Canllawiau

Taenlen atodlen ar gyfer ceisiadau GASDS adeiladau cymunedol

Anfonwch gais ar gyfer treth gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein ar gyfraniadau a gasglwyd mewn adeilad cymunedol o dan y cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth.

Mae angen i chi gofnodi cyfraniadau elusennol bach a gasglwyd mewn adeilad cymunedol o dan y Cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth (GASDS) gan ddefnyddio taenlen atodlen. Pan fyddwch wedi ei llenwi, dylech ei hatodi i鈥檆h cais ar-lein a鈥檌 hanfon i Cyllid a Thollau EM (CThEM) gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.

Beth i鈥檞 gynnwys

Bydd angen i chi roi鈥檙 canlynol yn y daenlen atodlen:

  • enw鈥檙 adeilad cymunedol (uchafswm o 160 o gymeriadau)
  • llinell gyntaf cyfeiriad yr adeilad (uchafswm o 40 o gymeriadau)
  • cod post

Os nad ydych yn gwybod beth yw鈥檙 cod post, gallwch ganfod yr hyn ydyw o wefan canfod codau post (postcode finder) y Post Brenhinol. Os nad oes cod post gan yr adeilad, rhowch god post yr adeilad agosaf.

Bydd angen i chi nodi鈥檙 canlynol yn ogystal:

  • dyddiad diwedd y flwyddyn dreth rydych yn gwneud cais ar ei chyfer o dan y GASDS
  • swm pob cyfraniad bach o 拢20 neu lai a gesglir ym mhob adeilad cymunedol

Os ydych eisoes wedi cadw鈥檙 wybodaeth berthnasol ar eich taenlen eich hun, gallwch gop茂o a gludo鈥檙 cynnwys i鈥檙 daenlen atodlen.

Terfyn fesul taenlen

Mae gan y daenlen atodlen adeiladau cymunedol uchafswm o 500 o linellau. Os ydych yn mynd dros yr uchafswm, ni atodir y llinellau dros yr uchafswm fel rhan o鈥檆h cais.

Cael y meddalwedd cywir

Mae鈥檙 daenlen atodlen ar ffurf OpenDocument (ODF) - fformat rhydd ar gyfer taenlenni a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn i chi agor y daenlen atodlen, gwnewch yn si诺r fod gennych un o鈥檙 rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel - Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice 3.5 ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen LibreOffice. Mae lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae鈥檔 cymryd ychydig o funudau鈥檔 unig. (yn agor ffenestr newydd).

Peidiwch 芒 lawrlwytho鈥檙 fersiwn LibreOffice o鈥檙 daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniat谩u i agor y ffeiliau taenlenni atodlen, ond efallai na fyddant yn eich caniat谩u i atodi鈥檆h taenlen i鈥檆h cais ar-lein neu fwrw golwg ar y cynnwys yn Elusennau Ar-lein.

Cadw a chyflwyno

Pan fydd y meddalwedd priodol gennych i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Mae tab ag enw i鈥檞 weld ar ochr chwith gwaelod pob taflen waith yn y daenlen atodlen. Enw鈥檙 tab yw: R68CB_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - taenlen atodlen adeiladau cymunedol. Peidiwch 芒 newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi鈥檙 daenlen atodlen i鈥檙 ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sydd wedi鈥檜 cadw ar ffurf OpenDocument yr 么l-ddodiad 鈥�.ods鈥� ar 么l enw鈥檙 ffeil er mwyn dangos ym mha fformat y mae鈥檙 ddogfen wedi鈥檌 chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o鈥檙 enw 鈥楥ais am Rodd Cymorth 2013鈥� wedi鈥檌 chadw fel 鈥楥ais am Rodd Cymorth 2013.ods鈥�. Os ydych yn newid yr 么l-ddodiad, efallai y byddwch yn cael problemau wrth geisio uwchlwytho eich taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho鈥檙 taenlenni atodlen, mae鈥檔 bwysig eich bod yn lawrlwytho a defnyddio鈥檙 fersiwn priodol o鈥檙 daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho鈥檙 daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch 芒 lawrlwytho鈥檙 fersiwn LibreOffice o鈥檙 daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwythwch y daenlen atodlen Adeiladau Cymunedol a

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2014

Argraffu'r dudalen hon