Ar ôl i chi gofrestru

Sut i gael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd a sut i gael cymorth penodedig.

Ar ôl cofrestru, byddwch chi neu’ch cleient yn gallu defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol. 

Byddwch hefyd yn cael mynediad at o fewn CThEF, a gallwch ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein CThEF er mwyn adolygu a diweddaru manylion busnes. �

Cyn i chi barhau, dylech wirio eich bod wedi cwblhau’r holl gamau ar gyfer cofrestru, gan gynnwys awdurdodi’ch meddalwedd. 

Cael mynediad at eich gwasanaeth treth newydd ar-lein �

Unwaith eich bod wedi cofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol newydd drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF presennol. �

Ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid �

Defnyddiwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEF � dyma’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer Hunanasesiad.

Yna, dewiswch y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os na allwch gael mynediad at y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel gwasanaeth, gallwch ei ychwanegu â llaw: �

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.

  2. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer ychwanegu treth at eich cyfrif er mwyn cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun.

  3. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

  4. Atebwch y cwestiynau diogelwch.

Ar gyfer asiantau �

Unwaith i chi gael eich awdurdodi gan eich cleient, gallwch gael mynediad at ei fanylion Troi Terth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o hafan eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Yr hyn y gallwch ei wneud yn eich cyfrif ar-lein �

Mae’ch cyfrif ar-lein CThEF hefyd yn eich galluogi i gael mynediad at wybodaeth am eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gallwch ei ddefnyddio er mwyn gwneud y canlynol:

  • bwrw golwg dros gyfrifiadau treth Hunanasesiad
  • bwrw golwg dros gyfnodau diweddariadau chwarterol
  • bwrw golwg dros ddyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol a Ffurflenni Treth Hunanasesiad
  • gwirio’r hyn sydd arnoch
  • bwrw golwg dros eich manylion Hunanasesiad a manylion eich busnes eiddo
  • ychwanegu busnes newydd
  • rhoi gwybod i ni pryd mae ffynhonnell incwm yn dod i ben
  • gwneud taliad
  • hawlio ad-daliadau Hunanasesiad
  • addasu taliad ar gyfrif
  • bwrw golwg dros statws eich cais am ad-daliad Hunanasesiad
  • optio allan o ddiweddariadau chwarterol (gall pob cwsmer sy’n cofrestru’n wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wneud hyn)

Ar gyfer newidiadau eraill i fanylion busnes, cysylltwch â’n tîm cymorth i gwsmeriaid. �

Yr hyn y gallwch ei wneud yn y dyfodol �

Byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth i wneud y canlynol:�

  • trefnu taliadau rheolaidd (oni bai am asiantau na all drefnu debyd uniongyrchol cleient)
  • diweddaru manylion busnes
  • argraffu cyfrifiadau treth Hunanasesiad
  • bwrw golwg dros gosb ac apelio yn ei herbyn

Os ydych yn asiant, byddwch hefyd yn gallu cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer cleientiaid nad ydynt yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Beth i’w wnued nesaf

Bydd angen i chi neu’ch cleient ddechrau creu cofnodion digidol o incwm a threuliau er mwyn anfon diweddariadau chwarterol.