Canllawiau

Taenlen atodlen ar gyfer hawlio treth n么l ar gyfraniadau Rhodd Cymorth

Cyflwyno cyfraniadau Rhodd Cymorth unigol, cyfraniadau cyfansymiol a cheisiadau am ddigwyddiadau sydd wedi'u noddi gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.

Beth i鈥檞 gynnwys

Mae鈥檔 rhaid bod gennych ddatganiadau Rhodd Cymorth (yn Saesneg) dilys ar gyfer yr holl gyfraniadau yr ydych yn eu cofnodi yn y daenlen atodlen, y dylech eu cadw ar gyfer eich cofnodion.

Bydd angen i chi nodi鈥檙 canlynol ar gyfer bob cyfrannwr unigol:

  • teitl, gan ddefnyddio uchafswm o 4 cymeriad ar bob llinell
  • enw cyntaf (neu flaenlythyren gyntaf) ac enw olaf, gan ddefnyddio uchafswm o 35 cymeriad ar bob llinell
  • enw neu rif y t欧
  • cod post, gan ddefnyddio prif lythrennau a chynnwys bwlch, er enghraifft, S19 2BD
  • cyfraniadau cyfansymiol os yn gymwys
  • digwyddiadau wedi鈥檜 noddi
  • dyddiad y cyfraniad, gan ddefnyddio鈥檙 fformat DD/MM/BB neu nodwch y dyddiad diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau a wnaed gan y cyfrannwr
  • swm y cyfraniad, heb ddefnyddio鈥檙 arwyddion 拢 a gan ddangos symiau i 2 pwynt degol e.e. 200.00 nid 拢200

Os oes blwch yn y daenlen nad yw鈥檔 berthnasol i chi, gadewch ef yn wag.

Ar gyfer cyfraniad unigol, mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y dyddiad pan dderbyniwyd y cyfraniad. Ond os yw cyfrannwr unigol yn gwneud cyfraniadau rheolaidd i鈥檆h elusen neu CChAC, neu os ydych yn cyflwyno cyfraniadau cyfansymiol, nodwch ddyddiad y cyfraniad diwethaf a dderbyniwyd.

Gallwch hefyd nodi鈥檙 cyfanswm ar gyfer y cyfrannwr dros y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer. Mae鈥檔 bosib y bydd angen i chi ddangos dyddiad gwahanol os yw鈥檙 cyfraniadau hyn yn cwmpasu mwy nag un cyfnod cyfrifyddu.

Bydd angen i chi ddod o hyd i鈥檙 cod post ar gyfer cyfeiriadau yn y DU, naill ai gan y cyfrannwr neu drwy ddefnyddio canfyddwr codau post ar-lein rhad ac am ddim y Post Brenhinol, a鈥檜 nodi yn eich cofnodion.

Os yw cyfenw鈥檙 cyfrannwr yn un dwbl baril, defnyddiwch fwlch yn lle鈥檙 cysylltnod e.e. nodwch Smith Davis nid Smith-Davis.

Cyfraniadau cyfansymiol

Gallwch 鈥榞ronni鈥� (ychwanegu at ei gilydd) cyfraniadau o 拢20 neu lai gan gyfranwyr gwahanol a鈥檜 dangos fel un cofnod ar y daenlen. Ni all cyfanswm y cyfraniad ar un llinell fod yn fwy na 拢1,000 ac ni all y cyfanswm gynnwys cyfraniadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 mynediad i atynfeydd elusennol ar gyfer ymwelwyr.

I hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau cyfansymiol, peidiwch 芒 nodi enw a chyfeiriad cyfranwyr unigol, gan fydd hyn yn arafu eich cais am ad-daliad. Dylech, yn hytrach, nodi鈥檙 canlynol:

  • disgrifiad syml megis 鈥楥yfranwyr clwb dydd Iau鈥� yn y blwch 鈥榗yfraniadau cyfansymiol鈥� (uchafswm o 35 cymeriad)
  • dyddiad y cyfraniad diwethaf
  • y cyfanswm a godwyd

Dylech ond adio at ei gilydd cyfraniadau a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu. Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i鈥檙 DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu鈥檔 rhedeg i鈥檙 5ed o Ebrill.

Digwyddiadau wedi鈥檜 noddi

Bydd angen i chi nodi鈥檙 canlynol:

  • 鈥榠awn鈥� yn y blwch ar gyfer digwyddiadau sydd wedi鈥檜 noddi
  • y dyddiad y derbyniwyd y taliadau nawdd gan yr elusen
  • cyfanswm y cyfraniadau Rhodd Cymorth a godwyd gan y cyfranogwr

Os ydych yn hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau o ddigwyddiad wedi鈥檌 noddi, nid oes angen i chi gynnwys manylion cyfranwyr unigol, heblaw bod unigolyn yn rhoi mwy na 拢500.

Dangoswch gyfraniadau unigol dros 拢500 fel cyfraniad Rhodd Cymorth ar wah芒n, ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyfrannwr. Peidiwch 芒 nodi 鈥榠awn鈥� yn y blwch digwyddiad wedi鈥檌 noddi yn erbyn cyfraniadau unigol.

Os ydych yn ychwanegu at ei gilydd cyfraniadau sy鈥檔 llai na 拢500 o ddigwyddiadau wedi鈥檜 noddi, nodwch enw, cyfeiriad a chod post pob cyfranogwr yn y digwyddiad.

Gall y cyfeiriad fod yn gyfeiriad cartref neu gyfeiriad gwaith y cyfranogwr, neu鈥檔 gyfeiriad ysgol os oes gan y cyfranogwyr blentyn sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a drefnwyd gan ysgol.

Cyfraniadau rheolaidd

Gellir dangos cyfraniadau rheolaidd gan un person ar un llinell. Gallwch eu hadio i gyd at ei gilydd ac ychwanegu dyddiad y cyfraniad diweddaraf yn unig. Serch hynny, dylech ond adio cyfraniadau at ei gilydd a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu.

Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i鈥檙 DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu鈥檔 rhedeg i鈥檙 5ed o Ebrill.

Er enghraifft, os caiff taliadau misol o 拢10 eu gwneud gan yr un person o 10 Gorffennaf 2013 i 10 Mehefin 2016, ac mai 30 Mehefin yw eich cyfnod cyfrifyddu.

Taliad misol Dyddiad diweddaraf Yn syrthio yn y cyfnod cyfrifyddu hyd at
拢120 10/06/14 30/06/14
拢90 10/03/15 30/06/15
拢30 10/06/15 30/06/15
拢120 10/06/16 30/06/16

Symiau a or-hawliwyd

Defnyddiwch y daenlen atodlen i ddweud wrth CThEM am wall a olygodd y cawsoch eich gordalu y tro diwethaf y gwnaethoch gais.

Mae鈥檔 rhaid i chi nodi swm y dreth a or-hawliwyd, nid gwerth y cyfraniad, yn y blwch cywir. Caiff y swm hwn ei ddidynnu wedyn o鈥檙 cais rydych yn ei gyflwyno.

Os yw鈥檙 swm a ordalwyd yn fwy na鈥檙 cais am ad-daliad yr ydych yn ei wneud, bydd yn rhaid i chi wneud taliad ychwanegol i CThEM.

Terfyn ar bob taenlen

Mae gan y daenlen atodlen uchafswm o 1,000 o linellau, felly gallwch dim ond gwneud cais am 1,000 o gyfraniadau ar un daenlen ar y tro. Os ewch dros yr uchafswm, ni chaiff y llinellau gormodol eu hatodi fel rhan o鈥檆h cais.

Gallwch, fodd bynnag, gyflwyno cymaint o geisiadau ar-lein ag y dymunwch, e.e. os oes gennych 1,600 o gyfraniadau Rhodd Cymorth, gallwch gyflwyno dau gais gydag 800 o gyfraniadau ar bob cais. Rhaid eich bod wedi llenwi a chyflwyno un cais ar-lein cyn eich bod yn dechrau ail un.

Cael y meddalwedd cywir

Mae鈥檙 daenlen atodlen wedi ei hysgrifennu mewn fformat OpenDocument (ODF), fformat rhydd ar gyfer taenlenni, a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn y gallwch agor y daenlen atodlen, gwnewch yn si诺r fod gennych un o鈥檙 rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel 鈥� Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, mae鈥檔 rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen gywir ar gyfer MS Excel. Sicrhewch fod eich cyfrifiadur yn defnyddio 鈥楨nglish UK鈥� fel iaith. Ewch i 鈥楩ile > Options > Languages鈥� i weld.

Os ydych yn defnyddio LibreOffice, mae鈥檔 rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen ar gyfer LibreOffice. Gallwch lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae鈥檔 cymryd ychydig o funudau鈥檔 unig. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o . Mae鈥檔 rhaid i chi lawrlwytho fersiwn 鈥楨nglish (GB)鈥�. Ewch i 鈥楾ools > Options > Languages鈥� i weld.

Peidiwch 芒 lawrlwytho鈥檙 fersiwn ar gyfer LibreOffice ac yna ceisio ei throsi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd angen i鈥檙 rheiny sy鈥檔 defnyddio Mac osod 鈥楨nglish (GB)鈥�. Gwnewch hyn drwy fynd i a chlicio ar 鈥楲ibreOffice in other languages鈥�.

Mae鈥檔 bosibl y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniat谩u i agor y ffeiliau sy鈥檔 cynnwys y daenlen, ond efallai na fyddant yn eich caniat谩u i atodi鈥檆h taenlen i鈥檆h cais ar-lein a bwrw golwg dros y cynnwys yn y gwasanaeth 鈥楨lusennau Ar-lein鈥�.

Cadw a chyflwyno

Pan fod gennych y feddalwedd briodol i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Mae gan bob taflen waith yn y daenlen atodlen tab ag enw ar yr ochr chwith yn y gwaelod. Enw鈥檙 tab yw: R68GAD_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - Taenlen atodlen o gyfraniadau Rhodd Cymorth. Peidiwch 芒 newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi鈥檙 daenlen atodlen i鈥檙 ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sydd wedi鈥檜 cadw yn y fformat OpenDocument yr 么l-ddodiad 鈥�.ods鈥� ar 么l enw鈥檙 ffeil sy鈥檔 dangos ym mha fformat mae鈥檙 ddogfen wedi鈥檌 chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o鈥檙 enw 鈥楥ais am Rodd Cymorth 2013鈥� yn cael ei chadw fel 鈥楥ais am Rodd Cymorth 2013.ods鈥�. Os newidiwch yr 么l-ddodiad, mae鈥檔 bosib y cewch anawsterau wrth geisio uwchlwytho鈥檆h taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho鈥檙 taenlenni atodlen, mae鈥檔 bwysig eich bod yn lawrlwytho ac yn defnyddio鈥檙 fersiwn addas o鈥檙 daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch 芒 lawrlwytho鈥檙 fersiwn LibreOffice o鈥檙 daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwythwch y daenlen atodlen Rhodd Cymorth ar gyfer

Negeseuon gwall

Os cewch neges gwall sy鈥檔 dechrau gydag 鈥楢SM鈥�, sicrhewch nad ydych wedi ei chop茂o a鈥檌 phastio i mewn i鈥檙 daenlen, a鈥檆h bod wedi cadw鈥檙 ffeil fel taenlen ODF.

Os cewch fath arall o neges gwall, sicrhewch nad ydych wedi teipio unrhyw fylchau gwag yn eich taenlen cyn neu ar 么l gwybodaeth am gyfrannwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Awst 2024 show all updates
  1. The previous update to the 'What to include' section was made in error. This information has now been removed.

  2. The 'What to include' section has been updated to include a reminder that Gift Aid declarations require the donor's full name.

  3. The amount for aggregated donations has been changed from 拢30 to 拢20.

  4. Aggregated donations have been changed from 拢20 to 拢30.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon