Canllawiau

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig

Dysgwch am ryddhad Treth Gorfforaeth gallwch hawlio am gostau ar Ymchwil a Datblygu os ydych yn fenter fach a chanolig gyda chyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024.

Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cwblhau cyn gweithio allan pa ryddhad y gallwch ei hawlio. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.

Beth yw’r rhyddhad

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig (MBaChau) gyda chyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch hawlio o dan y cynllun Ymchwil a Datblygu cyfunol.

Mae’r rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer MBaChau yn caniatáu i’ch cwmni wneud y canlynol:

  • didynnu 86% ychwanegol o’ch costau cymhwysol o’ch elw masnachu at ddibenion treth, yn ogystal â’r didyniad arferol o 100%, gan wneud cyfanswm y didyniad yn 186%

  • hawlio credyd treth taladwy os yw’r cwmni wedi hawlio rhyddhad ac wedi gwneud colled

Mae’r credydau treth taladwy yn werth hyd at:

  • 10% o’r golled y gellir ei hildio

  • 14.5% o’r golled y gellir ei hildio os yw’r cwmni’n bodloni’r amod dwyster ar gyfer gwariant ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023 (darllenwch yr adran sut i fodloni cyflwr dwyster y canllaw hwn)

Os ydych yn gwneud hawliad am y tro cyntaf, efallai y byddwch yn gallu hawlio am sicrwydd ymlaen llaw. Mae hwn yn gynllun gwirfoddol y gallwch ei ddefnyddio fel gwarant (os derbynnir eich cais) y bydd unrhyw hawliad Ymchwil a Datblygu am ostyngiad treth yn cael ei dderbyn yn unol â’r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd yn eich cais.

Prosiectau nad ydynt yn gymwys

Ni allwch hawlio’r rhyddhad treth hwn ar gyfer prosiect os yw’r canlynol yn wir:

  • mae yn y celfyddydau, dyniaethau neu’r gwyddorau cymdeithasol (gan gynnwys economeg)

  • rydych wedi cael rhyddhad Ymchwil a Datblygu, rhyddhad ymchwil brechlynnau neu’r ddau, sy’n gyfanswm o fwy na 7.5 miliwn ewro ar gyfer y prosiect

  • rydych wedi cael unrhyw Gymorth Gwladwriaethol arall (gan eithrio’r rhyddhad treth MBaCh) ar gyfer y prosiect

  • mae ar gyfer gwaith sydd wedi’i is-gontractio i chi

  • mae’n cael cymhorthdal mewn rhyw ffordd arall, er enghraifft drwy grant, ond efallai y gallwch hawlio ar gyfer y rhan nad yw’n cael cymhorthdal

Dysgwch a allwch hawlio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu yn lle.

Pwy all hawlio

I hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig, mae’n rhaid i’ch cwmni fod â’r canlynol:

  • llai na 500 o staff

  • trosiant o lai na 100 miliwn ewro, neu gyfanswm y fantolen o dan 86 miliwn ewro

  • cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024

Mae’n rhaid i chi gynnwys staff, trosiant a mantolenni unrhyw gwmnïau cysylltiedig neu bartneriaid yn eich cyfanswm pan fyddwch yn cyfrifo a allwch hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer MBaChau.

Mentrau cysylltiedig a phartner

Bydd angen i chi gynnwys cyfran o’r staff, trosiant a mantolenni partner neu fentrau cysylltiedig. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ganran yr hawliau pleidleisio a chyfalaf sy’n cysylltu’r mentrau.

Er enghraifft, os ydych yn berchen ar 30% o fenter arall, dylech gynnwys 30% o’i staff, ei drosiant a’i fantolenni wrth gyfrifo a ydych yn MBaCh.

Mentrau cysylltiedig

Mae eich cwmni yn gysylltiedig ag un arall os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich cwmni’n dal dros 50% o’r hawliau pleidleisio mewn menter arall

  • mae menter arall yn dal dros 50% o’r hawliau pleidleisio yn eich cwmni

  • mae gan eich cwmni hawliau eraill sy’n caniatáu iddo reoli menter arall

  • mae gan gwmni arall hawliau eraill sy’n caniatáu iddo reoli eich cwmni

  • mae eich cwmni chi, yn ogystal â menter arall, yn cael eu rheoli gan barti arall

Mentrau sy’n bartneriaid

Mae gennych fenter sy’n bartner os yw’r canlynol yn wir:

  • mae cwmni arall yn dal o leiaf 25% o’ch hawliau pleidleisio neu gyfalaf

  • rydych yn dal 25% neu fwy o hawliau pleidleisio neu gyfalaf menter arall

Sut i fodloni’r amod dwyster

Mae cwmni’n bodloni’r amod dwyster os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n hawlio ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024

  • mae ei wariant Ymchwil a Datblygu perthnasol o leiaf 30% o gyfanswm ei wariant (gan gynnwys gwariant unrhyw gwmnïau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg))

Yn gyffredinol, bydd angen i chi fodloni’r amod am y cyfnod y gwneir yr hawliad amdano.

Bydd cyfnod gras hefyd ar waith, sy’n golygu y gallwch hawlio os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi bodloni’r amod yn ystod eich cyfnod cyfrifo 12 mis diwethaf

  • rydych wedi gwneud hawliad dilys i gael rhyddhad MBaCh neu gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn y cyfnod hwnnw yn seiliedig ar wariant a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Bydd angen i chi ystyried y cyfnodau canlynol:

Bydd angen i chi nodi’r costau sy’n ymwneud â’r cyfnodau dan sylw. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â chyfnod cyfrifyddu’r hawliwr, defnyddiwch yr union ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dull rhesymol i ddyrannu costau’r cwmni cysylltiedig i’r cyfnod a gwmpesir gan gyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, lle bo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol i’r hawliad:

  • mae yna gamgymhariad o gyfnodau cyfrifyddu rhwng yr hawliwr ac un neu fwy o’r cwmnïau cysylltiedig

  • mae cwmni cysylltiedig dramor (ac felly nad oes ganddo gyfnod cyfrifyddu at ddibenion treth yn y DU)

O dan rai amgylchiadau, efallai y byddai’n briodol rhannu’r costau ar sail amser (diwrnod). Mewn achosion eraill, bydd angen ystyried pryd gododd y costau er mwyn cael canlyniad teg, er enghraifft, lle bo gwariant Ymchwil a Datblygu yn codi mewn ffordd anghyson yn ystod gyfnod. Dylid defnyddio unrhyw sail a ddewiswch yn gyson, a dylech allu esbonio’n effeithiol pam rydych wedi’i ddefnyddio.

Diffinnir ‘gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol� fel costau y gellid hawlio rhyddhad Ymchwil a Datblygu arnynt am y cyfnod dan sylw, p’un a wneir hawliad ai peidio. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i’r gwariant hwn hefyd fod yn rhan o gyfanswm y costau perthnasol.

Mae cyfanswm y gwariant perthnasol yn cynnwys y canlynol:

Nid yw’n cynnwys y canlyno:

Os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE

Ni all y credyd treth a gewch yn y cyfnod cyfrifyddu fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch eithrio o’r cap.

Y swm cap TWE yw £20,000 plws 300% o rwymedigaethau perthnasol y cwmni o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol a TWE.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cap CIRD90600-PAYE (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf

Os yw’ch cwmni a’ch prosiect yn gymwys i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer MBaChau, gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw i ddarganfod a fydd eich hawliad yn cael ei dderbyn.

Mae’n rhaid i chi hefyd wirio a oes angen i chi i roi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio’r rhyddhad hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mai 2024 show all updates
  1. Added translation

  2. Information about how to meet the Research and Development (R&D) intensity condition for loss-making SMEs has been added.

  3. The 'Staff costs' section has been updated to include the treatment of bonuses and clarify that in some specific circumstances, you can claim for an element of administrative or support staff if they relate to an R&D project. The 'Subcontractor costs' section, second bullet point has been updated to tell you that you can claim for the relevant R&D costs if the subcontractor is connected to your company. The information on when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.

  4. Added translation

  5. More information has been added about small and medium-sized company R&D tax relief, the companies that can claim, when you cannot claim and which costs qualify for tax relief. How to calculate the enhanced expenditure and how to claim have been updated. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim the tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  6. Information about how to claim relief, including what you need to complete before using the online service to send details to support your claim has been updated in the 'How to claim R&D relief' and 'How to support your claim' section. The 'Making of the R&D easier for small companies guide' has now been removed from the 'Overview' section.

  7. The email address to send details for more than 10 research and development projects has been updated.

  8. Information about how you can now use the online service to support your Research and Development tax relief claim has been added.

  9. The date to make amended claims for reimbursed expenses has been changed from 31 January 2018 to 30 April 2018.

  10. Guidance updated to advise companies if they receive more than �500,000 a year in state aid, certain details will be published on the European Commission website.

  11. First published.

Argraffu'r dudalen hon