Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu: Y cynllun cyfun a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Dysgwch a allwch hawlio o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer (ERIS) cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cwblhau cyn gweithio allan pa ryddhad y gallwch ei hawlio. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.
Cymorth ychwanegol dwys a’r cynllun cyfun
Mae’r cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS) yn disodli’r hen gynllun RDEC a’r cynllun mentrau bach a chanolig (MBaChau) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024. Mae’r rheolau gwariant yr un peth ar gyfer y ddau gynllun, ond mae’r cyfrifiad yn wahanol.
Gallwch ddewis hawlio o dan y cynllun cyfun hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, ond ni allwch hawlio o dan y ddau gynllun am yr un gwariant.
Sut i optio allan o gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (NI ERIS) ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon
Os yw’ch cwmni wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (NI ERIS), mae’n rhaid i chi ddilyn darpariaethau Gogledd Iwerddon. Gallwch ddewis optio allan os ydych yn Menter Bach a Chanolig gyda swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon ac mae’ch gweithgareddau busnes yn cynnwys:
- dim elfen o fasnach mewn nwyddau
- dim gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â’r farchnad drydan
Bydd angen i chi roi gwybod eich bod am optio allan pan fyddwch yn darparu gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad Ymchwil a Datblygu.
Gallwch ddysgu mwy am ddarpariaethau ERIS Gogledd Iwerddon ac optio allan yn Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu (R&D): Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon.
Dylech barhau i ddarllen yr arweiniad hwn i ddysgu mwy am wneud hawliad.
Pwy all hawlio
Mae’r cynllun cyfun yn gredyd gwariant trethadwy, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau sydd:
- yn masnachu
- yn agored i Dreth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- sydd â phrosiect sy’n bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu
Mae’r credyd gwariant hwn yn agored i Dreth Gorfforaeth gan ei fod yn cael ei ystyried yn incwm masnachu.
Cyfraddau credyd gwariant
Ar gyfer gwariant o dan y cynllun cyfun, cyfradd y credyd gwariant Ymchwil a Datblygu yw 20%.
Mae cyfraddau gwahanol yn berthnasol i fasnachau wedi’u diogelu (yn agor tudalen Saesneg).
Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)
Mae cymorth ychwanegol dwys yn caniatáu i MBaChau ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled wneud y canlynol:
-
didynnu 86% ychwanegol o’u costau cymhwysol wrth gyfrifo eu colled masnachu wedi’i haddasu, yn ogystal â’r didyniad o 100% sydd eisoes yn ymddangos yn y cyfrifon (neu yn y cyfrifiannau o ganlyniad i a1308 o CTA 2009), gan wneud cyfanswm y didyniad yn 186%
-
hawlio credyd treth taladwy nad yw’n agored i dreth ac sy’n werth hyd at 14.5% o’r golled y gellir ei hildio
Dylai cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon hefyd gyfeirio at yr arweiniad Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu: Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon.
Pwy all hawlio
Gallwch ond hawlio’r rhyddhad hwn os ydych yn MBaCh sy’n gwneud colled. I bennu a yw’ch busnes yn MBaCh, darllenwch CIRD91000, diffiniad o MBaCh (yn agor tudalen Saesneg).
Mae MBaCh yn gwneud colled os yw’n gwneud colled masnachu at ddibenion treth cyn i’r didyniad ychwanegol gael ei dynnu. Oni bai eich bod wedi gwneud colled masnachu o’r fath, ni fydd gennych hawl i’r didyniad hwnnw nac unrhyw gredyd treth taladwy.
I hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r amod dwyster canlynol.
Yr amod dwyster
Mae cwmni’n bodloni’r amod dwyster os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’n hawlio ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
-
mae ei wariant Ymchwil a Datblygu perthnasol o leiaf 30% o gyfanswm ei wariant (gan gynnwys gwariant unrhyw gwmnïau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg))
Yn gyffredinol, bydd angen i chi fodloni’r amod am y cyfnod y gwneir yr hawliad amdano.
Bydd cyfnod gras hefyd ar waith, sy’n golygu y gallwch hawlio os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
-
rydych wedi bodloni’r amod yn ystod eich cyfnod cyfrifo 12 mis diwethaf
-
rydych wedi gwneud hawliad dilys i gael rhyddhad MBaCh neu gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn y cyfnod hwnnw yn seiliedig ar wariant a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023
Bydd angen i chi ystyried y cyfnodau canlynol:
-
y cyfnod cyfrifyddu y gwneir yr hawliad amdano
-
unrhyw gyfnod rhoi cyfrif ar gyfer personau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) (ledled y byd) sy’n gorgyffwrdd â chyfnod cyfrifyddu yr hawliwr
Bydd angen i chi nodi’r costau sy’n ymwneud â’r cyfnodau dan sylw. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â chyfnod cyfrifyddu’r hawliwr, defnyddiwch yr union ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dull rhesymol i ddyrannu costau’r cwmni cysylltiedig i’r cyfnod a gwmpesir gan gyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, lle bo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol i’r hawliad:
-
mae yna gamgymhariad o gyfnodau cyfrifyddu rhwng yr hawliwr ac un neu fwy o’r cwmnïau cysylltiedig
-
mae cwmni cysylltiedig dramor (ac felly nad oes ganddo gyfnod cyfrifyddu at ddibenion treth yn y DU)
O dan rai amgylchiadau, efallai y byddai’n briodol rhannu’r costau ar sail amser (diwrnod). Mewn achosion eraill, bydd angen ystyried pryd gododd y costau er mwyn cael canlyniad teg, er enghraifft, lle bo gwariant Ymchwil a Datblygu yn codi mewn ffordd anghyson yn ystod gyfnod. Dylid defnyddio unrhyw sail a ddewiswch yn gyson, a dylech allu esbonio’n effeithiol pam rydych wedi’i ddefnyddio.
Diffinnir ‘gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol� fel costau y gellid hawlio rhyddhad Ymchwil a Datblygu arnynt am y cyfnod dan sylw, p’un a wneir hawliad ai peidio. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i’r gwariant hwn hefyd fod yn rhan o gyfanswm y costau perthnasol.
Mae cyfanswm y gwariant perthnasol yn cynnwys y canlynol:
-
costau sy’n cael eu hystyried o dan Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol (GAAP) (yn agor tudalen Saesneg) wrth gyfrifo elw’r fasnach � os paratoir eich cyfrifon yn gywir o dan GAAP, bydd y costau hyn yn ymddangos yn eich cyfrif elw a cholled, neu’ch datganiad incwm, fel costau sy’n cyfrannu at yr elw cyn treth
-
unrhyw gostau cyn-fasnachu y byddai rhyddhad ar gael iddynt o dan
-
unrhyw symiau a ddidynnwyd wrth wneud cyfrifiant treth o dan a1308 o CTA 2009, Amodau i’w bodloni (yn agor tudalen Saesneg) � caniateir fel didyniad wrth gyfrifiannu’r elw
Nid yw’n cynnwys y canlynol:
-
unrhyw symiau o amorteiddiad a gafodd eu rhoi yn ôl wrth wneud cyfrifiant treth o dan a1308 o CTA 2009, Amodau i’w bodloni (yn agor tudalen Saesneg) � caniateir fel didyniad wrth gyfrifiannu’r elw
-
unrhyw gostau sy’n cynnwys taliad, neu drosglwyddiad arall o werth, i gwmni cysylltiedig arall
Os nad ydych yn MBaCh dwys sy’n gwneud colled
Gall MBaChau sydd heb Ymchwil a Datblygu dwys, sy’n gwneud elw ac sydd â gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol hawlio rhyddhad o dan y cynllun cyfunol.
Os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE
Ni all swm y credyd gwariant neu gredyd treth a gewch yn y cyfnod cyfrifyddu fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch eithrio o’r cap.
Swm y cap TWE yw £20,000 plws 300% o rwymedigaethau perthnasol y cwmni o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol a TWE � darllenwch CIRD140000 i gael gwybodaeth am y cap TWE (yn agor tudalen Saesneg).
Cwmnïau sydd wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Os ydych yn gwmni MBaCh sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, nid ydych yn destun cyfyngiadau ar gyfer rhyddhad ar y canlynol:
- taliadau i gontractwyr tramor
- darparwyr gweithwyr tramor a ddarperir yn allanol (EPWs)
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn CIRD150000 - Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu: Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes unrhyw wariant na allwch ei hawlio fel rhan o gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio RDEC am y gwariant hwnnw o dan y cynllun cyfuno newydd, ar yr amod eich bod yn bodloni’r rheolau. Er enghraifft, gall hyn fod oherwydd y terfynau de minimis ar gyfer y sector rydych yn masnachu ynddo.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn:
- CIRD110000 - Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu: Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
- Gwybodaeth ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno cyn i chi wneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu
Os ydych yn hawlio o dan y cynllun cyfun ac mae’r swm yn fwy na’r cap, mae unrhyw beth sydd dros ben yn cael ei gario ymlaen fel credyd gwariant Ymchwil a Datblygu y gallwch ei hawlio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu nesaf.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Os yw’ch cwmni a’ch prosiect yn gymwys i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer MBaChau, gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw i gadarnhau y bydd eich hawliad yn cael ei dderbyn.
Mae’n rhaid i chi wirio a oes angen i chi i roi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio’r rhyddhad hwn.
Updates to this page
-
A new section on ‘How to opt out of enhanced R&D intensive support (NI ERIS) for companies registered in Northern Ireland� has been added to ‘Connected companies�. A new section on ‘Companies registered in Northern Ireland and claiming enhanced R&D intensive support' has been added to ‘If your credit exceeds the PAYE cap�.
-
Updated the section 'Enhanced R&D intensive support' to clarify when a small and medium-sized enterprise is considered loss-making.
-
Made it clear that all expenditure is subject to a payment condition, instead of some.
-
First published.