Canllawiau

Ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Sut i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a gwirio pa awdurdodiadau sydd eisoes wedi鈥檜 hychwanegu.

Cyn i chi gofrestru鈥檆h cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant.

Os nad ydych eisoes wedi鈥檆h awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad, dylech ddilyn y camau yn eich cyfrif i ofyn i鈥檆h cleient eich awdurdodi.

Os ydych eisoes wedi鈥檆h awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad, dylech wneud y canlynol:

  1. Gwirio pa awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad sydd eisoes wedi鈥檜 hychwanegu i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant o鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

  2. Ychwanegu eich awdurdodiadau i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant o鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, os oes angen i chi wneud hynny.

Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych eisoes wedi鈥檆h awdurdodiad ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy ysgwyd llaw鈥檔 ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad oes gennych gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi greu un.

Gwirio鈥檆h awdurdodiadau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Cyn ychwanegu eich awdurdodiadau, gallwch wirio pa awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad sydd eisoes wedi鈥檜 hychwanegu i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant o鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant a dewiswch yr opsiwn i 鈥榊chwanegu awdurdodiadau presennol ar gyfer Hunanasesiad at y cyfrif hwn鈥�.

Os ydych eisoes wedi ychwanegu awdurdodiadau, byddwch yn gweld rhestr o鈥檙 Dynodyddion Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd wedi鈥檜 hychwanegu. Ni fyddwch yn gweld rhestr o gleientiaid unigol.

Os yw鈥檙 Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd wedi鈥檌 gysylltu 芒鈥檆h cleient:

Ychwanegu eich awdurdodiadau i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant

Bydd angen i chi ddilyn y camau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Hunanasesiad o鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Bydd ychwanegu awdurdodiadau yn golygu:

  • bod gennych fynediad at eich awdurdodiadau gan gleientiaid yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF o hyd 鈥� byddwch yn dal i allu defnyddio eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer Hunanasesiad ac ar gyfer cleientiaid nad oes angen iddynt ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • bod yn rhaid i鈥檆h cleient fynd ati i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm 鈥� bydd angen i chi ddilyn y camau yn y gwasanaeth ar gyfer cofrestru er mwyn gwneud hynny

Pan fyddwch yn ychwanegu awdurdodiad, bydd eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn cael ei gysylltu 芒鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hyn yn golygu:

  • os byddwch yn ychwanegu neu鈥檔 diweddaru cleient ar gyfer Hunanasesiad yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, dylai鈥檙 newid hwn gael ei adlewyrchu yn eich cyfrif gwasanaethau asiant
  • os nad ydych yn gweithio gyda chleient mwyach, bydd angen i chi fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF a鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant i ddileu ei awdurdodiad

Os nad ydych wedi eich awdurdodi gan eich cleient, ni all y broses o gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gael ei chwblhau.

Ar 么l i鈥檆h cleient gael ei awdurdodi yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Gallwch gofrestru鈥檆h cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025

Argraffu'r dudalen hon