Cofrestru

Gwiriwch a allwch chi neu鈥檆h cleient gofrestru鈥檔 gynnar, sut i ddewis y feddalwedd gywir ac awdurdodi asiant treth a meddalwedd.

Cyn cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi ddewis meddalwedd sy鈥檔 gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os oes gennych asiant, bydd angen i鈥檆h asiant hefyd sefydlu鈥檙 awdurdodiadau cywir fel y gallant weithredu ar eich rhan.

Gall asiantau gofrestru eu cleientiaid unwaith y byddant yn cael eu caniat芒d a鈥檜 hawdurdodiad gan ddefnyddio eu cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hwn yn wahanol i鈥檙 cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau.

Os oes gennych asiant

Gall unig fasnachwyr a landlordiaid ddefnyddio asiant (fel llyfrifwr neu gyfrifydd) i helpu gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Ar 么l ei awdurdodi, gall asiant helpu gyda phob tasg neu rai tasgau, gan gynnwys:

  • cofrestru busnes eu cleient

  • defnyddio meddalwedd i greu a chadw cofnodion digidol ar gyfer eu cleientiaid

  • anfon diweddariadau chwarterol

  • cyflwyno ffurflen dreth i CThEF ar 么l diwedd y flwyddyn dreth

Ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid

Os ydych eisoes wedi awdurdodi鈥檆h asiant ar gyfer Hunanasesiad, nid oes angen i chi eu hawdurdodi eto ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Dylech wneud y canlynol:

  • trafod opsiynau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a meddalwedd gyda鈥檆h asiant

  • cytuno pwy fydd yn rheoli pob rhan o鈥檙 broses a thasgau penodol

  • gwneud yn si诺r bod gan eich asiant y manylion cywir am eich busnesau neu eiddo, gan gynnwys am ffynonellau incwm

Ar gyfer asiantau

I weithredu ar ran eich cleientiaid, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • creu cyfrif gwasanaethau asiant, os nad oes gennych un eisoes

  • cael awdurdodiad gan eich cleient

  • cop茂o unrhyw awdurdodiadau Hunanasesiad presennol i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant

Dysgwch ragor am awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Ar 么l cael eich awdurdodi, gallwch gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ran eich cleient. Dylai鈥檆h cleient wirio bod yr wybodaeth ar eu Ffurflen Dreth yn gywir cyn ei gyflwyno.

Dewis meddalwedd sy鈥檔 cydweddu

Bydd angen meddalwedd arnoch chi neu鈥檆h asiant sy鈥檔 gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i gofrestru. Wrth ddewis meddalwedd, ystyriwch y canlynol:

  • anghenion eich busnes

  • os yw wedi鈥檌 gynllunio ar gyfer math o fusnes penodol (fel landlordiaid)

  • a ddylid defnyddio un cynnyrch neu sawl cynnyrch gyda鈥檌 gilydd

Os ydych am gofrestru ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026, gwiriwch gyda鈥檆h darparwr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ystod y cyfnod hwn.

Dod o hyd i feddalwedd sy鈥檔 gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Awdurdodi鈥檆h meddalwedd

Ar 么l i chi gofrestru, mae angen cysylltu鈥檆h meddalwedd sy鈥檔 cydweddu 芒 CThEF ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I awdurdodi鈥檆h meddalwedd, gwnewch y canlynol:

  1. Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth i mewn i鈥檆h meddalwedd.

  2. Dilynwch gyfarwyddiadau鈥檙 feddalwedd i gwblhau cofrestru.

Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 ID Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth a defnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • Hunanasesiad

  • cyfrif gwasanaethau asiant, os ydych yn asiant

Bydd pob cynnyrch yn gweithio鈥檔 wahanol yn dibynnu ar faint mae鈥檙 darparwr meddalwedd wedi ei ddatblygu.

Bydd angen i chi adnewyddu鈥檙 cysylltiad hwn bob 18 mis. Dylai鈥檆h meddalwedd eich atgoffa pryd mae鈥檔 bryd ailgysylltu.

Yr hyn i鈥檞 wneud nesaf

Dysgwch sut i reoli鈥檆h cyfrif treth ar-lein newydd ar 么l i chi gofrestru.