefydliad elusennol neu wasanaeth llywodraeth leol, yn ffrind neu鈥檔 aelod o鈥檙 teulu. Ni allant fod yn rhywun sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 achos.

Bydd angen i chi ofyn am ganiat芒d y llys neu鈥檙 tribiwnlys iddynt ymuno. Ni allant roi cyngor cyfreithiol na siarad ar eich rhan ond gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth ymarferol am y broses.

Trefnu i rywun eich cefnogi yn ystod y gwrandawiad

Dewiswch ym mhle hoffech fod ar gyfer y gwrandawiad

Cyn y gwrandawiad rhaid i chi: * ddewis lle sy鈥檔 dawel ac yn breifat * gadael i bobl sy鈥檔 rhannu鈥檙 lle wybod na ddylid tarfu arnoch yn ystod y gwrandawiad * profi eich offer

Addasiadau rhesymol

Rydym yn gwybod bod angen cymorth ychwanegol ar bobl ag anableddau weithiau. Gall hyn olygu bod angen i ni ddarparu rhywbeth gwahanol fel y gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau yn yr un modd 芒 rhywun heb anabledd. Rydym yn aml yn galw hwn yn addasiad rhesymol.

Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi, dywedwch wrthym gan ddefnyddio鈥檙 manylion cyswllt a anfonwyd atoch. Byddwn yn trafod hyn gyda鈥檙 barnwr sy鈥檔 gwrando鈥檙 achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi鈥檙 dystiolaeth orau y gallant ei rhoi, cymryd rhan yn effeithiol a chael gwrandawiad teg.

Sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau angenrheidiol

Cysylltwch 芒鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys, neu siaradwch 芒鈥檆h cynrychiolydd cyfreithiol, i sicrhau bod gennych fynediad hawdd at yr holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar y diwrnod. Os oes angen rhannu dogfennau ar y diwrnod, bydd y barnwr, yr ynad neu un o swyddogion y llys yn dweud wrthych sut y gallwch eu rhannu neu eu derbyn.

Diwrnod eich gwrandawiad

Paratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ff么n neu drwy fideo

Byddwch yn barod o leiaf 20 munud cyn y gwrandawiad a gwnewch yn si诺r:

  • fod batri鈥檙 ddyfais yr ydych am ei defnyddio i ymuno 芒鈥檙 gwrandawiad yn llawn neu bod y ddyfais wedi ei phlygio i mewn
  • fod gennych unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwrandawiad
  • fod gennych eich llyfr sanctaidd neu ysgrythur o鈥檆h dewis i dyngu llw arno (os yw鈥檔 berthnasol)
  • eich bod wedi mynd ag unrhyw beth arall a allai dynnu sylw o鈥檙 ystafell, fel ff么n symudol (oni bai eich bod yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwrandawiad)

Os ydych chi鈥檔 ymuno trwy fideo, rhaid i chi hefyd wneud y canlynol: * gwisgo fel petaech yn mynd i adeilad llys neu dribiwnlys * bod 芒 rhywbeth plaen y tu 么l i chi, fel wal wag * eistedd gyda golau o鈥檆h blaen, felly nad oes cysgod dros eich wyneb * gwneud yn si诺r ein bod ni鈥檔 gallu gweld eich wyneb a鈥檆h ysgwyddau

Os ydych yn arsylwi鈥檙 gwrandawiad yn hytrach na chymryd rhan, efallai y gofynnir ichi roi eich camera i ffwrdd.

Yn ystod y gwrandawiad

Mae gwrandawiadau dros y ff么n neu drwy fideo yn dilyn yr un broses 芒 gwrandawiad mewn adeilad llys neu dribiwnlys.

Ar ddechrau鈥檙 gwrandawiad, bydd y barnwr neu鈥檙 ynad yn egluro beth fydd yn digwydd. Efallai y bydd yn gofyn cwestiynau i chi i sicrhau eich bod chi wedi deall. Mae鈥檔 bwysig os nad ydych chi鈥檔 deall rhywbeth eich bod chi鈥檔 rhoi gwybod i鈥檙 barnwr neu鈥檙 ynad.

Os ydych chi鈥檔 rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid sy鈥檔 gyfreithiol rwymol (a elwir yn gadarnhad) y bydd eich tystiolaeth yn wir. Nid oes angen defnyddio llyfr sanctaidd neu ysgrythur oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny; os felly bydd angen i chi fod 芒鈥檙 llyfr wrth law.

Eich r么l yn y gwrandawiad

Er mwyn osgoi tarfu ar y gwrandawiad, diffoddwch eich meicroffon os yn bosibl, fel nad yw鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys yn clywed s诺n cefndir na sgwrsio. Efallai y diffoddir eich meicroffon ac y byddwch yn fud i鈥檙 gwrandawiad awtomatig, yn dibynnu ar y platfform sy鈥檔 cael ei ddefnyddio.

Os ydych chi鈥檔 ymuno drwy fideo, cofiwch y bydd pawb yn gallu eich gweld ar y sgr卯n a dylech fod yn ymwybodol o iaith y corff ac ymddygiad, p鈥檜n a ydych chi鈥檔 siarad ai peidio.

Gallwch ofyn i鈥檙 barnwr neu鈥檙 ynad a oes angen ailadrodd rhywbeth na wnaethoch ei ddilyn na鈥檌 ddeall.

Pan fyddwch yn siarad, cofiwch sicrhau bod eich meicroffon ymlaen (dim ar 鈥榤ute鈥�) a chofiwch siarad yn glir.

Gallwch ofyn i鈥檙 barnwr neu鈥檙 ynad os bydd arnoch angen seibiant yn ystod eich gwrandawiad.

Rheolau鈥檙 gwrandawiad

Rhaid i chi drin gwrandawiadau ff么n a fideo mor ddifrifol 芒 phe baent mewn adeilad llys neu dribiwnlys.

Yn ystod y gwrandawiad: * ni ddylech yfed dim ond d诺r * ni ddylech fwyta * ni ddylech ysmygu na defnyddio e-sigaret * dylech ddilyn cyfarwyddiadau鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys * dylech fod ar eich pen eich hun oni bai fod gennych ganiat芒d fel arall

Mae recordio fideo neu sain y gwrandawiad, neu dynnu lluniau neu luniau sgrin yn drosedd.

Gallwch gymryd nodiadau ysgrifenedig os dymunwch a gallwch wneud cais am drawsgrifiad pan fydd gwrandawiadau鈥檔 cael eu recordio.

Ar ddiwedd eich gwrandawiad

Gall y barnwr neu鈥檙 ynad adael yr alwad ff么n neu fideo am gyfnod byr i feddwl am y penderfyniad.

Efallai y bydd yn penderfynu ar y diwrnod, neu anfonir y penderfyniad atoch trwy鈥檙 post wedi hynny.

Bydd y barnwr neu鈥檙 ynad yn dweud wrthych pryd y gallwch adael y gwrandawiad. Gweler y cyfarwyddyd ar gyfer eich platfform i gael gwybod sut i adael y gwrandawiad.

Dywedwch wrthym am eich profiad

Helpwch ni i wella ein gwasanaethau drwy .

Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhywfaint o鈥檙 cyfarwyddyd pwysig ar y dudalen hon hefyd ar gael fel fideo:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Gorffennaf 2021 show all updates
  1. Removed links to Microsoft Teams and Skype as they are no longer used for video hearings

  2. Added instructions on special arrangements and measures.

  3. Added signpost and link to professional guidance.

  4. Adding a video of the guidance

  5. Welsh translation added.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon