Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Sut i ychwanegu ffynonellau incwm, neu eu dod i ben, addasu’ch taliadau ar gyfrif, diwygio Ffurflen Dreth sydd wedi’i chyflwyno neu ‘dal i fyny� ar eich cofnodion digidol a diweddariadau chwarterol.

Ar ôl cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau. Efallai mai mater o roi gwybod unwaith yn unig fydd hyn, neu efallai y byddwch chi’n rhoi gwybodaeth newydd mewn perthynas â newid.

Byddwch yn gallu rhoi gwybod am y rhan fwyaf o newidiadau gan ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein CThEF sydd gennych yn barod. Fel arall, bydd angen i chi gysylltu â’n tîm cymorth penodedig i gwsmeriaid.

Ychwanegu ffynhonnell incwm newydd

Er mwyn cynnwys ffynhonnell incwm newydd, boed yn incwm o hunangyflogaeth neu o eiddo, dylech ei hychwanegu at eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF. Gellir gwneud hyn yn yr adran ‘Rheoli eich diweddariadau Treth Incwm�. Os ydych yn asiant, gellir gwneud hyn yn yr adran ‘Rheoli manylion Treth Incwm eich cleient�.

Bydd angen i chi roi manylion ynghylch eich ffynonellau incwm o hunangyflogaeth ac o eiddo. Mae hyn yn cynnwys y dyddiad dechrau, os yw’r dyddiad hwnnw o fewn y 2 flynedd ddiwethaf. Ar gyfer ffynonellau incwm o eiddo, dyma’r dyddiad y gwnaethoch chi ddechrau cael incwm rhent. Bydd angen i chi hefyd gadarnhau pa ddull cyfrifyddu y byddwch chi’n ei ddefnyddio, gan y dylai’r un dull gael ei ddefnyddio ar gyfer pob ffynhonnell incwm.

Yna, dylech wirio’ch meddalwedd er mwyn sicrhau bod manylion y busnes wedi’u diweddaru. Efallai y bydd angen i chi adnewyddu hyn yn eich meddalwedd. Yna, gallwch chi anfon diweddariadau chwarterol, a fydd yn cynnwys eich ffynhonnell incwm newydd.

Os na allwch chi gadw cofnodion digidol o’r ffynhonnell incwm newydd, bydd yn dal i fod angen i chi roi gwybod amdani gan ddefnyddio’ch meddalwedd cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa Treth Incwm yn derfynol. Os na allwch chi roi gwybod am eich ffynhonnell incwm newydd drwy feddalwedd sy’n cydweddu, bydd angen i chi optio allan o’r cyfnod profi.

Dod â ffynhonnell incwm i ben

Gallwch chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF er mwyn dod â ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu o eiddo i ben. Gellir gwneud hyn yn yr adran ‘Rheoli eich diweddariadau Treth Incwm�. Gallwch chi wneud hyn drwy nodi’r dyddiad y daeth y ffynhonnell incwm i ben.

Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF, ni fydd angen i chi anfon unrhyw ddiweddariadau chwarterol ar ôl i’r busnes ddod i ben.

Optio allan yn ystod y cyfnod profi

Os ydych wedi cofrestru’n wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch chi optio allan ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod profi.

Os byddwch chi’n dewis optio allan, ni fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm mwyach i anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer incwm na threuliau o hunangyflogaeth neu eiddo. Bydd diweddariadau rydych chi wedi’u hanfon yn cael eu dileu ar gyfer y flwyddyn dreth rydych chi’n optio allan ar ei chyfer.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer. Dylech chi hefyd fynd ati i gael gwybod a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a phryd y dylech chi wneud hynny.

Gallwch chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF er mwyn optio allan. Gellir gwneud hyn yn yr adran ‘Rheoli eich diweddariadau Treth Incwm� o’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Ewch i’r adran ‘Bwrw golwg dros ddyddiadau cau a rheoli sut rydych yn adrodd� er mwyn rhoi gwybod i ni eich bod chi’n dymuno optio allan.

Os mai asiant ydych chi, byddwch chi’n gallu gwneud hyn unwaith eich bod wedi cael eich awdurdodi a’ch bod yn gallu cael at gyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF eich cleient.

Addasu eich taliadau ar gyfrif

Mae taliadau ar gyfrif yn daliadau a wneir ymlaen llaw tuag at eich bil treth (gan gynnwys Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, os ydych chi’n hunangyflogedig).

Os ydych chi’n gwybod y bydd eich bil treth yn is na’r flwyddyn ddiwethaf, gallwch chi ostwng eich taliadau ar gyfrif. Gallwch chi wneud hyn yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Ewch i’r adrannau ‘Yr hyn sydd arnoch� ac ‘Addasu taliadau ar gyfrif� ar gyfer y flwyddyn dreth.

Diwygio Ffurflen Dreth

Os gwnaethoch chi gyflwyno Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’r feddalwedd a ddewiswyd gennych ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a’ch bod o fewn y cyfnod ar gyfer gwneud diwygiadau, cysylltwch â’r tîm cymorth i gwsmeriaid er mwyn trafod sut i wneud diwygiad.

Os gwnaethoch chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur neu ar-lein ar gyfer blwyddyn flaenorol, dilynwch yr arweiniad er mwyn�gwneud newidiadau i Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Yr hyn i’w wneud os byddwch yn cofrestru yn ystod y flwyddyn dreth

Os byddwch yn cofrestru ar ôl i’r flwyddyn dreth ddechrau, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • ‘dal i fynyâ€� ar eich hollâ€�gofnodion digidol aâ€�diwygiadau chwarterol
  • dechrau cadw cofnodion digidol o’r dyddiad y byddwch chi neu’ch cleient yn cofrestru, a mynd ati i ddiweddaru cofnodion cynharach yn nes ymlaen

Er enghraifft, gallwch ddewis ‘dal i fyny� yn nes ymlaen os nad ydych fel arfer yn troi at y broses o gadw cofnodion tan ddiwedd y flwyddyn dreth.

Mae’n rhaid creu’r holl gofnodion digidol ac anfon yr holl ddiweddariadau chwarterol cyn cyflwyno’r Ffurflen Dreth (y dyddiad cau ar gyfer gwneud hyn yw 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn dreth dan sylw).

Ni fydd y sawl a wnaeth gofrestru’n gynnar ar gyfer y cyfnod profi Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael unrhyw gosbau ar ddiweddariadau chwarterol hwyr ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026.

Darllenwch ragor am gosbau a fydd yn berthnasol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os byddwch yn dewis ‘dal i fyny� yn nes ymlaen

Gallwch anfon Ffurflenni Treth ‘dim� ar gyfer cyfnodau diweddaru cynharach a ddaeth i ben cyn i chi gofrestru. Unwaith i chi greu cofnodion digidol, bydd y cofnodion hyn yn cael eu hychwanegu at y diweddariad chwarterol nesaf y byddwch yn ei anfon. Os byddwch yn creu eich cofnodion digidol ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, bydd angen i chi ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol.