Canllawiau

Gweithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau

Y rheolau ar gyfer elusennau sydd eisiau cefnogi, neu wrthwynebu, newid ym mholisi鈥檙 llywodraeth neu鈥檙 gyfraith.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Gweithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau

Fel ymddiriedolwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich elusen yn dilyn y rheolau ar weithgaredd gwleidyddol ac ymgyrchu.

Felly, sicrhewch bod unrhyw staff a gwirfoddolwyr sy鈥檔 gweithio ar ymgyrchoedd yn deall y rheolau. Hyd yn oed os byddwch yn dirprwyo鈥檙 gweithgareddau hyn, chi sy鈥檔 parhau i fod yn gyfrifol.

Yr hyn rydym yn golygu wrth 鈥榳eithgaredd gwleidyddol鈥�

Mae鈥檙 Comisiwn Elusennau yn defnyddio鈥檙 term 鈥榞weithgaredd gwleidyddol鈥� i ddisgrifio gweithgareddau neu ymgyrchu i newid neu ddylanwadu ar bolis茂au neu benderfyniadau a wneir gan:

  • lywodraeth genedlaethol, ddatganoledig, leol neu dramor.
  • gyrff cyhoeddus gan gynnwys sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig a Banc y Byd, a sefydliadau cenedlaethol neu leol fel rheoleiddwyr neu Ymddiriedolaethau GIG

Er enghraifft, byddai elusen ar gyfer pobl ddigartref yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol pe bai鈥檔 dadlau dros newid yn y polisi a鈥檙 gyfraith ar sut y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu oherwydd effaith y system bresennol ar bobl ddigartref.

A byddai elusen 芒鈥檙 pwrpas o warchod yr amgylchedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol pe bai鈥檔 dechrau perswadio llywodraeth dramor i leihau faint o dorri coed a datgoedwigo yn eu gwlad.

Gallwch fod yn gweithio 芒 gwahanol bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol, fel:

  • gwleidyddion, ymgeiswyr gwleidyddol neu weision cyhoeddus
  • y cyhoedd i gael cefnogaeth neu wrthwynebiad i newid

Y rheolau ar weithgaredd gwleidyddol

Gall elusennau gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol sy鈥檔 cefnogi eu pwrpas ac sydd er eu budd pennaf.

Gall fod sefyllfaoedd lle mai cyflawni gweithgaredd gwleidyddol yw鈥檙 ffordd orau i ymddiriedolwyr gefnogi diben eu helusen. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgaredd gwleidyddol ddod yn rheswm dros fodolaeth yr elusen.

Mae鈥檔 rhaid i elusennau aros yn annibynnol ac mae鈥檔 rhaid iddynt beidio 芒 rhoi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol.

Mae p诺er gan rai elusennau yn eu dogfen lywodraethol i esbonio sut y gallant gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol. Nid oes angen p诺er penodol arnoch ond gall helpu os yw gweithgaredd gwleidyddol yn rhan allweddol o鈥檆h gwaith, er enghraifft ar gyfer rhai elusennau hawliau dynol.

Mae gan rai elusennau gyfyngiadau yn eu dogfen lywodraethol sy鈥檔 atal gweithgaredd gwleidyddol. Gwiriwch eich dogfen lywodraethol am unrhyw gyfyngiadau o鈥檙 fath.

Cymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol

Dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol

Gallwch gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol, ond mae鈥檔 rhaid i hyn gefnogi鈥檙 gwaith o gyflawni diben eich elusen.

Er enghraifft, gallai ymddiriedolwyr elusen sydd 芒鈥檙 diben o gefnogi pobl 芒 phroblemau iechyd meddwl benderfynu ymgyrchu am ragor o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl y GIG i helpu i gynyddu nifer y bobl sy鈥檔 cael gofal iechyd meddwl pan fydd ei angen arnynt.

Ni allai ymddiriedolwyr elusen sydd 芒鈥檙 diben o redeg gwarchodfa anifeiliaid ac ailgartrefu anifeiliaid crwydr benderfynu ymgyrchu dros hawliau dynol dramor, nad yw, er eu bod yn ystyried yn achos gwerthfawr, yn hyrwyddo diben yr elusen o redeg gwarchodfa anifeiliaid.

I鈥檆h helpu i wneud eich penderfyniad, dylech:

  • weithredu o fewn dogfen lywodraethol eich elusen
  • weithredu鈥檔 onest ac er budd eich elusen yn unig
  • bod digon o wybodaeth gennych, gan gymryd unrhyw gyngor sydd ei angen arnoch
  • ystyried y ffactorau perthnasol yn unig
  • reoli unrhyw wrthdaro buddiannau
  • gwneud penderfyniad sydd o fewn amrediad o benderfyniadau y gallai corff rhesymol o ymddiriedolwyr ei wneud

A defnyddiwch yr egwyddorion hyn wrth benderfynu sut rydych am ymgysylltu ac wrth adolygu鈥檙 cynnydd y mae鈥檙 elusen yn ei wneud.

Rheoli鈥檙 elusen yn gyfrifol

Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd ystyried yn rheolaidd effaith eich gweithgaredd gwleidyddol ar asedau鈥檙 elusen gan gynnwys ei henw da, yn enwedig pan allai ddenu diddordeb cyhoeddus sylweddol neu feirniadaeth. Gall y potensial ar gyfer beirniadaeth gael ei liniaru gan yr elusen gan sicrhau ei fod yn cynnal ei gweithgaredd 芒 pharch a goddefgarwch.

Ar gyfer pob gweithgaredd gwleidyddol, ond yn enwedig gweithgareddau risg uchel, sicrhewch eich bod yn gallu dangos:

  • y bydd yn hyrwyddo diben eich elusen ac y bydd er lles gorau iddi
  • y bydd yr elusen yn gallu aros yn annibynnol ar ragfarn plaid wleidyddol
  • y gallwch chi gyfiawnhau鈥檙 adnoddau sydd eu hangen
  • y buddion posibl yn gorbwyso鈥檙 risgiau
  • y gallwch gyfiawnhau unrhyw ddefnydd o ddeunydd dadleuol a鈥檆h bod wedi ystyried y risgiau cysylltiedig a鈥檙 gofynion cyfreithiol
  • y gallwch gydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau eraill sy鈥檔 berthnasol, er enghraifft ar hysbysebu, athrod ac enllib

Os bydd pethau鈥檔 mynd o鈥檜 lle

Os bydd rhywbeth yn mynd o鈥檌 le yn ddifrofol, gall y Comisiwn neu鈥檙 llysoedd ymchwilio i sut y gwnaethoch reoli鈥檙 elusen, gwneud eich penderfyniadau, a chydymffurfio 芒鈥檆h dyletswyddau fel ymddiriedolwr.

Nid yw鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i chi fod yn arbenigwyr cyfreithiol, ond byddwn yn ystyried yr hyn y gallech fod wedi鈥檌 wybod yn rhesymol neu wedi鈥檌 ddarganfod pan wnaethoch eich penderfyniadau. Dilynwch yr egwyddorion uchod a chadwch gofnodion ysgrifenedig i ddangos sut y daethoch i鈥檆h penderfyniadau.

Gweithio 芒 gwleidyddion

Gall elusennau gefnogi polisi a gefnogir gan blaid wleidyddol neu ymgeisydd wleidyddol. Gallwch weithio 芒 phleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr i ddylanwadu ar eu penderfyniadau, ar yr amod bod hyn yn cefnogi diben eich elusen a bod eich elusen yn parhau i fod yn annibynnol.

Er enghraifft, gallwch:

  • gael cyfarfodydd 芒鈥檆h Aelod Seneddol (AS) neu ffigurau gwleidyddol eraill
  • gymryd rhan mewn trafodaethau polisi mewn cynhadledd plaid
  • ofyn i AS neu gynghorydd lleol siarad yn lansiad prosiect newydd gan eich elusen

Cadwch yn annibynnol drwy:

  • ofyn i鈥檙 ffigurau gwleidyddol rydych yn ymgysylltu 芒 nhw i beidio 芒 hyrwyddo negeseuon plaid wleidyddol yn eich digwyddiadau neu adeiladau
  • geisio ymgysylltu鈥檔 gyfartal 芒鈥檙 holl brif bleidiau gwleidyddol

Os yw eich elusen bob amser yn ymgysylltu ag un blaid neu berson yn unig, gallai hyn godi amheuaeth os yw eich elusen yn niwtral yn wleidyddol.

Ni ddylai elusennau byth:

  • ddarparu arian neu adnoddau eraill i unrhyw un sy鈥檔 sefyll fel ymgeisydd
  • hyrwyddo ymgeisydd neu blaid wleidyddol arbennig

Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych yn cyflawni gweithgaredd gwleidyddol yn y cyfnod rhwng cyhoeddi a chynnal etholiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Elusennau, Etholiadau a Refferenda.

Ymgyrchu arall

Mae elusennau yn aml yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd eraill nad ydynt yn weithgaredd gwleidyddol. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 math hwn o ymgyrchu hybu diben eich elusen hefyd.

Gallai gynnwys addysgu鈥檙 cyhoedd neu godi ymwybyddiaeth am fater penodol. Er enghraifft, gallai elusen iechyd hyrwyddo manteision deiet cytbwys.

Gallai hefyd gynnwys sicrhau bod polis茂au a chyfreithiau presennol yn cael eu dilyn, heb geisio eu newid. Er enghraifft, gallai elusen anabledd ymgyrchu i sicrhau bod plant yn cael popeth mae ganddynt hawl iddo o dan y cyfreithiau presennol.

Yn aml gall gweithgaredd gwleidyddol ac ymgyrchu fod yn wahanol rannau o ffocws parhaus ar fater arbennig neu ddiben elusennol.

Mae llawer o鈥檙 rheolau sy鈥檔 berthnasol i gyflawni gweithgaredd gwleidyddol hefyd yn berthnasol i ymgyrchu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Hydref 2022

Argraffu'r dudalen hon