Ein safonau gwasanaeth
Diweddarwyd 2 Hydref 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Amseroedd prosesu ceisiadau
Gweler Cofrestrfa Tir EF: amseroedd prosesu ar gyfer ein hamseroedd diweddaraf ar brosesu ceisiadau.
1. Safonau gwasanaeth cwsmeriaid
Darllenwch ein siarter cwsmeriaid i ddeall ein hymrwymiad i chi a鈥檙 hyn sydd ei angen oddi wrthych i鈥檔 helpu i gyflawni鈥檔 cenhadaeth.
1.1 Gohebiaeth ysgrifenedig
Ein nod yw ymateb i ohebiaeth ysgrifenedig a negeseuon ebost o fewn 5 diwrnod gwaith.
Nid yw鈥檙 safon hon yn berthnasol i geisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data (DDD) na鈥檙 Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG). Byddwn yn ymateb i geisiadau DDD o fewn mis ac i geisiadau DRhG o fewn 20 diwrnod gwaith.
1.2 Galwadau ff么n
Os byddwch yn ein ffonio, byddwn yn ceisio ateb eich cwestiwn ar unwaith. Ond os na allwn wneud hyn, fe gysylltwn 芒 chi o fewn 5 diwrnod gwaith i roi ateb neu i ddweud pryd y gallwch ddisgwyl un.
Gall defnyddwyr Ff么n Testun a Minicom gysylltu 芒 ni gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth trosglwyddo testun. Defnyddiwch 18001 cyn y rhif.
1.3 Cymorth ar-lein
Ein nod yw ymateb i bostiadau ar ein blog a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol o fewn 2 awr yn ystod oriau gwasanaeth (rhwng 9am a 5pm yn ystod yr wythnos waith) ac o fewn diwrnod gwaith y tu allan i oriau gwasanaeth (ar benwythnosau a thros nos).
Trwy ddefnyddio鈥檙 fforwm, rydych yn cytuno i lynu wrth ein polisi trafod.
1.4 Cyngor
Rydym yn cynnig cyngor fel rhan o鈥檔 proses trin ceisiadau a thrwy ein cymorth i gwsmeriaid a chyhoeddiadau.
Dim ond y canlynol a gynigir gennym:
- gwybodaeth ffeithiol, sy鈥檔 cynnwys cop茂au swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl, chwiliadau, ffurflenni a ff茂oedd
- cyngor am weithdrefnau, sy鈥檔 cynnwys egluro sut mae鈥檙 system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud ceisiadau
Os oes problem gyda鈥檆h cais, gallwn roi cyngor i chi o ran natur y broblem a pha ddewisiadau allai fod ar gael i鈥檞 ddatrys, ond ni allwn roi cyngor am ba gamau i鈥檞 cymryd.
Nid ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol ac ni allwn argymell cynghorydd proffesiynol, ond gallwn egluro sut i ddod o hyd i un.
Rydym yn rhoi cyngor am geisiadau go iawn yn unig, nid am amgylchiadau damcaniaethol. Ni fyddwn yn mynegi barn am faterion lle bo鈥檙 gyfraith yn gymhleth neu鈥檔 aneglur oni bai bod y cwestiwn yn berthnasol i gais i gofrestru sy鈥檔 cael ei brosesu.
Wrth roi cyngor, byddwn yn osgoi creu gwrthdaro rhwng buddion gan gydnabod y gall ein geiriau effeithio ar eraill.
1.5 Ffurfiau eraill
Rydym yn cynnig rhywfaint o wybodaeth ar ffurfiau eraill, megis t芒p sain neu brint bras. Cysylltwch 芒 ni os oes angen gwybodaeth arnoch ar ffurf arall ac fe wnawn ein gorau i helpu.
1.6 Pridiannau Tir Lleol
Pan wneir cais am wybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, byddwn yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
1.7 Awgrymiadau, canmoliaeth neu gwynion
Bydd awgrymiadau ar gyfer gwelliannau鈥檔 cael eu hystyried bob amser, ond efallai na fydd yn bosibl i ni eu gweithredu.
Bydd unrhyw ganmoliaeth a gawn yn cael ei throsglwyddo i鈥檙 staff dan sylw.
Os ydych yn cwyno, ni fyddwn yn gwahaniaethu yn eich erbyn a byddwn yn amhleidiol wrth ymchwilio i鈥檆h cwyn. Byddwn yn:
Byddwn yn:
- cydnabod eich cwyn o fewn 24 awr
- adolygu ac ymateb i鈥檆h cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith o dan Gam 1 ein trefn gwyno fewnol
Ymdrinnir 芒 phob cwyn gan ddilyn ein trefn gwyno.
1.8 Ymddygiad afresymol
Rydym yn trin pob un o鈥檔 cwsmeriaid 芒 chwrteisi a pharch a disgwyliwn i鈥檔 staff gael eu trin yn yr un modd.
Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad afresymol:
- defnyddio bygythiadau, camdriniaeth ar lafar, iaith hiliol neu rywiaethol, sylwadau difr茂ol, neu dermau ymosodol eraill
- gwrthod derbyn ein gweithdrefnau trwy fynnu cyfathrebu ag aelodau penodol o staff uwch yn unig
- cysylltu 芒 gwahanol aelodau o staff neu wneud ceisiadau niferus gyda鈥檙 bwriad o gael gwahanol ymateb i鈥檙 hyn a ddatganwyd eisoes
- cysylltu 芒 ni鈥檔 barhaus ynghylch materion sydd y tu hwnt i鈥檔 cylch gorchwyl neu nad oes gennym reolaeth drostynt
Os byddwn yn ystyried eich ymddygiad yn afresymol:
- byddwn yn dweud wrthych pam ein bod yn ei ystyried yn afresymol
- byddwn yn gofyn i chi ei newid
- byddwn yn dweud wrthych pa gamau y byddwn yn eu cymryd os na fyddwch yn newid eich ymddygiad
Os bydd ymddygiad afresymol yn parhau, byddwn yn cymryd camau i reoli鈥檆h cysylltiad 芒 ni. Gallai hyn gynnwys:
- peidio ag ymateb i鈥檆h gohebiaeth
- atal gohebiaeth electronig
- terfynu galwadau ff么n difr茂ol neu ymosodol
- gofyn i chi gysylltu ag aelod penodol o staff yn unig
- cyfyngu cysylltiad dros y ff么n i ddiwrnodau ac amseroedd penodol yn unig
- cyfyngu unrhyw gysylltiad i ffurf ysgrifenedig yn unig
- cyfyngu ar y materion y byddwn yn gohebu 芒 chi yn eu cylch
- gwrthod cyfathrebu ar fater penodol
- darllen a ffeilio gohebiaeth heb ymateb, oni bai ei fod yn darparu gwybodaeth neu dystiolaeth newydd am y mater (gweler Ar 么l i ni roi ein hymateb terfynol)
- gofyn am gysylltiad trwy drydydd parti annibynnol, ee Canolfan Cyngor ar Bopeth, cynrychiolydd cyfreithiol neu drawsgludwr
Os oes gennych anabledd neu fater iechyd meddwl, byddwn yn ystyried a yw eich ymddygiad afresymol yn gysylltiedig 芒鈥檙 materion hynny ac yn asesu effaith posibl cyfyngiadau a osodir gennym.
Os ydych yn anfodlon 芒鈥檙 ffordd y cyfyngwyd ar eich mynediad, dylech godi鈥檆h pryderon trwy ein trefn gwyno.
1.9 Ar 么l i ni roi ein hymateb terfynol
Os byddwn yn ystyried bod ymateb terfynol am fater penodol wedi ei roi, byddwn yn esbonio hynny ac yn dweud wrthych na fyddwn yn parhau i ymateb yn ei gylch.
Caiff hyn ei ystyried:
- pan nad oes mwy y gellir ei ychwanegu鈥檔 ddefnyddiol at yr hyn a ddywedwyd eisoes
- pan fo鈥檆h ymddygiad yn afresymol
Unwaith y bydd y penderfyniad hwn wedi鈥檌 wneud, ni fyddwn fel rheol yn cysylltu 芒 chi ar y mater hwnnw, heblaw:
- bod angen ailadrodd terfyniad
- codwyd mater neu dystiolaeth newydd
- codir cwyn newydd ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd 芒鈥檙 mater