Masnachu gan elusennau: gwerthu nwyddau a gwasanaethau
Pryd y gall elusennau fasnachu, rheolau treth a phryd i fasnachu trwy gwmni ar wah芒n.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Beth yw masnachu
Os ydych am werthu nwyddau neu wasanaethau, bydd rhaid i chi wybod a yw鈥檆h gweithgareddau yn cael eu hystyried yn fath o fasnachu, ac os ydynt, pa fath o fasnachu y byddwch yn ei wneud. Efallai y bydd rhaid talu treth ar yr elw sy鈥檔 codi o rai mathau o fasnachu.
Mae penderfynu a ydych yn masnachu neu beidio yn gallu dibynnu ar nifer ac amlder eich trafodion, ymysg ffactorau eraill. Er enghraifft, nid yw gwerthu nwyddau a roddwyd mewn siop elusennol yn cael ei ystyried yn fath o fasnachu felly ni fyddai鈥檔 rhaid talu treth ar unrhyw elw.
Cewch wybod rhagor yma am yr hyn sy鈥檔, a鈥檙 hyn nad yw鈥檔, cael ei ystyried yn fath o fasnachu.
Mathau o fasnachu
Mae dau brif fath o fasnachu i elusennau: 鈥榤asnachu prif ddiben鈥� a masnachu 鈥榟eb fod yn brif ddiben鈥�. Mae goblygiadau treth gwahanol i鈥檙 mathau gwahanol hyn o fasnachu.
Cewch wybod rhagor am fasnachu gan elusennau a threth gan .
Masnachu prif ddiben: gwerthu i hyrwyddo nod eich elusen
Mae gwerthu nwyddau neu wasanaethau sy鈥檔 hyrwyddo nod eich elusen yn uniongyrchol fel y鈥檜 nodir yn eich dogfen lywodraethol yn cael ei alw masnachu prif ddiben.
Mae enghreifftiau o fasnachu prif ddiben yn cynnwys:
- cartref gofal sy鈥檔 codi t芒l am ddarparu gwasanaethau tai a gofal i bobl h欧n
- elusen i鈥檙 anabl sy鈥檔 gwerthu cynnyrch wedi鈥檌 wneud gan ei fuddiolwyr
- theatr elusennol sy鈥檔 gwerthu tocynnau ar gyfer ei gynhyrchiad
Gallech hefyd werthu nwyddau neu wasanaethau sy鈥檔 cefnogi eich masnachu prif ddiben - er enghraifft, gwerthu bwyd a diod i aelodau cynulleidfa yng nghaffi theatr. Gelwir hyn yn 鈥榝asnachu ategol鈥�.
Gall yr elw o fasnachu prif ddiben a masnachu ategol gael ei eithrio o dreth, ond dim ond os yw鈥檙 elw yn cael ei ddefnyddio鈥檔 gyfan gwbl i hyrwyddo nod eich elusen.
Masnachu heb fod yn brif ddiben: gwerthu i godi arian
Gallwch hefyd werthu nwyddau neu wasanaethau i godi arian yn unig: yr enw am hyn yw masnachu heb fod yn brif ddiben. Nid oes gan y math hwn o fasnachu gysylltiad uniongyrchol 芒 nod eich elusen.
Gallai masnachu heb fod yn brif ddiben gynnwys:
- gwerthu cardiau cyfarch neu eitemau tebyg
- theatr elusennol sy鈥檔 rhedeg caffi sy鈥檔 gwerthu bwyd a diod i aelodau鈥檙 cyhoedd, yn hytrach nag i aelodau鈥檙 gynulleidfa
Gall elusennau ymgymryd 芒 masnachu heb fod yn brif ddiben os nad oes unrhyw risg arwyddocaol y gallai鈥檙 elusen golli arian o鈥檙 fenter hon.
Fel arfer bydd yr elw o fasnachu heb fod yn brif ddiben yn drethadwy, er y caiff ei ddefnyddio i hyrwyddo nod yr elusen.
Masnachu cymysg
Gall rhai gweithgareddau masnachu gymysgu masnachu prif ddiben a masnachu heb fod yn brif ddiben. Er enghraifft, gall siop amgueddfa werthu llyfrau sy鈥檔 ymwneud ag arddangosfa (cysylltiedig 芒鈥檜 nodau) a rhai pennau hyrwyddo (heb fod yn gysylltiedig 芒鈥檙 nodau o gwbl). Yn 么l y gyfraith, mae鈥檔 rhaid i chi gofnodi鈥檙 gwerthiannau hyn ar wah芒n yn eich cyfrifon os ydych chi鈥檔 cymysgu mathau o fasnachu fel hyn.
Sut i ddiogelu eich elusen rhag colli arian
Mae pob elusen yn agored i risg os ydynt yn masnachu, ond os yw鈥檆h elusen yn disgwyl gwneud swm sylweddol o fasnachu, gallai鈥檆h elusen fod yn agored i fwy o risg o golli arian. Er enghraifft, gall poblogrwydd eich busnes bylu, gan droi elw yn golled. Un ffordd o leihau鈥檙 risg i鈥檆h elusen yw sefydlu 鈥榠s-gwmni masnachu鈥�.
Mae is-gwmni masnachu yn gwmni y mae鈥檆h elusen yn ei reoli. Yn 么l y gyfraith mae ganddo鈥檙 un statws cyfreithiol ag unigolyn. Felly, gall cwmni, fel unigolyn, berchen ar dir a llunio contractau yn ei enw ei hun.
Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio is-gwmni masnachu ar gyfer masnachu heb fod yn fasnachu prif ddiben os oes risg arwyddocaol y gallai鈥檆h elusen golli arian.
Gwybod rhagor am y risg i elusennau sy鈥檔 masnachu fel hyn.
Mae rhai costau ychwanegol yn gysylltiedig 芒 sefydlu cwmni sy鈥檔 cael ei reoleiddio gan D欧鈥檙 Cwmn茂au.
Gall y ffordd hon o weithredu fod yn gymhleth i鈥檞 sefydlu. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyngor ar faterion treth ac is-gwmn茂au masnachu, ac mae鈥檔 bosib y bydd rhaid i chi ymgynghori 芒 chyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol tebyg: