Canllawiau

Sut rydym ni鈥檔 delio 芒 phryderon diogelu

Yma, cewch wybod sut mae cael help os oes gennych chi bryderon bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso dan atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu orchymyn llys dirprwy.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Y sawl a wnaeth atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yw鈥檙 鈥榬hoddwr鈥� ac mae鈥檔 rhoi awdurdod i un neu fwy o bobl y mae鈥檔 ymddiried ynddynt a elwir yn 鈥榓twrneiod鈥�.

惭补别鈥檙 Llys Gwarchod yn penodi rhywun (鈥榙irprwy鈥�) i wneud penderfyniadau ar ran person sydd heb alluedd meddyliol (鈥榗leient鈥�) dan orchymyn llys dirprwy.

Gyda pha fath o bryderon gallwn ni helpu

Efallai eich bod yn poeni am y canlynol:

  • sut mae atwrnai wedi gweithredu ers inni gofrestru鈥檙 atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus 鈥� er enghraifft, camddefnyddio arian y rhoddwr neu benderfyniadau nad ydynt er lles gorau鈥檙 rhoddwr
  • a yw atwrnai wedi gwneud atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yn gyfreithlon
  • sut mae dirprwy wedi gweithredu ers cael ei benodi gan y Llys Gwarchod

Yn 么l y gyfraith, gallwn archwilio鈥檙 pryderon hyn a dechrau ymchwiliad.

Sut i roi gwybod am bryder

Os ydych am roi gwybod am bryder, gallwch ein helpu i amddiffyn y rhoddwr neu鈥檙 cleient yn gyflym drwy ddarparu:

  • manylion y rhoddwr neu鈥檙 cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
  • y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
  • a yw鈥檙 pryder yn parhau
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi鈥檙 pryder 鈥� er enghraifft, cofnodion ariannol
  • beth rydych chi鈥檔 ei wybod am alluedd meddyliol y rhoddwr neu鈥檙 cleient, gan gynnwys cop茂au o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau pwy allai fod 芒鈥檙 rhain
  • eich manylion cyswllt

Os nad yw鈥檙 holl wybodaeth hon gennych, gallwch ddal i roi gwybod inni am bryder.

Byddwn wedyn yn asesu a oes gennym yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.

Beth sy鈥檔 digwydd yn ystod ymchwiliad

Rydym yn adolygu amgylchiadau drwy gydol ein hymchwiliadau ac os ydym ni鈥檔 meddwl bod angen i asiantaethau eraill fod yn rhan o ddiogelu鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 cleient, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn:

  • gofyn i ymwelydd Llys Gwarchod asesu galluedd meddyliol y rhoddwr ac, os yw鈥檔 bosibl, holi鈥檙 rhoddwr am y pryderon sydd wedi dod i law
  • gofyn i鈥檙 atwrneiod neu鈥檙 dirprwyon am esboniadau a thystiolaeth am y pryderon
  • gofyn i鈥檙 gwasanaethau cymdeithasol am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am alluedd meddyliol, cyllid a gofal y person, ac a oes unrhyw un wedi rhoi gwybod i鈥檙 awdurdod lleol am bryderon diogelu
  • gofyn am waith papur megis cyfriflenni banc, derbynebau a phapurau cyfreithiol a meddygol

Mewn rhai achosion, gallem:

Pasio i asiantaeth arall

Os oes pryderon nad oes gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus na鈥檙 Llys Gwarchod yr awdurdod i weithredu arnynt, byddwn yn trosglwyddo鈥檙 achos i asiantaeth arall a all weithredu. Er enghraifft, byddwn yn atgyfeirio oedolion sy鈥檔 agored i niwed i鈥檙 awdurdod lleol.

Pasio i鈥檙 heddlu

Byddwn yn dweud wrth yr heddlu os ydym ni鈥檔 meddwl bod trosedd wedi鈥檌 chyflawni.

Pa mor hir mae ymchwiliad yn ei gymryd

Mae hynny鈥檔 dibynnu ar ba mor gymhleth ydyw, faint o bobl sy鈥檔 gysylltiedig a pha mor gyflym y mae pobl yn rhoi gwybodaeth inni. Rydym yn ceisio cwblhau ymchwiliad o fewn 14 wythnos.

Beth sy鈥檔 digwydd ar ddiwedd ymchwiliad

Gallwn gymryd unrhyw un o鈥檙 camau canlynol:

Camau pellach

Os canfyddwn fod pryderon ynghylch y ffordd y mae鈥檙 atwrnai neu鈥檙 dirprwy yn cyflawni ei r么l, byddwn yn gofyn iddo gymryd camau penodol. Efallai y byddwn yn gwneud hyn hyd yn oed os ydym yn credu eu bod yn gweithredu er budd gorau鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 cleient yn gyffredinol.

Byddwn yn monitro鈥檙 achos nes bydd y camau wedi cael eu cymryd a鈥檔 bod ni鈥檔 fodlon 芒鈥檙 canlyniadau.

Peidio 芒 chymryd camau pellach

Os ydym wedi ymchwilio ac wedi canfod bod atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu er budd gorau鈥檙 person y mae鈥檔 gwneud penderfyniadau drosto, ni fyddwn yn cymryd camau pellach.

Mae hyn yn wir hefyd os ydym wedi trosglwyddo manylion y pryder i asiantaeth arall.

Gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod

Os oes gennym bryderon difrifol am les rhoddwr neu gleient, gallwn ofyn i鈥檙 Llys Gwarchod wneud penderfyniad.

Gall y Llys Gwarchod gymryd camau megis:

  • rhewi cyfrifon banc rhoddwr neu gleient
  • gorchymyn yr atwrnai neu鈥檙 dirprwy i ddarparu gwybodaeth inni

Fel dewis olaf, gallwn ofyn i鈥檙 Llys Gwarchod:

  • diddymu atwrneiaeth arhosol
  • diswyddo atwrnai neu ddirprwy
  • penodi person addas i gymryd lle鈥檙 atwrnai neu鈥檙 dirprwy

Os caiff yr atwrnai neu鈥檙 dirprwy ei ddisodli

Os byddwn yn gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod i ddiswyddo atwrnai neu ddirprwy, byddwn yn gofyn iddo ystyried rhywun arall (dirprwy) i gymryd yr awenau gyda materion y rhoddwr neu鈥檙 cleient

Wrth bwy rydym yn dweud am ganlyniad ymchwiliad

Byddwn yn dweud wrth bobl sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 ymchwiliad am ein penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, rydym yn gwarchod preifatrwydd rhoddwyr a chleientiaid felly nid ydym yn darparu gwybodaeth fanwl ac efallai na fyddwn yn darparu unrhyw wybodaeth.

Efallai na fyddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad os ydych wedi codi pryder gyda ni ac nid ydych wedi鈥檆h enwi ar yr atwrneiaeth arhosol neu os nad ydych yn rhan o gorff proffesiynol.

Gwybodaeth bersonol

Nid ydym yn datgelu pwy yw unrhyw un sy鈥檔 rhoi gwybod inni am bryder, oni bai eu bod yn dweud fel arall wrthym.

Dim ond am y rhesymau hyn yr ydym yn rhannu gwybodaeth am bryderon neu ymchwiliadau y tu allan i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus:

  • gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod
  • dweud wrth yr heddlu am drosedd bosibl
  • cael help gan awdurdod lleol neu asiantaeth arall
  • o dan , y a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)

Edrychwch ar ein siarter gwybodaeth bersonol bersonol i gael manylion llawn ein polisi preifatrwydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Awst 2024 show all updates
  1. Update to explain people may not be informed about the outcome of an investigation

  2. Adding the Welsh language version of the content

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon