Cofrestru gyda CThEF i greu cyfrif gwasanaethau asiant
Dysgu sut i gofrestru gyda CThEF drwy鈥檙 post fel y gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant.
I greu cyfrif gwasanaethau asiant, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru gyda CThEF fel asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) yn gyntaf.
Os oes gennych gyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF eisoes a bod gennych o leiaf un cleient awdurdodedig (ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE neu TAW), gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant ar unwaith.
Mae ffordd wahanol o wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi鈥檆h lleoli yn y DU.
Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd rhaid i chi roi鈥檙 wybodaeth ganlynol:
- enw llawn
- enw masnachu (os yw鈥檔 wahanol)
- y cyfeiriad lle mae鈥檆h gweithgareddau busnes yn cael eu cynnal (ni all hwn fod yn gyfeiriad Blwch Swyddfa鈥檙 Post)
- rhif ff么n
- cyfeiriad e-bost
- rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad (mae鈥檔 rhaid i chi roi hwn os ydych yn gyfarwyddwr ag UTR, yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartner)
- UTR partneriaeth, UTR partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu UTR cwmni (os yw鈥檔 berthnasol)
- rhif cofrestru cwmni (os yw鈥檔 berthnasol)
- rhif cofrestru TAW (os yw鈥檔 berthnasol)
- cyfeirnod TWE y cyflogwr (os yw鈥檔 berthnasol)
- manylion y trethi rydych yn bwriadu ymdrin 芒 nhw
Os oes gan eich busnes nifer o bartneriaid neu gyfarwyddwyr, bydd angen i chi roi鈥檙 canlynol i ni ar gyfer pob un:
- enwau llawn
- rhifau Yswiriant Gwladol
- UTRau Hunanasesiad
Hefyd, bydd angen arnoch fanylion eich cofrestriad ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian, gan gynnwys:
- pwy yw鈥檆h awdurdod goruchwylio (yn agor tudalen Saesneg) ynghyd 芒 thystiolaeth ddogfennol (gwiriwch gyda鈥檆h goruchwyliwr pa dystiolaeth y dylech ei darparu)
- eich rhif cofrestru ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian os mai CThEF yw鈥檆h awdurdod goruchwylio gwrth-wyngalchu arian (yn agor tudalen Saesneg)
Bydd eich cais yn cael ei wrthod os na fyddwch yn rhoi鈥檙 dogfennau cywir.
Ble i anfon eich gwybodaeth
Anfon eich gwybodaeth drwy鈥檙 post at:
T卯m Cydymffurfiad Asiantau / Agent Compliance Team
Cyllid a Thollau EF
Y Deyrnas Unedig
BX9 1ZE
Ni fyddwn yn eich cofrestru os na rowch yr wybodaeth gywir, neu os nad yw CThEF yn fodlon ar yr wybodaeth a roddir gennych.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi cofrestru cyn pen 40 diwrnod gwaith ar 么l i鈥檙 cais dod i law.
Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf
Pan fyddwch wedi cofrestru gyda CThEF fel asiant, byddwch yn gallu creu cyfrif gwasanaethau asiant.
Updates to this page
-
The number of days it takes to get an agent services account has been updated from 28 to 40 working days after HMRC receive the application.
-
Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.
-
The address where you send your information by post has been updated.
-
Added translation
-
The list under 'What you'll need' has been updated to include a VAT registration number (if applicable) and a PAYE Employer reference (if applicable).
-
More information has been added to the section about what you'll need to register with HMRC to use an agent services account.
-
Information about what you'll need to register with HMRC to use an agent services account has been updated.
-
First published.