Canllawiau

Elusennau: gweithio gyda chwmn茂au a chodwyr arian proffesiynol

Sut gall eich elusen weithio gyda busnesau a chodwyr arian proffesiynol i godi arian neu ymwybyddiaeth gyhoeddus.

This guidance was withdrawn on

This information is covered in our guidance Charity fundraising: a guide to trustee duties (CC20).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Partneriaethau masnachol

Gall eich elusen ffurfio partneriaeth fasnachol i godi arian, er enghraifft gyda:

  • manwerthwr sy鈥檔 cytuno i roi canran o elw gwerthu rhai eitemau i elusen
  • darparwr cerdyn credyd sy鈥檔 rhoi canran o bob trafodiad i elusen

Gall hyn gynnwys arddangos enw a logo eich elusen ar gynnyrch.

Gall unrhyw elusen weithio gyda chwmni, waeth beth fo鈥檌 maint.

Y manteision i elusennau sy鈥檔 gweithio gyda chwmn茂au

Gallai gweithio gyda chwmni gynhyrchu mwy o incwm i鈥檆h elusen a鈥檆h helpu i gyflawni nod eich elusen. Gall manteision eraill gynnwys:

  • mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o鈥檆h achos
  • sylw yn y cyfryngau a allai eich gwneud yn fwy poblogaidd
  • mynediad i adnoddau鈥檙 cwmni, megis staff 芒 sgiliau arbenigol
  • annog mwy o bobl i wirfoddoli i chi

Diogelu enw ac enw da eich elusen

Mae enw ac enw da eich elusen yn asedau gwerthfawr. Gallai cwmni elwa鈥檔 fawr o gael defnyddio鈥檆h enw drwy ffurfio partneriaeth 芒 chi.

Dylech gymryd camau priodol i ddiogelu enw eich elusen, megis sicrhau bod yr hawl genych i atal y cwmni rhag defnyddio eich enw yn y dyfodol. Efallai y bydd rhaid i chi geisio cyngor cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol arall er mwyn deall gwerth eich enw a sut i鈥檞 ddiogelu.

Gall llunio partneriaeth 芒 sefydliad masnachol effeithio ar enw da eich elusen. Er enghraifft, dylech fod yn wyliadwrus rhag gweithio gyda chwmni sydd wedi masnachu鈥檔 anfoesegol oherwydd gallai hyn adlewyrchu鈥檔 wael arnoch chi.

Gwnewch yn si诺r eich bod chi鈥檔 ymchwilio i unrhyw gwmni cyn llofnodi cytundeb.

Cyn mynd i bartneriaeth 芒 busnes, dylech ymchwilio i weld:

  • a oes gan y cwmni hanes o gefnogi elusennau - oedden nhw鈥檔 llwyddiannus yn y gorffennol?
  • a yw鈥檔 ariannol gadarn - a phrofi hyn?
  • a yw鈥檔 arddel gwerthoedd a moeseg debyg - ydyn nhw鈥檔 cyd-fynd 芒 rhai eich elusen chi?

Cynllunio i gydweithio

Gall gweithio gyda sefydliad arall fel hyn arwain at anghytuno, lle mae ymagwedd wahanol gan bob parti tuag at weithio. Dylech chi roi cynlluniau yn eu lle i ddelio 芒 meysydd o wrthdaro posibl, megis:

  • brand, enwau a logos yr elusen - sut y c芒nt eu defnyddio
  • hawlfraint, digwyddiadau, gwasanaethau a chynhyrchion - pwy sy鈥檔 berchen arnynt
  • rolau a chyfrifoldebau - sut y c芒nt eu dyrannu
  • arian - sut y caiff ei drosglwyddo rhwng y ddau barti
  • llwyddiant prosiect - sut byddwch yn gwybod a ydych wedi cyrraedd eich nod

Codwyr arian proffesiynol

Efallai fod eich elusen yn ceisio cyrraedd adran ehangach o鈥檙 cyhoedd a chynyddu ei phroffil. Os nad oes digon o adnoddau neu gysylltiadau gan eich elusen i godi arian yn effeithiol, gallech ystyried talu codwyr arian proffesiynol i godi arian ar eich rhan.

Gall busnesau codi arian gynnig:

  • codwyr arian stryd hyfforddedig
  • casgliadau o ddrws i ddrws
  • gwasanaethau marchnata dros y ff么n
  • ymgyrchoedd post uniongyrchol wedi鈥檜 teilwra

Dylech ymchwilio i bob cwmni codi arian yn ofalus cyn penderfynu gweithio gydag un ohonynt. Bydd y cwmni hwn yn eich cynrychioli chi鈥檔 gyhoeddus felly mae鈥檔 bwysig i:

  • gael geirdaon gan elusennau eraill - oes enw da gan y cwmni?
  • gofynnwch sut i dalu - oes rhaid i chi dalu ymlaen llaw ac a fyddwch yn cael cyfran deg o鈥檙 arian a godir?
  • ceisiwch wybod sut mae鈥檙 cwmni yn hyfforddi gweithwyr - fydd staff yn gallu ateb cwestiynau am waith eich elusen?
  • ymchwiliwch i鈥檙 hyn y gall codwyr arian eraill ei gynnig - ydych chi鈥檔 cael y gwerth gorau?

Gallech hefyd ofyn a yw鈥檙 codwr arian proffesiynol yn aelod o gorff sector cymeradwy, megis neu .

Y gofynion cyfreithiol pan fyddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill

Yn 么l y gyfraith, mae鈥檔 rhaid i chi gael contract ysgrifenedig i weithio gyda chodwr arian proffesiynol neu bartner masnachol. Efallai yr hoffech geisio cyngor proffesiynol cyn llunio cytundeb o鈥檙 fath.

Am arweiniad pellach darllenwch:

Dylai鈥檙 cwmni rydych yn gweithio gydag ef ddarparu i roddwyr cyn i arian gael ei drosglwyddo. Rhaid iddo ddatgan yn glir y bydd eich elusen yn elwa ar y rhodd a faint y byddwch yn ei gael.

Hefyd darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar faterion treth pan fyddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2013

Argraffu'r dudalen hon