Anfon diweddariadau chwarterol

Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.

Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy鈥檔 cydweddu yn adio eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych, a hynny er mwyn creu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a thraul. Gelwir y crynodebau hyn yn 鈥榙iweddariadau chwarterol鈥�.鈥�

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.

Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis. Mae鈥檙 arweiniad hwn yn nodi鈥檙 cyfnodau diweddaru a鈥檙 dyddiadau cau. Bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod i chi pryd i anfon diweddariadau a sut i wneud hynny.

O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y cyfnodau y mae鈥檆h diweddariadau chwarterol yn eu cwmpasu yn newid i adlewyrchu dyluniad symlach newydd, a fydd yn ei gwneud hi鈥檔 haws i chi gywiro camgymeriadau yn ystod y flwyddyn dreth. Bydd hyn yn golygu nad oes angen i chi ailanfon y diweddariad chwarterol gwreiddiol ar 么l gwneud cywiriad.

Yr hyn y bydd yn cael ei anfon yn eich diweddariadau chwarterol

Bydd y diweddariadau chwarterol y byddwch yn eu hanfon i CThEF yn cynnwys:

  • incwm a threuliau eich busnes o鈥檙 3 mis blaenorol

  • y cofnodion digidol rydych wedi eu creu yn barod ers dechrau鈥檙 flwyddyn dreth, ac unrhyw gywiriadau rydych wedi鈥檜 gwneud iddyn nhw

Er enghraifft, bydd eich trydydd diweddariad chwarterol (sy鈥檔 ddyledus ar 5 Chwefror) yn anfon eich cofnodion i CThEF ar gyfer:

  • eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo o 6 Hydref i 5 Ionawr

  • eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo o 6 Ebrill i 5 Hydref rydych wedi鈥檌 hanfon atom yn barod, gan gynnwys unrhyw gywiriadau rydych wedi鈥檜 gwneud iddyn nhw

Bydd CThEF:

  • yn cael cyfansymiau ar gyfer pob categori perthnasol o ran incwm a threuliau yn seiliedig ar eich cofnodion digidol ar gyfer y cyfnod hwnnw

  • yn peidio 芒 chael manylion cofnodion digidol unigol

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.

Os nad ydych wedi cael unrhyw incwm nac wedi ysgwyddo unrhyw dreuliau yn ystod y cyfnod diweddaru diwethaf, bydd dal angen i chi ddatgan hyn i ni drwy gyflwyno鈥檆h diweddariad chwarterol.

Ar 么l cyflwyno diweddariad, byddwch yn gallu gweld amcangyfrif o鈥檆h bil treth ar gyfer incwm eich busnes yn eich meddalwedd neu yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Os ydych wedi dewis cadw cofnodion digidol o ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd, efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybod amdanynt yn ystod y flwyddyn dreth ond ni fyddant yn cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol. Os na allwch roi gwybod am eich cofnodion digidol yn ystod y flwyddyn dreth, neu os ydych yn dewis peidio 芒 rhoi gwybod amdanynt, bydd angen i chi eu datgan cyn i chi gadarnhau鈥檆h sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol a chyflwyno eich Ffurflen Dreth.

Gallwch ddysgu mwy am y categor茂au o wybodaeth y dylech ei anfon i CThEF yn eich diweddariad chwarterol yn yr Hysbysiad diweddaru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Gwirio鈥檙 hyn y mae cyfnodau diweddaru yn eu golygu i chi

Gallwch ddefnyddio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • cyfnodau diweddaru safonol 鈥� mae鈥檙 rhain yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)

  • cyfnodau diweddaru calendr 鈥� mae鈥檙 rhain yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis ac yn ei gwneud hi鈥檔 haws i chi gadw cofnodion os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth

Os oes gennych asiant, dylech siarad ag ef os ydych yn ansicr yngl欧n 芒鈥檆h cyfnod cyfrifyddu.

Os ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru safonol

Mae鈥檙 cyfnodau diweddaru safonol yn seiliedig ar y flwyddyn dreth.

Unwaith i bob cyfnod diweddaru ddod i ben, mae angen i chi anfon eich diweddariad cyn pen mis.

Unwaith i鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fod yn ofynnol yn 么l y gyfraith, os nad ydych yn anfon eich diweddariad erbyn y dyddiad cau perthnasol, gallwch gael cosb am gyflwyno鈥檔 hwyr. Nid yw鈥檙 cosbau hyn yn berthnasol yn ystod y cyfnod profi.

Yn ystod y cyfnod profi, gallwch gofrestru ran o鈥檙 ffordd drwy鈥檙 flwyddyn dreth a ni fyddwch yn cael pwynt cosb a ni chodir unrhyw gosbau arnoch am gyflwyno diweddariadau chwarterol ar 么l y dyddiadau cau. Gallwch ddarllen mwy ynghylch 鈥榙al i fyny鈥� os bydd eich amgylchiadau鈥檔 newid.

Mae鈥檙 tabl canlynol yn nodi鈥檙 cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol o 6 Ebrill 2025 ymlaen.

Cyfnodau diweddaru Dyddiad cau ar gyfer diweddaru
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 5 Awst
6 Ebrill i 5 Hydref 5 Tachwedd
6 Ebrill i 5 Ionawr 5 Chwefror
6 Ebrill i 5 Ebrill 5 Mai

Os ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru calendr

Gallwch ddewis anfon diweddariadau chwarterol sy鈥檔 dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis, os yw鈥檆h meddalwedd yn eich galluogi i wneud hynny 鈥斅爂elwir y rhain yn 鈥榗yfnodau diweddaru calendr鈥�. Bydd hyn yn ei gwneud hi鈥檔 haws i gadw鈥檆h cofnodion os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Bydd angen i chi fodloni鈥檙 un dyddiadau cau a ddefnyddir gan y cyfnodau diweddaru safonol.

Os ydych am ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd cyn eich diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth.

Bydd cyfnodau diweddaru calendr yn parhau i fod yn berthnasol oni bai eich bod yn penderfynu newid yn 么l i gyfnodau diweddaru safonol.

Os byddwch yn dewis newid yn 么l i gyfnodau diweddaru safonol, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru safonol yn eich meddalwedd cyn i鈥檙 diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth. Unwaith i chi gyflwyno diweddariad, ni fyddwch yn gallu newid yn 么l i gyfnodau diweddaru safonol tan y flwyddyn dreth nesaf.

Mae鈥檙 tabl canlynol yn nodi鈥檙 cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol o 6 Ebrill 2025 ymlaen.

Cyfnodau diweddaru Dyddiad cau ar gyfer diweddaru
1 Ebrill i 30 Mehefin 5 Awst
1 Ebrill i 30 Medi 5 Tachwedd
1 Ebrill i 31 Rhagfyr 5 Chwefror
1 Ebrill i 31 Mawrth 5 Mai

Pryd y dylech anfon eich diweddariadau

Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis.

Gallwch ddewis anfon diweddariadau yn amlach, er enghraifft, os ydych am ddeall sut mae derbyniadau neu dreuliau busnes sylweddol yn effeithio ar eich bil treth amcangyfrifedig. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd sy鈥檔 cydweddu yn eich galluogi i anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.

Os ydych yn dewis anfon diweddariadau yn amlach, bydd angen iddyn nhw gwmpasu鈥檙 cyfnod diweddaru yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, yn lle cyflwyno un diweddariad sy鈥檔 cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf, gallwch ddewis cyflwyno 3 diweddariad misol sy鈥檔 cwmpasu:

  • 6 Ebrill i 5 Mai
  • 6 Ebrill i 5 Mehefin
  • 6 Ebrill i 5 Gorffennaf

Os nad ydych yn disgwyl y bydd gennych unrhyw drafodion pellach i鈥檞 cofnodi, gallwch anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru. Er enghraifft, efallai eich bod yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod na chwaith yn cael incwm pellach.

Os ydych yn landlord sydd ag eiddo wedi鈥檜 hosod ar y cyd

Os oes gennych eiddo wedi鈥檜 hosod ar y cyd, gallwch ddewis cynnwys y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:

  • cyfanswm yr holl incwm a threuliau o鈥檙 eiddo hynny

  • incwm o鈥檙 eiddo hynny yn unig, heb gynnwys y treuliau

Os ydych yn penderfynu peidio 芒 chynnwys y treuliau hynny, mae鈥檔 rhaid i chi ddatgan yr wybodaeth hon ar ddiwedd y flwyddyn dreth cyn i chi gadarnhau鈥檆h sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol.

Bydd yn dal i fod angen i chi gynnwys y canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:

  • eich cyfran chi o鈥檙 incwm o鈥檙 eiddo hynny sydd wedi鈥檜 hosod ar y cyd聽聽

  • unrhyw incwm a threuliau sy鈥檔 ymwneud ag eiddo sydd o dan eich perchnogaeth chi yn unig