Gwneud cais heb gynrychiolaeth gyfreithiol
Gwybodaeth i鈥檞 hystyried cyn gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cyflwynir y rhan fwyaf o geisiadau i Gofrestrfa Tir EF gan drawsgludwyr proffesiynol sy鈥檔 cynrychioli鈥檔 gyfreithiol ac yn gweithredu ar ran y bobl o dan sylw (鈥榶 part茂on鈥�).
Gall unrhyw un gyflawni ei drawsgludo ei hunan heb gynrychiolaeth gyfreithiol, ond rhaid bod yn ymwybodol o rai materion pwysig cyn penderfynu gwneud hynny eich hunan.
Manteision defnyddio trawsgludwr
-
Mae trawsgludo鈥檔 broses gyfreithiol a gall fod yn gymhleth. Yn aml, mae angen cynnal chwiliadau ac ymholiadau ffurfiol eraill. Os na chaiff y rhain eu cwblhau鈥檔 gywir, neu eu gwneud o gwbl, gall problemau sylweddol godi ar 么l i drafodiad ddigwydd.
-
Gall ceisiadau cofrestru tir ymddangos yn syml, ond gall y gyfraith yn y maes hwn fod yn gymhleth a gall canlyniadau anghywirdeb fod yn gostus. Os ydych yn defnyddio trawsgludwr, byddwch yn cael eich yswirio gan ei yswiriant proffesiynol os aiff pethau o chwith.
-
Os yw鈥檙 trafodiad yn ymwneud 芒 morgais, bydd y rhan fwyaf o roddwyr benthyg yn mynnu bod trawsgludwr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y broses drawsgludo.
-
Yn gyffredinol, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth. Mewn llawer o achosion, bydd angen i rai neu bob un o鈥檙 part茂on o dan sylw gael eu hunaniaeth wedi ei dilysu cyn gwneud cais i gofrestru鈥檙 trafodiad.
-
Gan ddibynnu ar y math o drafodiad, efallai bydd angen ymdrin 芒 nifer o agweddau cyfreithiol ac ariannol wrth baratoi dogfennau. Gall hyn gynnwys llenwi ffurflenni nad oes eu hangen fel arfer ar Gofrestrfa Tir EF.
Cyngor pellach
Dim ond gwybodaeth ffeithiol ac arweiniad gweithdrefnol ar y system cofrestru tir a sut i wneud ceisiadau gall Cofrestrfa Tir EF eu darparu. Mae ein safonau gwasanaeth yn amlinellu鈥檙 cyngor y gallwn ac na allwn ei roi.
Cofiwch
Dylid ystyried a yw Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) yn gymwys i鈥檆h trafodiad. Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall, efallai y bydd angen atwrneiaeth.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar yr hyn sydd angen ichi ei wneud, dylech geisio cyngor gan drawsgludwr proffesiynol.