Canllawiau

Sut i ddewis asiant treth

Dysgwch am yr hyn y dylech ei ystyried os hoffech ddefnyddio asiant treth i ryngweithio 芒 CThEF ar eich rhan.

Gallwch benderfynu defnyddio ymgynghorydd treth neu asiant treth i ryngweithio 芒 CThEF ar eich rhan, yn enwedig os oes gennych faterion treth cymhleth.

Os byddwch yn penderfynu bod angen asiant treth arnoch, sicrhewch eich bod yn cymryd gofal wrth fynd ati i ddewis yr asiant treth sy鈥檔 iawn i chi. Mae hyn oherwydd mai chi sy鈥檔 gyfrifol am eich materion treth eich hun, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant treth.

Sut i ddewis a oes angen asiant treth arnoch neu beidio

Cyn i chi ddewis asiant treth, dylech ystyried a allwch ddelio 芒 CThEF eich hun. Gallwch wneud hyn drwy鈥檆h cyfrif treth personol 苍别耻鈥檆丑 cyfrif treth busnes.

Gallwch hawlio ad-daliad treth ar 188体育. Does dim angen i chi ddefnyddio asiant i wneud hyn ar eich rhan.

Bydd asiant yn codi ffioedd arnoch am hawlio ad-daliad treth ar eich rhan.

Gallwch hefyd gael help drwy wneud y canlynol:听

Yr hyn y mae angen i chi ei ystyried

Os byddwch yn penderfynu defnyddio asiant treth, dylech wneud y canlynol:

  • gwirio鈥檌 wefan i weld y fath o wasanaethau treth y mae鈥檔 eu cynnig
  • darllen ei delerau ac amodau er mwyn deall y sefyllfa o ran y canlynol:
    • y ffioedd y byddwch yn eu talu
    • y contract cyfreithiol y gallech fod yn cytuno i ymrwymo ag ef
    • y gwasanaeth yr ydych yn cofrestru amdano
  • gwirio鈥檙 ffioedd y bydd yr asiant yn eu codi, yn ogystal 芒 sut a phryd y bydd angen i chi dalu鈥檙 ffioedd hyn
  • ymchwilio i鈥檞 enw da a鈥檌 waith hanesyddol (er enghraifft, chwilio am ei dudalen Facebook neu ei adolygiadau ar-lein)听
  • sicrhau bod y profiad cywir ganddo i鈥檆h helpu (er enghraifft, sectorau masnachu neu fusnesau o faint penodol)听
  • gwirio ei fod yn gallu darparu鈥檙 holl wasanaethau y mae eu hangen arnoch (er enghraifft, gwasanaethau y gyflogres, gwaith archwilio neu fuddsoddiadau)听
  • gofyn os yw wedi鈥檌 gofrestru i gael mynediad at wasanaethau CThEF ar-lein er mwyn gwneud eich treth mewn ffordd ddigidol听
  • cadarnhau ei fod yn ymwybodol o safonau CThEF ar gyfer asiantau, ac yn bodloni鈥檙 safonau hyn
  • gwirio a yw鈥檆h ymgynghorydd yn meddu ar y cymwysterau proffesiynol perthnasol, neu os yw鈥檔 aelod o gorff proffesiynol cyfrifeg neu gorff proffesiynol treth

Dylech wneud yn si诺r eich bod yn cysylltu 芒 chwpl o wahanol asiantau cyn dewis yr un sy鈥檔 darparu鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 addas ar eich cyfer.听

Dylech gwrdd 芒鈥檙 person a fydd yn rhyngweithio 芒 CThEF ar eich rhan, a chael gwybod costau ei wasanaethau.

Chi sy鈥檔 gyfrifol am y ffigurau a nodwyd ar eich Ffurflen Dreth, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant. Peidiwch 芒 llofnodi Ffurflen Dreth wag a鈥檌 rhoi i鈥檆h asiant treth i鈥檞 llenwi 鈥� dylech wneud yn si诺r eich bod yn gwirio鈥檆h Ffurflen Dreth cyn ei llofnodi.

Peidiwch byth 芒 rhannu鈥檆h Dynodydd Defnyddiwr na鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth gyda鈥檆h asiant.

Sut mae cyrff proffesiynol ar gyfer asiantau treth yn gweithio

Byddwch yn ymwybodol y gall unrhyw un alw eu hunain yn asiant treth 鈥� nid oes rhaid iddo feddu ar gymwysterau penodol nac fod wedi cael hyfforddiant proffesiynol, ac nid yw CThEF yn rheoleiddio asiantau.听

Mae nifer o asiantau treth ac ymgynghorwyr treth yn aelodau o gyrff proffesiynol cyfrifeg neu gyrff proffesiynol treth. Mae鈥檙 sefydliadau hyn yn darparu cymwysterau perthnasol i鈥檞 haelodau, ac yn eu helpu i gadw鈥檔 gyfredol drwy hyfforddiant proffesiynol parhaus. Bydd cyrff proffesiynol hefyd yn adolygu ymddygiad eu haelodau, ac yn cymryd camau os ni fydd ymddygiad yr aelodau hyn yn bodloni鈥檙 safonau proffesiynol. Mae hefyd yn fwy tebygol y byddai gan aelodau o gyrff proffesiynol yswiriant indemniad proffesiynol 鈥� gall yr yswiriant hwn helpu i鈥檆h diogelu os bydd pethau yn mynd o鈥檌 le.

Defnyddio asiant treth i gyflwyno hawliadau am ad-daliad TWE neu Dreth Incwm

O 26 Chwefror 2024 ymlaen, os hoffech enwebi asiant i gael ad-daliad ar eich rhan, dylai鈥檙 asiant hwnnw ymchwilio i鈥檙 hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn cael ad-daliadau TWE neu Dreth Incwm ar ran pobl eraill.

Os gwnaeth asiant gyflwyno hawliad ar eich rhan, ac nad ydych wedi clywed unrhyw beth ynghylch yr hawliad ar 么l 28 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

Yr hyn i鈥檞 wneud nesaf

Unwaith i chi ddewis asiant, mae鈥檔 rhaid i chi ei benodi a鈥檌 awdurdodi er mwyn iddo allu delio 芒 CThEF ar eich rhan.

Dysgwch sut i benodi rhywun i ddelio 芒 CThEF ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Gorffennaf 2024 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. Information about what to do if you submit your claim by an agent and have not been contacted after 28 days.

  3. From 26 February 2024, if you want to nominate an agent to receive a repayment on your behalf, they should find out what they need to do to receive Income Tax or PAYE repayments on behalf of others.

  4. Information about tax agents needing an agent services account to submit Income Tax or PAYE repayment claims on behalf of others has been added.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon